Wednesday 13 February 2013

Hwyl Hanner Tymor

Hwyl Hanner Tymor
Er nad oes byth sicrwydd y bydd y tywydd yn sych dros hanner tymor, nid yw hynny'n golygu bod yn rhaid ichi aros gartref gyda'ch plant. Pam na fentrwch allan yn ystod hanner tymor i fwynhau rhai o atyniadau Sir Gaerfyrddin, gan fod digon o bethau i'w gwneud yn y sir beth bynnag fo'r tywydd a hynny heb dalu crocbris.

Cynhelir Gwersylloedd Gwyliau Bizzy Bees ar gyfer plant 8-12 oed yn rhai o Ganolfannau Hamdden Sir Gaerfyrddin  Y gwersylloedd gwyliau hyn yw'r lle perffaith ar gyfer plant yn ystod gwyliau'r ysgolion. Bydd y plant yn brysur drwy gydol y dydd yn gwneud ystod eang o weithgareddau hwyl o dan oruchwyliaeth staff arbenigol a hwyliog. Mae'n bosibl y bydd eich plentyn yn cael cymryd rhan mewn rhai o'r gweithgareddau canlynol yn ystod y gwersylloedd: Polo Dŵr, Trampolinio, Snorcelu, Carate, Criced, Pêl-droed, Rygbi, Nofio a Gemau Olympaidd Bach. Gallwch archebu lle am ddiwrnodau unigol neu'r wythnos gyfan. Mae archebu lle am yr wythnos yn golygu y cewch ostyngiad. I gael rhagor o wybodaeth am y Bizzy Bees ffoniwch eich canolfan hamdden leol neu fynd i wefan www.actifsirgar.co.uk
Os ydych ond yn chwilio am ddiwrnodau allan am ddim, unwaith eto edrychwch ar yr hyn sydd ar gael gan ein canolfannau hamdden. Maent yn cynnig rhaglen nofio ar gyfer plant iau lle gall plant nofio am ddim am 2 awr bob diwrnod drwy gydol gwyliau'r ysgolion.
Os ydych am gael prynhawn mwy addysgol gallwch ymweld ag Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili, Parc Howard yn Llanelli neu Dŷ’r Castell yng Nghaerfyrddin. Mae mynediad am ddim i'r holl safleoedd hyn sy'n llefydd gwerth ymweld â nhw yn ystod hanner tymor. Amgueddfa arall sy'n werth ymweld â hi yr wythnos hon yw Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre lle cynhelir Cert Celf arbennig yn ystod y gwyliau sy'n canolbwyntio ar weithgareddau creadigol ar gyfer plant: www.museumwales.ac.uk
Gallwch gael diwrnodau allan eraill yn y sir heb ddim neu fawr ddim cost ichi. Cofiwch am ein Parciau Gwledig a'n Traethau ac am rai o'n cestyll, gan gynnwys Llansteffan, Dryslwyn, Caerfyrddin, Castell Newydd Emlyn a Llanymddyfri, lle mae mynediad am ddim. Hefyd mae mynediad am ddim i Gastell Dinefwr os cerddwch i'r safle. Os yw'r tywydd yn sych mae cestyll yn llefydd gwych i dreulio prynhawn difyr â'ch dychymyg yn drên - yr unig bethau sydd eu hangen arnoch yw cleddyfau a tharianau plastig ynghyd â chastell cyfleus, a gallwch oresgyn y byd yn grwn! I gael rhagor o wybodaeth am Gestyll yn y Sir, codwch y daflen Cestyll a Gerddi yn eich Canolfan Groeso leol yn Nhŷ'r Castell, Caerfyrddin neu cliciwch yma.
Mae rhai o'n hatyniadau eraill yn gallu bod yn fannau difyr i'ch plant gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn cynnal rhyw weithgaredd neu'i gilydd yn ystod wythnos hanner tymor. Gweler y 5 Uchaf yn y rhestr o bethau y gallwch eu gwneud y penwythnos hwn, a bwriwch olwg ar “Beth sy’ mlaen” ar dudalennau Darganfod Sir Gaerfyrddin.
Y 5 uchaf o ran y pethau i'w gwneud yr wythnos hon
1.        Dydd Mercher 13eg Chwefror – dydd Sadwrn 16eg Chwefror
Y Gât, Sanclêr. SA33 4AA
Dewch draw yn ystod hanner tymor i gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi! Bydd cyfle i gwrdd â phobl o grwpiau, mudiadau a chymdeithasau lleol. Gallwch gymryd rhan mewn gweithdai ac arddangosiadau, a bydd rhywbeth gwahanol bob dydd! Mae yma rywbeth at ddant pawb o bob oedran!!
Ffoniwch 01994 232726

2.    Wythnos Blychau Nythu 15fed – 17eg Chwefror
Beth am ichi wneud blwch ar gyfer titw tomos las neu robin goch, ac yna mynd â'r blwch i'w osod yn eich gardd! Byddwch yn cael hyfforddiant un ag un gan arbenigwr er mwyn gwneud eich blwch nythu eich hun, a hynny am £5 yr un.
Canolfan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Llanelli. Manylion cyswllt: www.wwt.org.uk 01554 741087
3.      Gwneud a Thrwsio: Cardiau ac Amlenni 16eg Chwefror
Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, SA44 5UP.
Oedolion / £5 / Rhaid archebu.
Manylion cyswllt:  www.museumwales.ac.uk  
029 2057 3070

4.    Dydd Sadwrn  16eg Chwefror a dydd Sul 17eg Chwefror 2013 10:00am – 4:00pm
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Penwythnos adnabod adar
Dewch draw i gael golwg ar yr amrywiaeth o adar sydd yn y gerddi.
Gwisgwch esgidiau cadarn a dillad addas i fynd am dro am awr, gan gofio ei bod hi'n ganol mis Chwefror. Bydd swyddogion RSPB Cymru wrth law i estyn cymorth a chyngor ynghylch denu adar i'ch gardd ac ynghylch y bwydydd gorau i'w darparu ar wahanol adegau o'r flwyddyn.
Mynediad i'r Ardd yn £8.50 i oedolion (pris gostyngol: £7) ac yn £4.50 i blant. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad neu ddigwyddiadau eraill ffoniwch 01558 667149, e-bostio info@gardenofwales.org.uk neu gael golwg ar www.gardenofwales.org.uk 

5.    Diwrnod Rasio Helwyr Cadnoid Dunraven - 17eg Chwefror
Cae Rasio Ffos Las.
Manylion cyswllt : www.ffoslasracecourse.com  
01554 811092

No comments:

Post a Comment