Wednesday, 26 August 2015

New Fishing Adventures in Carmarthenshire...

Fishing in Carmarthenshire

Here in our beautiful corner of south-west Wales, we’re renowned for our rich sea and river fishing opportunities; boasting a wide variety of beautiful beaches, private coves and inland waterways, plus miles of clean, tranquil river fishing on the Tywi, Teifi, Taf, Towy and Cothi.

As such, we’re very excited to announce a host of brand new fishing breaks on offer across the county for aspiring anglers looking for a fishing-themed break. From a brand new Junior Anglers experience and two Fly-Fishing Safaris for adults to a Sea Fishing escape, all breaks include an experienced ghillie guide, as well as fishing permits, river access, equipment and hotel accommodation, making planning an angling adventure totally hassle free!

Details of our fishing opportunities can be found at www.discovercarmarthenshire.com/fishing, with highlights below:


River Splashing and Salmon-Spotting - New Junior Anglers ‘Sea Trout and Salmon’ Package with Golden Grove Fishery and The Cawdor Hotel



This new Junior Anglers package gives children (over 10) the chance to learn all there is to know about sea trout (sewin) and salmon fishing. They must be accompanied by an adult so this is a great chance for a spot of parent/child bonding and the chance for mum or dad to try out fishing too.  Based at the Golden Grove Fishery on the banks of the peaceful River Towy, aspiring Jeremy Wades (of ‘River Monsters’ fame) will spend the whole day with friendly head ghillie Jamie Harris, learning how to pick out the best spots, casting a line and discovering what lurks beneath the river’s surface. Their accompanying adult can spend time perfecting their technique, or learning from scratch too. After a full day’s fishing, the anglers will head to nearby hotel The Cawdor for a delicious, locally-sourced meal and a well-deserved rest.

Price: The Junior Anglers package is available from £150 based on one adult and one child over 10 taking part. The price includes one full day (6 hours) of ghillie guiding, plus all flies, fishing permits and transfers to and from The Cawdor. If additional equipment is required, please advise on booking. Accommodation at The Cawdor is available from £85 per night based on two sharing a twin room on a B&B basis. The package is valid from 01 September to 17 October 2015.

Details: To book a fishing package, visit www.goldengrovefishing.co.uk or call 01494 524411. To book accommodation, visit www.thecawdor.com or call 01558 823500.


Fly Fishing ‘Sea Trout and Salmon’ Safari Package at the Golden Grove Fishery and The Cawdor Hotel



The new Fly Fishing Safari at the Golden Grove Fishery is ideal for adult anglers of all abilities. Whilst beginners learn all there is to know about spotting sea trout and salmon, the more confident get the chance to improve their technique by picking up tips from head ghillie Jamie Harris, whose unrivalled local knowledge and experience as part of the Welsh National Fishing Team and Team Sky will give them the best chance of a catch. Jamie will guide guests along the river, explaining the basics of the river’s unique flora and fauna and picking out the best spots to cast a line. After a relaxing day on the water’s edge, head to The Cawdor in the market town of Llandeilo for a spot of R&R. Opt for a late afternoon tea in the lounge, indulge in fresh fish in the restaurant or simply retreat to one of the individually designed cosy rooms for a well-deserved rest.

Price: A two day Fly Fishing Safari is available from £300pp including two full days (12 hours in total across the two days) of ghillie guiding plus all flies, fishing permits and transfers to and from The Cawdor. If additional equipment is required, please advise on booking. A three day Safari is available on the same basis for £450pp. Accommodation at The Cawdor is available from £85 per night based on two sharing a double room on a B&B basis, or a dinner, bed and breakfast package is available at £99 per person, based on two sharing. The packages are valid from 01 September to 17 October 2015.

Details: To book a fishing package, visit www.goldengrovefishing.co.uk or call 01494 524411. To book accommodation, visit www.thecawdor.com or call 01558 823500.


Fish and Flop - Fly Fishing Break at The Castle Hotel



Located in the charming market town of Llandovery, The Castle Hotel is also offering a brand new Fly-Fishing break guided by one of Wales’s top fly fishing experts Kim Tribe. The hotel has nearly a mile of river situated directly below it, making it the ideal location for a fish-and-flop adventure. Guests will learn everything there is to know about the waters in the area including where’s best to find certain fish, whether that’s stalking wild trout in small upland streams, or landing sewin, trout and grayling in the main rivers. Ideal for beginners, the course includes all kit, permits and guiding, though if you’re already a dab hand at fishing, there’s the opportunity to improve techniques and pick up tips from Kim. After a hard day’s fishing, return to the hotel to unwind by the roaring log fire or enjoy a vibrant meal in the restaurant - where the fish caught in nearby rivers often feature on the menu. The hotel has 15 tastefully decorated bedrooms, all with their own sense of Welsh charm and bags of comfort.

Price: A two day fly fishing break is available from £430pp, including accommodation at The Castle Hotel for one night on a B&B basis, two full days fishing and all fishing kit and permits. A three day fishing break is available n the same basis from £685pp. For more information or to book, visit www.castle-hotel-llandovery.co.uk/flyfishing or call 01550 720343.


Sea Angling Adventure with Ebony May Charter Boat and Stradey Park Hotel



Take to the seas to experience the thrill of sea angling on board the Ebony May charter boat with this sea fishing adventure- the ideal option for keen fishermen looking to try their hand at fishing away from the usual rivers and streams. Chartered from Burry Port, skipper Stuart Denman leads the way for the day-long sea fishing experience, taking groups of up to 10 on board the Ebony May to the best sea-angling spots along the Carmarthenshire coastline and divulging his tips and tricks along the way. Carmarthen Bay and the Gower coastline are particularly renowned for their Bass from April-November, with dolphins, seals and lots of other marine wildlife often spotted in the waters. After a day on the high seas, return to Stradey Park Hotel in Llanelli where cosy rooms, a great spa and fantastic Welsh breakfast await- boasting fantastic views over the Carmarthenshire coastline.

Price: Ebony May is available for a day’s charter (8 hours) from £500 (up to 10 guests can be accommodated on board)- including skipper, fishing guidance, hot drinks and live bait. Boat charter is available from start of May to end of October. Rod hire is available from £7pp. Rooms at Stradey Park Hotel are available from £75 per room per night based on two sharing a double room on a B&B basis.

Details: To book a sea fishing package, visit www.fishinginburryport.com  or call 07989 326085. To book accommodation, visit www.stradeyparkhotel.com or call 01554 758171. 




Anturiaethau Pysgota Newydd yn Sir Gaerfyrddin..



Fishing in Carmarthenshire

Yma yn ein cornel fach hardd yn ne-orllewin Cymru, rydym yn adnabyddus am ein cyfleoedd pysgota gwych ar y môr ac ar ein hafonydd. Mae’r sir yn cynnwys amrywiaeth eang o draethau hardd, cildraethau preifat a dyfrffyrdd mewndirol, ynghyd â milltiroedd o bysgota afon glân a heddychlon ar Dywi, Teifi, Taf a Chothi. 


Felly teimlwn gyffro mawr wrth inni gyhoeddi cyfres o wyliau pysgota newydd sydd ar gael ledled y sir i enweirwyr sy’n chwilio am wyliau ar thema bysgota. O brofiad Genweirwyr Ifanc newydd sbon a dau Saffari Pysgota â Phlu i oedolion, i antur Pysgota ar y Môr, mae pob gwyliau yn cynnwys gili-dywysydd, ynghyd â thrwydded bysgota, mynediad i’r afon, offer a llety mewn gwesty, gan olygu bod yr holl antur bysgota yn gwbl ddidrafferth!


Ceir manylion ein cynigion pysgota fan hyn www.darganfodsirgar.com/cymraeg/pysgota, a dyma’r uchafbwyntiau isod:



Sblash yn yr Afon a Dod i Hyd i Eogiaid – Pecyn ‘Sewin ac Eog’ newydd i Bysgotwyr Ifanc gyda Physgodfa’r Gelli Aur a Gwesty’r Cawdor



Mae’r pecyn newydd hwn i Enweirwyr Ifanc yn rhoi cyfle i blant (dros 10 oed) ddysgu popeth sydd i’w wybod am bysgota sewin ac eog. Rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn felly mae’n gyfle gwych i ddatblygu perthynas rhiant a phlentyn, ac yn gyfle i’r rhiant roi cynnig ar bysgota hefyd.  Ym Mhysgodfa’r Gelli Aur ar lannau heddychlon Afon Tywi, bydd Jeremy Wades (sy’n adnabyddus am ‘River Monsters’) yn treulio’r diwrnod cyfan yng nghwmni’r prif gili Jamie Harris, yn dysgu sut i ganfod y mannau gorau, sut i fwrw lein a chanfod beth sy’n celu o dan wyneb y dŵr. Gall yr oedolyn dreulio’r amser yn perffeithio techneg, neu’n dysgu o’r dechrau hefyd. Ar ôl diwrnod llawn o bysgota, bydd y pysgotwyr yn mynd i Westy’r Cawdor gerllaw i gael pryd hyfryd o fwyd wedi’u baratoi o gynnyrch lleol, a seibiant haeddiannol.

Pris: Mae’r pecyn Genweirwyr Ifanc ar gael o £150, yn seiliedig ar un oedolyn ac un plentyn dros 10 oed yn cymryd rhan. Mae’r pris yn cynnwys un diwrnod llawn (6 awr) gyda’r gili-dywysydd, ynghyd â’r holl blu, trwyddedau pysgota a chludiant i’r Cawdor ac yn ôl. Os bydd angen offer pellach, rhowch wybod wrth archebu. Mae llety ar gael yn y Cawdor am £85 y nos ar sail dau yn rhannu ystafell twin, gwely a brecwast. Mae’r pecyn yn ddilys o 01 Medi hyd at 17 Hydref 2015.


Manylion: I archebu pecyn pysgota,  ewch i www.goldengrovefishing.co.uk neu ffoniwch 01494 524411. I archebu llety, ewch i www.thecawdor.com neu ffoniwch 01558 823500. 


Pecyn Saffari Pysgota ‘Sewin ac Eog’ â Phlu ym Mhysgodfa’r Gelli Aur a Gwesty’r Cawdor



Mae’r Saffari Pysgota a Phlu newydd yn ddelfrydol i oedolion o unrhyw allu. Bydd dechreuwyr yn dysgu popeth sydd i’w wybod am ganfod brithyll ac eog, a chaiff y rhai mwy hyderus gyfle i wella eu techneg drwy ddysgu dan adain y prif gili, Jamie Harris. Y mae heb ei ail am ei wybodaeth leol, a bydd hynny, ynghyd â’i brofiad fel rhan o Dîm Pysgota Cenedlaethol Cymru a Thîm Sky, yn golygu y bydd gennych y cyfle gorau i ddal pysgodyn. Bydd Jamie yn tywys y gwesteion ar hyd yr afon, yn esbonio elfennau sylfaenol rhai o fflora a ffawna unigryw yr afon ac yn dangos y mannau gorau i fwrw lein. Ar ôl diwrnod hamddenol ar lan y dŵr, cewch fynd i’r Cawdor yn nhref farchnad Llandeilo i ymlacio. Cewch ddewis te prynhawn hwyr yn y lolfa, pysgod ffres yn y bwyty, neu encilio i un o’r ystafelloedd clyd unigryw i gael hoe haeddiannol.

Pris: Mae dau ddiwrnod o Saffari Pysgota â Phlu ar gael o £300 yr un, yn cynnwys dau ddiwrnod llawn (cyfanswm o 12 awr rhwng y ddau ddiwrnod) gyda’r gili-dywysydd, ynghyd â’r holl blu, trwyddedau pysgota a chludiant i’r Cawdor ac yn ôl. Os bydd angen offer pellach, rhowch wybod wrth archebu. Mae tridiau o saffari ar gael am £450 yr un.  Mae llety ar gael yn y Cawdor am £85 y nos ar sail dau yn rhannu ystafell ddwbl, gwely a brecwast, neu swper, gwely a brecwast am £99 yr un, ar sail dau yn rhannu. Mae’r pecynnau yn ddilys o 01 Medi hyd at 17 Hydref 2015.


Manylion: I archebu pecyn pysgota,  ewch i www.goldengrovefishing.co.uk neu ffoniwch 01494 524411. I archebu llety, ewch i www.thecawdor.com neu ffoniwch 01558 823500. 



Pysgota ac Ymlacio – Gwyliau Pysgota â Phlu yng Ngwesty’r Castell 



Mae Gwesty’r Castell, yn nhref farchnad hyfryd Llanymddyfri, hefyd yn cynnig Gwyliau Pysgota â Phlu newydd sbon dan arweiniad un o arbenigwyr pysgota â phlu pennaf Cymru, Kim Tribe. Mae gan y gwesty bron i filltir o afon yn uniongyrchol oddi tani, sy’n golygu ei fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer antur Bysgota ac Ymlacio. Bydd y gwesteion yn dysgu popeth sydd i’w wybod am ddyfrffyrdd yr ardal, gan gynnwys ble mae’r mannau gorau i ddod o hyd i bysgod penodol, boed hynny’n chwilota am frithyll gwyllt yn nentydd bach yr uwchdir, neu ddal sewin, brithyll a phenllwyd yn y prif afonydd. Dyma gwrs delfrydol i ddechreuwyr, ac mae’n cynnwys yr holl offer, y trwyddedau a’r arweiniad. Ond os ydych eisoes yn hen law ar bysgota, bydd hefyd yn gyfle ichi wella eich technegau a chael cyngor gan Kim. Ar ôl diwrnod caled o bysgota, cewch ddychwelyd i’r gwesty i ymlacio ger y tân coed neu fwynhau bryd da o fwyd yn y bwyty, lle mae pysgod a ddaliwyd yn yr afonydd gerllaw yn aml i’w gweld ar y fwydlen. Mae gan y gwesty 15 o ystafelloedd gwely wedi’u haddurno’n chwaethus, a phob un yn glyd ac yn cynnig teimlad Cymreig.

Pris: Mae dau ddiwrnod o wyliau pysgota ar gael o £430 yr un, gan gynnwys llety yng Ngwesty’r Castell am un noson, gwely a brecwast, dau ddiwrnod llawn o bysgota a’r holl offer a’r trwyddedau. Mae tridiau o wyliau pysgota ar gael o £685 yr un. I gael mwy o wybodaeth, neu i archebu, ewch i www.castle-hotel-llandovery.co.uk/flyfishing neu ffoniwch 01550 720343.



Antur Pysgota Môr gyda Chwch Siarter Ebony May a Gwesty Parc y Strade



Mae Gwesty’r Castell, yn nhref farchnad hyfryd Llanymddyfri, hefyd yn cynnig Gwyliau Pysgota â Phlu newydd sbon dan arweiniad un o arbenigwyr pysgota â phlu pennaf Cymru, Kim Tribe. Mae gan y gwesty bron i filltir o afon yn uniongyrchol oddi tani, sy’n golygu ei fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer antur Bysgota ac Ymlacio. Bydd y gwesteion yn dysgu popeth sydd i’w wybod am ddyfrffyrdd yr ardal, gan gynnwys ble mae’r mannau gorau i ddod o hyd i bysgod penodol, boed hynny’n chwilota am frithyll gwyllt yn nentydd bach yr uwchdir, neu ddal sewin, brithyll a phenllwyd yn y prif afonydd. Dyma gwrs delfrydol i ddechreuwyr, ac mae’n cynnwys yr holl offer, y trwyddedau a’r arweiniad. Ond os ydych eisoes yn hen law ar bysgota, bydd hefyd yn gyfle ichi wella eich technegau a chael cyngor gan Kim. Ar ôl diwrnod caled o bysgota, cewch ddychwelyd i’r gwesty i ymlacio ger y tân coed neu fwynhau bryd da o fwyd yn y bwyty, lle mae pysgod a ddaliwyd yn yr afonydd gerllaw yn aml i’w gweld ar y fwydlen. Mae gan y gwesty 15 o ystafelloedd gwely wedi’u haddurno’n chwaethus, a phob un yn glyd ac yn cynnig teimlad Cymreig.

Pris: Mae’r Ebony May ar gael i’w siarteru am y dydd (8 awr) o £500 (mae lle i hyd at 10 o westeion ar y ei bwrdd) – gan gynnwys y capten, arweiniad ar bysgota, diodydd twym ac abwyd byw. Gellir siarteru’r cwch o fis Mai i ddiwedd mis Hydref. Gallwch logi gwialen o £7 yr un. Mae ystafelloedd ar gael yng Ngwesty Parc y Strade o £75 yr ystafell y nos ar sail dau yn rhannu ystafell ddwbl, gwely a brecwast. 

Manylion: I archebu pecyn pysgota môr, ewch i www.fishinginburryport.com  neu ffoniwch 07989 326085. I archebu llety, ewch i www.stradeyparkhotel.com neu ffoniwch 01554 758171.

No comments:

Post a Comment