Friday 21 September 2012

Meet the County Council - Elinos Walters

Carmarthenshire County Council has 9,500 employees that work in over 100 different services & one of these is Tourism and Marketing Assistant, Elinos Walters. Born, raised & passionate about Carmarthenshire Elinos has worked within the Economic Development Division of Carmarthenshire County Council for seven years and began her time here within the tourist information centre in Carmarthen. Elinos has a varied role within the team, from leading on campaigns such as Fishing and Carmarthenshire BBQ week to facilitating Heritage Tourism grant projects such as ‘Romans in Carmarthenshire’ and ‘Princes of Deheubarth and Lords of the Southern March’. Elinos has recently offered marketing assistance to the Regional Learning Partnership based at Parc Y Scarlets in Llanelli.

A fluent welsh speaker with a Masters degree in Tourism Management from the University of Wales Trinity St David’s & a degree in Sport Studies, Health & Exercise, Elinos current duties are to develop marketing strategies for the major towns within the county and to identify products that will enhance the visitor experience. Elinos is available via email marketing@carmarthenshire.gov.uk



Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin 9,500 o weithwyr sy'n gweithio mewn mwy na 100 o wahanol wasanaethau ac un o'r gweithwyr hyn yw Elinos Walters, Cynorthwy-ydd Twristiaeth a Marchnata. Mae Elinos, a gafodd ei geni a'i magu yn Sir Gaerfyrddin ac sy’n llawn brwdfrydedd dros y sir, wedi gweithio yn Is-adran Datblygu Economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin ers saith mlynedd. Yng Nghanolfan Groeso Caerfyrddin y cychwynnodd ei chyfnod yma. Mae rôl Elinos yn y tîm yn un amrywiol sy'n cynnwys arwain ymgyrchoedd Pysgota ac Wythnos Farbeciw Sir Gaerfyrddin, hyrwyddo prosiectau grantiau Twristiaeth Treftadaeth megis 'Y Rhufeiniaid yn Sir Gaerfyrddin' a ‘Thywysogion y Deheubarth ac Arglwyddi Mers y De'. Yn ddiweddar mae Elinos wedi rhoi cymorth marchnata i'r Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol sydd â'i swyddfeydd ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.

A hithau'n siarad Cymraeg yn rhugl a chanddi radd Meistr mewn Rheoli Twristiaeth o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a gradd mewn Astudiaethau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff, dyletswyddau presennol Elinos yw datblygu strategaethau marchnata ar gyfer prif drefi'r sir a dod o hyd i gynnyrch a fydd yn cyfoethogi profiad yr ymwelydd. Gellir cysylltu ag Elinos drwy anfon neges e-bost at marketing@sirgar.gov.uk.

No comments:

Post a Comment