Summer
Family Fun in the Garden of Wales
Here in Carmarthenshire,
we have bucket loads exciting activities and events on offer this summer for
families in search of a fun day out; from tackling the rapids on the River
Teifi and delicious afternoon teas on board a vintage steam train, to canoe
trails through the wetlands and spooky tours of Carmarthen after dark. There
will even be the return of the famous Blue Bird to the sands of Pendine,
recreating the car’s world famous land speed record break in 1925!
Check out
some of the activities on offer throughout July and August below, with more
details and accommodation available to view at www.discovercarmarthenshire.com/whats-on
Explore
Carmarthenshire’s Sinister Past on a Creepy Carmarthen Tour- Carmarthen
Embark
on a trip back in time through Carmarthen's creepy past on a spooky evening
tour through the country’s oldest town, suitable for all ages. Meet “murderers”
and their victims (not real ones, promise); visit the sites of grisly
executions; uncover secrets from bygone days and visit the haunted streets of
the ancient town on the lookout for ghosts with the help of your guide- the
spooky Dr Grimoire. There’s even a peek inside the town’s original Victorian
Police Station, the setting for dozens of overnight "ghost watches",
and plenty of magical twists.
Details: Tours run from
Carmarthen Guildhall every Wednesday at 7pm from July 22nd-
September 2nd. Tickets are priced at £7.50 per adult, £5 per child
and £23 per family of four. Booking is essential. For more information visit creepycarmarthen.co.uk or call 01267
231557.
Wild Waters and
Paddling Galore-
August Summer Play Days at Llandysul
Paddlers, Llandysul, Carmarthenshire
Llandysul
Paddlers are hosting a variety of summer fun days throughout August, ideal for
active kids looking for an adventurous day out. Water lovers can spend mornings
splashing about in the River Teifi before hopping on board a kayak or canoe for
exhilarating white water rides and river races. After lunch, grab a group of
friends and work together to build the best raft possible before testing it on
the water. There’re also plenty of land-based activities on offer for those
looking for fun on dry land, including cycling, mountain biking and rock
climbing.
Details:
Summer
Play Days are running throughout August on the following dates- 3/5/15,
12/13/14, 19/20/21, 26/27/28 August. Priced from £10 per child per day
(10am-4pm). For more information visit www.llandysul-paddlers.org.uk.
Hop
on Board a Vintage Steam Train - Gwili Railway, North of Carmarthen, Carmarthenshire
Families
can grab a taste of the golden age of railway this summer at Gwili Railway,
where they’re invited to hop on board an authentic 1950’s steam hauled service
and explore the spectacular surrounding countryside in serious vintage style. Take
a ride alongside old station buildings, vintage carriages, steam locomotives
and diesel railcars, all with picturesque views of the village cricket pitch
and Gwili River, with a delicious strawberry cream tea to satisfy your sweet
tooth whilst on board. Plus, on the 19th July, Gwili Railway is
hosting a ‘Classic Transport Day’ with a host of vintage vehicles, riverside
picnics, miniature railway and carnival rides.
Details: Open from 10am
each day during July and August. Tickets available from £10 per adult, £4.50
per child and under 3s go free. For more information visit www.gwili-railway.co.uk.
Canoe Safari
through the Wild Wetlands- WWT Llanelli, Carmarthenshire
Intrepid
explorers and wildlife lovers alike will love the canoe safaris running at the Wildfowl
and Wetlands Trust Llanelli throughout July and August. Your very own wetland
adventure, visitors can grab a canoe and head off to explore the vast watery
expanses of the wetland otherwise inaccessible to visitors- getting up close
and personal with a host of wetland wildlife. The swan’s nest maze is a
must-see, but those who’d prefer to stick to dry land needn’t fear- as WWT
Llanelli also has a fantastic bike trail to follow; where you’re likely to meet
otters, butterflies, birds and dragonflies as you pedal!
Details: Canoe and bike
trails run daily throughout July and August from 12-4pm. Cost included in
admission. Priced from £8.14 per adult, £4.50 per child and £22.73 per family
of four. For more information visit www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli or call 01554
741087.
‘Hidden
House’ Tours at Newton House - Dinefwr Park and Castle, Llandeilo, Carmarthenshire
Kids
after a taste of how the ‘other half’ used to live
should head straight to Dinefwr Park and Castle in Carmarthenshire this summer,
where guided tours of Newton House (a 17th century mansion) will
take little ones and their families behind the scenes of the historic house.
Curious kids can snoop around servants’ corridors, into the basement kitchen,
up into the loft space and finally out onto the roof to enjoy the views across
Dinefwr’s vast parkland – with touching ancient artefacts and dressing up in
Victorian costumes encouraged! They can even have a go at being a butler
for the day, getting to work polishing boots and ironing shirts in the
basement. After the tour, families can explore Dinefwr’s vast parkland, home to
an abundance of wildlife, and ancient castle; the ideal spot for an al fresco
picnic, with bags of space to enjoy.
Details:
£6
per car for admission to the parkland. No additional charges for other
activities apply. Hidden House tours run daily at 2:30pm throughout July and
August. For more information visit nationaltrust.org.uk/dinefwr or call 01558
824512.
We
also have a whole host of family-friendly accommodation with remaining
availability throughout the July and August school holidays. From spacious self-catered
stone cottages with acres of countryside to explore at Waunifor and stylish hotel escapes to Newcastle Emlyn at Gwesty'r Emlyn
Hotel,
to uber-cool glamping breaks at Cwm Ty Coed near the market town of Carmarthen-
there’s something to suit families of all shapes and sizes. For more
information about the accommodation on offer, please visit www.discovercarmarthenshire.com/staying
Hwyl yr Haf
i’r Teulu yng Ngardd Cymru
Yma yn Sir
Gaerfyrddin, mae gennym lu o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yr haf yma i
deuluoedd sy’n chwilio am ddiwrnod o hwyl; o fentro i ddŵr gwyllt Afon Teifi a chael te prynhawn blasus ar hen drên stem, i
ganwio trwy’r gwlyptir neu fynd ar daith ysbrydion yng Nghaerfyrddin wedi iddi
dywyllu. Byddwn hyd yn oed yn gweld yr enwog ‘Blue Bird’ yn dychwelyd i draeth
Pentywyn, gan ailgreu llwyddiant bydenwog y car hwnnw i dorri’r record
cyflymdra ar dir yn 1925!
Isod cewch
fanylion rhai o’r gweithgareddau fydd ar gael yn ystod Gorffennaf ac Awst, ac
mae rhagor o fanylion a llety ar gael trwy fynd i www.darganfodsirgar.com/beth-sy-mlaen
Dewch
i brofi Gorffennol Sinistr Sir Gaerfyrddin ar daith fwganllyd o amgylch Caerfyrddin
Ewch
ar daith yn ôl mewn hanes trwy orffennol dirgel Caerfyrddin trwy grwydro strydoedd
tref hynaf y wlad fin nos, ar daith fwganllyd. Bydd y daith yn addas i bob oed,
ac yn gyfle i gwrdd â “llofruddion” a’r rhai a lofruddiwyd (nid rhai go iawn,
wrth gwrs); ymweld â safleoedd dienyddiadau erchyll; datgelu cyfrinachau’r
gorffennol ac ymweld â strydoedd y dref hynafol gan gadw llygad ar agor am
ysbrydion, gyda chymorth eich tywysydd – yr arswydus Dr Grimoire. Byddwch hyd
yn oed yn cael cip y tu mewn i Orsaf Heddlu wreiddiol y dref, o Oes Victoria,
lleoliad dwsinau o “wyliadwriaethau ysbrydion” dros nos, a bydd digonedd o
anturiaethau lledrithiol.
Manylion: Bydd y teithiau’n
cychwyn o Neuadd y Dref yng Nghaerfyrddin bob nos Fercher am 7pm o 22
Gorffennaf – 2 Medi. Pris y tocynnau yw £7.50 i oedolyn, £5 i blentyn a £23 i
deulu o bedwar. Rhaid cadw lle. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i creepycarmarthen.co.uk neu ffoniwch 01267
231557.
Dŵr Gwyllt a Digon o Badlo – Diwrnodau Chwarae’r Haf ym
mis Awst gyda’r Llandysul Paddlers,
Llandysul, Sir Gaerfyrddin
Mae
Llandysul Paddlers yn cynnal amrywiaeth o ddiwrnodau hwyl yr haf ar hyd mis
Awst, profiad delfrydol ar gyfer plant egnïol sy’n hoffi diwrnod llawn antur.
Gall y rhai sy’n mwynhau chwaraeon dŵr dreulio’r bore yn
sblasio yn Afon Teifi cyn neidio i mewn i gaiac neu ganŵ
i fynd ar wib drwy’r dŵr gwyllt neu rasio ar yr afon. Ar ôl cinio, bydd cyfle
i chi a nifer o ffrindiau gydweithio i greu’r rafft orau cyn ei phrofi ar y dŵr.
Bydd hefyd ddigonedd o weithgaredd ar y tir i’r rhai sy’n awyddus i gadw’n
sych, gan gynnwys beicio, beicio mynydd a dringo creigiau.
Manylion:
Mae
Diwrnodau Chwarae’r Haf yn cael eu cynnal ar hyd mis Awst ar y dyddiadau
canlynol- 3/5/15, 12/13/14, 19/20/21, 26/27/28 Awst. Mae’r pris yn cychwyn o
£10 y plentyn y dydd (10am-4pm). I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.llandysul-paddlers.org.uk.
Ewch
ar daith ar Drên Stêm Hynafol – Rheilffordd Gwili, i’r gogledd o Gaerfyrddin,
Sir Gaerfyrddin
Gall
teuluoedd brofi oes aur y rheilffyrdd yr haf yma ar Reilffordd Gwili, lle cânt
gyfle i fynd ar wasanaeth stêm dilys o’r 1950au, ac archwilio’r ardaloedd
gwledig o amgylch yn steil yr oes. Byddwch yn mynd heibio i hen adeiladau’r
orsaf, cerbydau hynafol, peiriannau stêm a disl, a hefyd yn cael golygfeydd
gwych o gae criced y pentref ac afon Gwili, gyda the mefus a hufen blasus fydd
yn sicr at eich dant yn ystod y daith. Ar ben hynny, ar 19eg
Gorffennaf, mae Rheilffordd Gwili’n cynnal ‘Diwrnod Trafnidiaeth Glasurol’,
gyda llu o gerbydau hynafol, picnic ar lan yr afon, trên bach a reidiau
carnifal.
Manylion: Ar agor o 10am bob
dydd yn ystod Gorffennaf ac Awst. Mae tocynnau ar gael o £10 y pen i oedolion, £4.50
i blant, ac ni chodir tâl ar blant o dan 3 oed. I gael rhagor o wybodaeth, ewch
i www.gwili-railway.co.uk.
Saffari ar Ganŵ trwy’r Gwlyptiroedd Gwyllt – Canolfan Adar y Gwlyptir,
Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Bydd
anturiaethwyr brwd a selogion byd natur wrth eu bodd yn mynd ar Saffari Ganŵ
trwy Ganolfan Adar y Gwlyptir yn Llanelli, ar hyd Gorffennaf ac Awst. Dyma gyfle
i gael eich antur gwlyptir eich hun, gan fod ymwelwyr yn gallu bachu canŵ
a mynd i archwilio’r eangdiroedd gwlyptir nad yw ymwelwyr yn gallu eu gweld fel
arfer – a gweld llu o anifeiliaid gwyllt yn agos. Mae drysfa nyth yr alarch yn
un o’r uchafbwyntiau, ond os yw’n well gennych chi aros ar dir sych, peidiwch â
phoeni, mae gan y Ganolfan lwybr beicio gwych hefyd; yno rydych chi’n debygol o
gwrdd â dwrgwn, pili palod, adar a gweision y neidr wrth i chi bedlo!
Manylion: Bydd y llwybrau
canwio a beicio ar gael bob dydd ym mis Gorffennaf a mis Awst, o 12-4pm. Mae’r
gost yn gynwysedig yn y pris mynediad, sy’n cychwyn o £8.14 y pen i oedolion, £4.50
i blant a £22.73 i deulu o bedwar. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli neu ffoniwch 01554 741087.
Teithiau
‘Tŷ Cudd’ yn Newton House – Parc a Chastell
Dinefwr, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin
Os
hoffai’r plant ddysgu am fywyd yn yr oes
o’r blaen, anelwch yn syth am Barc a Chastell Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin yn
ystod yr haf, lle bydd teithiau tywys o amgylch Newton House (plasdy o’r 17eg ganrif) yn dangos i blant a’u
teuluoedd yr holl waith oedd yn arfer digwydd allan o’r golwg yn y tŷ
hanesyddol. Gall plant chwilfrydig grwydro coridorau’r gweision, mynd i’r gegin
yn yr is-lawr, a dringo i’r stafell yn y to, cyn mynd allan ar y to i fwynhau’r
golygfeydd ar draws parcdir helaeth Dinefwr – a chael eu hannog i gyffwrdd â’r
hen arteffactau a phrofi gwisgoedd Oes Victoria! Gallan nhw hyd yn oed roi
cynnig ar fod yn fwtler am y dydd, a mynd ati i sgleinio sgidiau a smwddio
crysau yn yr is-lawr. Ar ôl y daith, gall teuluoedd grwydro ym mharcdir helaeth
Dinefwr, lle ceir digonedd o fywyd gwyllt, a’r castell hynafol; mae’n fan
delfrydol ar gyfer picnic yn yr awyr agored, gan fod digon o le i fwynhau.
Manylion:
£6
y car yw’r tâl mynediad i’r parcdir, ac ni chodir tâl ychwanegol am y gweithgareddau
eraill. Mae’r teithiau ‘Tŷ Cudd’ (Hidden House) yn cael eu cynnal bob dydd am 2:30pm
ar hyd mis Gorffennaf a mis Awst. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i nationaltrust.org.uk/dinefwr neu ffoniwch 01558
824512.
Mae
gennym ni hefyd ddigonedd o lety hwylus i deuluoedd, ac mae lleoedd ar gael ar
hyd gwyliau ysgol Gorffennaf ac Awst. O fythynnod carreg eang yn Waunifor,
lle gallwch chi
drefnu eich bwyd eich hun ac archwilio erwau o gefn gwlad, i westy steilus y gallwch ddianc iddo, Gwesty'r Emlyn
Hotel,
yng Nghastellnewydd Emlyn, i’r gwyliau gwersylla moethus diweddaraf, Cwm Ty Coed,
ger tref
farchnad Caerfyrddin – mae rhywbeth at ddant teuluoedd, beth bynnag yw eu maint
a’u math. I gael rhagor o wybodaeth am y llety sydd ar gael, ewch i www.discovercarmarthenshire.com/staying
No comments:
Post a Comment