Monday 10 September 2012

Meeting the needs of our visitors. / Cwrdd ag anghenion ein hymwelwyr.

Discover Carmarthenshire is currently undertaking a Bedstock Survey of the county.

The Purpose is to develop an accurate database on the size and nature of our accommodation stock in Carmarthenshire. The basic information is essential to help us all plan, and better meet the needs of our current visitors, provide the right sort of accommodation to enhance our share of the changing tourism market and to justify tourism as a significant contributor the local economy.

All information will be used for research purposes only, business and personal details will remain strictly confidential with partnership organisations and any figures published will be in aggregated form only.
On line form   -  Please spare 10 minutes of your time to complete the following on line form, it would be very much appreciated. CLICK HERE TO ENTER THE BEDSTOCK SURVEY ON LINE 
OR
We will be calling you - Alternativley you will be receiving a phone call from the marketing and tourism department over the next couple of weeks, requesting the information needed for the Bedstock.
If you have any queries please do not hesitate to contact us on marketing@carmarthenshire.gov.uk or 01554 744376
----
Ar hyn o bryd mae Darganfod Sir Gâr yn cynnal Arolwg Gwelyau yn y sir.

Y diben yw creu cronfa ddata fanwl gywir ynghylch maint a math y llety sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r wybodaeth sylfaenol yn hanfodol er mwyn i ni gyd gynllunio, a diwallu anghenion ein hymwelwyr presennol yn well, darparu'r math iawn o lety i wella ein rhan ni o'r farchnad dwristiaeth sy'n newid ac er mwyn cyfiawnhau bod twristiaeth yn cyfrannu'n sylweddol i'r economi lleol.

Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd y manylion personol a busnes yn cael eu cadw'n gwbl gyfrinachol a dim ond gan y cyrff sy'n bartneriaid inni. Ar ffurf cyfansymiau yn unig y bydd y ffigurau'n cael eu cyhoeddi.

Ffurflen ar lein Byddem yn dra diolchgar pe gallech dreulio 10 munud yn llenwi'r ffurflen ar lein canlynol.
CLICIWCH YMA I FYND I'R AROLWG STOC GWELYAU AR LEIN
Neu
Byddwn yn eich galw - Byddwch yn derbyn galwad ffôn gan yr adran marchnata a thwristiaeth dros yr  wythnosau nesaf, yn gofyn am y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y stoc gwelyau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy anfon neges e-bost at marketing@sirgar.gov.uk neu drwy ffonio 01554 744376

No comments:

Post a Comment