Monday, 3 August 2015

Bag a Last-Minute Summer Break in Carmarthenshire
-Boutique hotels, coastal cottages and family-friendly glampsites with late availability throughout the summer holidays-

Families, couples and groups in search of a last-minute getaway this summer have plenty to choose from here in Carmarthenshire; with bags of activities and accommodation options on offer to suit those in search of a fun-filled escape on UK shores. From boutique hotels in Dylan Thomas’ hometown to coastal cottages and uber-cool glampsites, there’re still a host of accommodation options available throughout the summer holidays - with many even offering fantastic discounts.

Plus with a spectacular coastline, beautiful beaches and glorious countryside, Carmarthenshire proves that you don’t have to go far for a blissful break this summer! Here are just a handful of the brilliant breaks on offer...

Hotel Hideaways...

Charming Hotel on Outskirts of Boutique Market Town- The Plough Rhosmaen, Llandeilo


This attractive modern hotel sits on the outskirts of the pretty market town of Llandeilo- famed for its bustling high street of independent retailers selling everything from artisan chocolates and deli goods, to ‘upcycled’ furniture and speciality gins. The Plough offers 23 sleek, comfortable rooms ideal for a couples’ mini break or family getaway, complete with an AA Rosette award-winning restaurant serving up an impressive menu. With sweeping views over the Towy Valley and the Brechfa Forest on its doorstep, this is the ideal base for those looking for an active break in the  country.

Price: Stay for 5 nights and pay for 4 throughout August- 5 night stay now available from £190pp (was £238pp) based on two sharing a double room on a B&B basis. To book visit www.ploughrhosmaen.com or call 01558 823 431.

Super-Stylish 16th Century Hotel Overlooking Estuary- The Corran, Laugharne


Hidden deep in the marshlands of Carmarthenshire, this boutique hideaway is a picturesque base for those wishing to get away from the hustle and bustle of city life and relax in the welsh countryside this summer. Rooms are colourful and stylish, each individually decorated, with a luxurious on-site spa and delicious meals inspired by specialities of the region served up in the hotel’s own restaurant. The beaches of Pendine and Llansteffan are just a short drive away, with an abundance of country walks on offer straight from the front door.


Price: From £175 per room per night throughout August based on two sharing on a B&B basis. To book visit www.thecorran.com or call 01994 427 417.

Campers and Glampers...

Wild Tipi and Bell Tent Glamping- Cwm Ty Coed, just south of Carmarthen


Perfect for families, Cwm Ty Coed offers a quirky glamping experience amidst 30 acres of rolling wildflower meadow and ancient woodland. Ideal for an out-of-the-ordinary escape this summer, guests have bell tents and tipis to call home; stylishly adorned with natural flooring, sheepskin rugs, twinkling lanterns and wood-burning stoves. Activities for kids are ten-a-penny, including zipwires, a games cabin and an outdoor cinema, whilst well-equipped kitchens, picnic tables and outdoor fire-pits make alfresco dining easy for the grown-ups. The bustling market town of Carmarthen is just three miles away and the beaches of Llansteffan and Cefn Sidan just a short drive- ideal for those looking for a taste of the great outdoors this summer.

Price: Prices start from £80 per night or £240 for a 3 night break throughout August, based on four sharing a Bell Tent on a self-catering basis- minimum stay of two nights applies. To book visit www.cwmtycoed.co.uk or call 01994 484 688.

Cottage Escapes...

Grand Coastal Cottage in Dylan Thomas’ Hometown- Great House, Laugharne

Built in the early 1700s, the Grade II* listed Great House is undoubtedly one of the finest Georgian townhouses in Wales- the ideal base for those in search of a classic country escape with the coast in easy reach.  Sleeping up to 12 across 5 bedrooms, the house boasts enviable period features- think panelled rooms, original fireplaces and enormous four-poster beds- with sleek bathrooms and its own outdoor heated swimming pool. The quirky coastal town of Laugharne, offering great watering holes, a fantastic castle and stunning sea views, is on your doorstep; with the beautiful beach of Pendine just a 10 minute drive away. www.underthethatch.co.uk/great

Price: From £1319 (£110pp) for a 7 night stay in August 2015, based on up to 12 sharing on a self-catering basis. To book visit www.underthethatch.co.uk or call 0844 5005 101.

Spacious Stone Cottages in the Heart of the Teifi Valley- Waunifor, Pencader

Somewhat of a hidden gem in the heart of the Teifi Valley, Waunifor offers six traditional and homely stone self-catering holiday cottages full of character and unique features; sleeping from 2 to 10 people. Found along a quiet country lane just outside of the town of Llandysul, this is the perfect countryside getaway for couples, families or groups looking for a tranquil escape- set amidst beautiful gardens complete with babbling stream and wildflower meadow. What’s more- dogs are welcome, too.


Price:  Save 20% on all remaining August stays at Waunifor- 7 night stay now available from £280 (was £350) based on two sharing Duckpond Cottage on a self-catering basis. To book visit www.waunifor.com or call 01559 395437. 



Cyfle i gael gwyliau munud olaf yr haf hwn yn Sir Gâr
Gwestai bach moethus, bythynnod ar yr arfordir, a safleoedd gwârsylla sy’n croesawu teuluoedd
– lleoedd munud olaf ar gael drwy gydol gwyliau'r haf.


Yma yn Sir Gaerfyrddin mae digon o ddewis i deuluoedd, parau a grwpiau sy'n chwilio am wyliau munud olaf yr haf hwn; gyda llwyth o weithgareddau a dewisiadau llety ar gael sy'n addas ar gyfer y rheini sy'n chwilio am ddihangfa hwyliog ar lan y môr yn y Deyrnas Unedig. O westai bach moethus yn y dref a fu'n gartref i Dylan Thomas, i fythynnod ar yr arfordir a gwersylloedd tra ffasiynol lle gellir gwersylla mewn steil, mae llwyth o ddewisiadau llety eto ar gael drwy gydol gwyliau'r haf – gyda llawer ohonynt hyd yn oed yn cynnig gostyngiadau gwych.

Hefyd, gydag arfordir anhygoel, traethau hardd a chefn gwlad godidog, mae Sir Gaerfyrddin yn brawf pendant nad oes yn rhaid ichi fynd ymhell i gael gwyliau dedwydd yr haf hwn! Dyma rai yn unig o'r gwyliau gwych sydd ar gael...

Gwestai sy'n Gyfrinachau Gwerth eu Rhannu...

Gwesty dymunol ar gyrion tref farchnad lle ceir busnesau boutique
Y Plough, Rhos-maen, Llandeilo
Mae'r gwesty modern a deniadol hwn ar gyrion tref farchnad hardd Llandeilo, sy'n enwog am ei stryd fawr llawn siopau annibynnol sy'n gwerthu popeth dan haul, o siocledi gan gynhyrchwyr sy’n feistri ar eu crefft, a nwyddau deli, i gelfi wedi'u huwch-gylchu a diodydd jin arbenigol. Mae gan y Plough 23 o ystafelloedd cysurus a chwaethus o ffasiynol, sy'n ddelfrydol i bâr ar wyliau byr neu i deulu ar wyliau. Hefyd mae gan y Plough fwyty sydd wedi ennill safon Rhoséd yr AA ac sy'n cynnig bwydlen sy'n wledd a hanner. Gyda golygfeydd eang dros Ddyffryn Tywi a Choedwig Brechfa ar garreg y drws, mae hon yn ganolfan ddelfrydol i'r rhai sy'n chwilio am wyliau o weithgareddau egnïol yn y wlad.

Y Pris: Gellir aros am 5 noson am bris 4 noson drwy gydol Awst – nawr mae'r prisiau i'r rhai sydd am aros 5 noson yn dechrau o £190 y pen (£238 y pen oedd y pris) yn seiliedig ar 2 yn rhannu ystafell ddwbl ar sail Gwely a Brecwast. I archebu lle, ewch i www.ploughrhosmaen.com neu ffoniwch
01558 823 431.

Gwesty Llawn Steil sy'n dyddio o'r 16eg ganrif ac sydd â golygfeydd draw dros yr aber –
The Corran, Talacharn
Mewn rhan dawel fach o forfa yn Sir Gaerfyrddin, mae'r gyfrinach hon o westy yn lle hardd i'r rhai sy'n dymuno dianc o brysurdeb a bwrlwm bywyd y ddinas i ymlacio yng nghefn gwlad Cymru yr haf hwn. Mae'r ystafelloedd yn lliwgar ac yn llawn steil a phob un wedi'i haddurno'n unigryw. Mae sba moethus ar y safle ac mae bwyty'r gwesty'n cynnig prydau bendigedig a ysbrydolwyd gan seigiau a bwydydd arbennig y rhanbarth. Nid yw traethau Pentywyn a Llansteffan nepell i ffwrdd yn y car, ac mae yma ddigonedd o lwybrau cerdded cefn gwlad ar eich cyfer ar garreg y drws.

Y Pris: Mae'r prisiau'n dechrau o £175 yr ystafell am noson drwy gydol mis Awst, i ddau sy'n rhannu ar sail Gwely a Brecwast. I archebu lle, ewch i www.thecorran.com neu ffoniwch 01994 427 417.

I'r rhai sy'n Gwersylla a Gwârsylla....

Gwârsylla yn y Gwyllt mewn Tipi a Phabell Cloch – Cwm Tŷ Coed, fymryn i'r de o Gaerfyrddin
Mae Cwm Tŷ Coed, sy'n berffaith i deuluoedd, yn cynnig profiad gwârsylla gwahanol ynghanol coetir hynafol a dôl donnog, 30 erw sy'n llawn blodau gwyllt. Mae'n ddihangfa ddelfrydol ac anghyffredin yr haf hwn. Yn gartref i'r gwesteion bydd tipis a phebyll cloch wedi'u haddurno â steil gan ddefnyddio lloriau naturiol, matiau croen dafad, llusernau i lewyrchu, a stofiau ar gyfer llosgi coed tân. Mae pob math o weithgareddau i'r plant, gan gynnwys gwifrau gwibio, caban gêmau a sinema awyr agored. Hefyd mae'r ceginau sy'n cynnig pob cyfleuster angenrheidiol, y byrddau picnic, a'r cylchoedd tân awyr agored yn golygu mai mater hawdd ydyw i'r oedolion drefnu bwyta yn yr awyr agored. Cwta dair milltir i ffwrdd mae tref farchnad brysur Caerfyrddin a dim ond siwrnai fer yn y car yw hi i draethau Llansteffan a Chefn Sidan – delfrydol felly i'r rhai sydd am gael bod yn yr awyr agored yr haf hwn.

Y Pris: Mae'r prisiau'n dechrau o £80 y noson neu £240 am wyliau tair noson ym mis Awst, yn seiliedig ar 4 yn rhannu pabell gloch ar sail hunanarlwyo – rhaid aros o leiaf 2 noson.  I archebu lle, ewch i www.cwmtycoed.co.uk neu ffoniwch 01994 484 688.

Bythynnod Gwyliau Bendigedig...

Bwthyn Glan Môr Crand yn y dref lle bu Dylan Thomas yn byw – Great House, Talacharn
Yn ddi-os, mae'r Great House, sy'n adeilad rhestredig Gradd II*, a adeiladwyd yn y 1700au cynnar, yn un o'r tai tref Sioraidd gorau yng Nghymru – y man delfrydol i'r rhai sy'n chwilio am glasur o ddihangfa yng nghefn gwlad nid nepell o'r arfordir. Mae lle i hyd at 12 gysgu ym mhum ystafell wely'r bwthyn. Mae yma nodweddion cyfnod sy’n rhai i'w chwennych – dychmygwch ystafelloedd â phaneli pren, lleoedd tân gwreiddiol a gwelyau pedwar postyn anferth – gydag ystafelloedd ymolchi swanc. Mae gan y lle ei bwll nofio awyr agored ei hun, wedi'i wresogi, hefyd. Ar garreg y drws, mae tref glan môr anghyffredin Talacharn, sydd â thafarndai gwych, castell campus a golygfeydd godidog o'r môr; gyda thraeth hardd Pentywyn 10 munud i ffwrdd yn y car. www.underthethatch.co.uk/great

Y Pris: Yn dechrau o £1,319 (£110 yr un y noson) os ydych yn aros 7 noson ym mis Awst 2015, os bydd hyd at 12 o bobl yn rhannu ar sail hunanarlwyo. I archebu lle, ewch i www.underthethatch.co.uk neu ffoniwch 0844 5005 101.

Bythynnod Cerrig sydd â Digonedd o Le ac sydd yng nghanol Dyffryn Tywi – Waunifor, Pencader
Dyma ichi beth yw gem gudd yng nghanol Dyffryn Tywi. Mae Waunifor yn cynnig 6 bwthyn cerrig cartrefol a thraddodiadol ar gyfer gwyliau hunanarlwyo sy'n llety llawn cymeriad a nodweddion unigryw; mae lle i 2–10 o bobl gysgu. Ar lôn dawel yn y wlad a hynny heb fod nepell o dref Llandysul, dyma i chi'r lle perffaith yng nghefn gwlad i barau, teuluoedd neu grwpiau sy'n chwilio am ddihangfa dawel yng nghanol gerddi hardd lle gellir mwynhau murmur y nant a'r gweirglodd blodau gwyllt.
A mwy na hynny – mae croeso i'r ci hefyd.

Y Pris: Gallech arbed 20% ar bob cyfle i aros sy'n weddill yn Waunifor ym mis Awst – mae cyfle ar gael i aros 7 noson gyda'r prisiau'n dechrau o £280 (£350 oedd y pris) os yw 2 yn rhannu Duckpond Cottage ar sail hunanarlwyo. I archebu lle, ewch i www.waunifor.com neu ffoniwch 01559 395437.




No comments:

Post a Comment