New
Summer Holiday Escapes in Carmarthenshire
Here
in Carmarthenshire, we’re excited to announce that we have a whole host of new
holiday options for the 2015 summer season to entice holidaymakers to this
beautiful corner of the UK; from a new family-friendly glampsite and
farm-escape that allows little ones to sleep in their own pig ark, to a ‘horse
comes too’ converted lodge on the edge of the Brechfa Forest and a unique stone
carving break.
Check
out some highlights of the new breaks around the county below!
Pig-Staycation-
Sleep with the Pigs at Cwmcrwth Farm Cottages, Llandeilo
Forget converted horse boxes and shepherd’s huts... Cwmcrwth Farm Cottages is taking accommodation conversions to a new level with the launch of their new ‘Pig Ark’ breaks this summer, allowing guests to sleep with the pigs under the stars in their own converted pig ark. Scrubbed-up and tastefully decorated, Cwmcrwth’s converted pig ark provides cosy accommodation for two in an orchard overlooking the farm, with sleeping bags and blankets for a comfy night (almost) under the stars. Perfect for families after something a little different, guests are able to arrange a night’s stay in the pig ark as part of a multi-night break in one of the farm’s stylish converted barns; with kids able to take part in a host of fun farm activities throughout their stay, helping Farmer Rob collect the eggs, feed the pigs and meet the resident horses. Adults can even take part in a pork-curing course run by the farm; although may be best not to tell the kids!
Price: 3 night stay from
£189/ 7 night stay from £420 based on a family of four sharing the Hayloft
cottage on a self-catering basis. For guests, a stay in the Mafanwys Pig Ark is
priced at an extra £25 per night (2 adults and 2 children) and includes
sleeping and kitchen equipment, picnic breakfast and pig swill bucket (pig
related goodies). Prices for non-guests are £45 per night, including the listed
extras. To book, visit www.cwmcrwthfarmcottages.co.uk or call 01558
669160.
Magic
and Mind-Reading in the Heart of the Teifi Valley- Blaenfforest, Newcastle Emlyn
Those
in search of a magical escape for all the family need look no further than
Blaenfforest Holiday
Cottages- a clutch of converted traditional stone cottages
in the heart of Carmarthenshire’s Teifi Valley, which are set to welcome the
Magic Circle with the launch of a new ‘magic and mind reading’ package for
guests. Magician and storyteller Nick Brunger, who runs the award winning
Creepy Carmarthen ghost tours, has teamed up with Blaenfforest to offer guests
this special Magic and Mind Reading break; which will see Nick entertain guests
with a unique evening of magic and mind-reading, before heading out for a
guided tour of the ancient wooded valley behind the cottages- where one might
find a dragon’s lair on be lucky enough to catch a glimpse of a fairy. Kids
will love the magic and mystery- with plenty to keep the adults’ minds’ boggled
too! Guests can book this experience privately, with a glass of mulled wine (or
fruit punch) and some spooky snacks thrown in for good measure.
Price: A 7 night stay at Blaenfforest
Granary (sleeps 4) is priced from £475 on a self-catering basis. Magic and Mindreading experience costs from
£20pp- 4 person minimum required for booking. To book, visit www.cottageholidayswales.com or call 01559
371264.
Wild Tipi and Bell
Tent Glamping- Cwm Ty Coed, just south of Carmarthen
Newly
opened for the 2015 summer season, Cwm Ty Coed offers a quirky glamping
experience hidden amidst 30 acres of rolling wildflower meadow and ancient
woodland. Bell tents and tipis act as your home under the stars- boasting
natural floors, sheepskin rugs, twinkling lanterns and wood-burning stoves.
Well-equipped kitchens, picnic tables and outdoor fire-pits make alfresco
lunches easy, with the bustling market town of
Carmarthen just three miles
away. Guests can spend days in the wooden games cabin with tons of books, board
games and table tennis (perfect for keeping the kids entertained), take a ride
on the treetop zipwire or simply relax in colourful hammocks amidst the trees-
with an outdoor cinema providing evening entertainment under the stars.
Price: 7 nights available
from £455 / 2 nights available from £140, both based on four sharing a Bell
Tent on a self-catering basis. To book visit www.cwmtycoed.co.uk or call 01994 484 688.
Romantic Mountain
Bike Break for Two- The Old Bike Shed, Mudtrek, Brechfa Forest
New
for 2015 is The Old Bike Shed- a bijoux barn conversion located on the edge of
the Brechfa Forest in Carmarthenshire, offered as accommodation by Mudtrek
Mountain Bike Breaks. Sleeping just 2, the Old Bike
Shed is the ultimate cosy
cottage getaway - recently converted and boasting exposed beams, a mezzanine
bedroom, kitsch fixtures and fittings and sweeping countryside views. The ideal
choice for couples in search of a little adventure, Mudtrek offers guests a
‘ski chalet experience for bikers’- with guided ‘off piste’ mountain bike
sessions, fully-catered accommodation and equipment hire, not to mention
endless trails through the Brechfa Forest straight from the front door to
explore on two wheels. After a busy
adrenaline-fuelled day’s biking, couples can retreat to their cosy cottage à
deux for a glass wine in front of the wood-burner. Plus, dogs are more than
welcome.
Price: 2 night stays
available from £250 based on two sharing The Old Bike Shed, including
breakfast, packed lunch and two course evening meals on both nights and 1 day’s
off-piste guiding. To book visit www.mudtrek.com or call 01267
202423.
Horse Comes Too Hideaway-
Pengelli Farm Lodge, Pengelli
Sat
at the edge of the spectacular Brechfa Forest is the recently-opened Pengelli
Farm Lodge, a timber-framed lodge set on 122-acre horse stud farm, with
beautiful views out to the Cothi Valley. This cosy lodg
sleeps up to 5, with
an open plan living and dining area, cosy woodburner and large covered terrace
complete with outdoor hot tub- perfect for watching the sun set over the
valley. An ideal spot for riding fans, circular trails winding through the
beautiful forest nearby go straight from the door, with stabling available for
your horse on the stud farm with you.
Price: 7 nights available from £672 / 2 nights
available from £192 for Pengelli Lodge (sleeps 5) on a self-catering basis. To
book visit www.pengelliholidaylets.co.uk or call
07747116088.
Stonecarving
Getaway – Stonehouse Carving and Cilwen Country House B&B, Camarthen
Budding
artists can head to Carmarthen to try their hand at the intricate art of
stonecarving with Stonehouse
Carving’s new three day course- the ideal option
for creative types looking for an out-of-the-ordinary escape this summer. Participants
will be taught all the tricks of the trade- stone types ideal for carving, how
to use tools and create achievable designs- before putting this to good use
carving their very own traditional York Rose or Green Man to take home. Combine
this with a stay at Cilwen Country House B&B just a couple of miles down
the road; with just three rooms it’s a great secluded getaway, and as well as
the full English breakfast in the morning, evening meals are also available
made out of the best locally sourced produce foods – like eggs from their
free-range chickens.
Price: The 3-day Stone
Carving course at Stonehouse Carving is available for £195pp, including lunch,
materials and use of tools. To book visit: www.stonehousecarving.co.uk. A 3 night stay at
Cilwen Country House B&B is available from £210 based on two sharing on a
B&B basis. To book visit: www.bedandbreakfastwales.net.
For
more accommodation across the county, check out our ‘Staying’ page here: http://www.discovercarmarthenshire.com/staying/index.html
Seibiannau Newydd ar gyfer yr Haf yn Sir Gaerfyrddin
Yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod
gennym ni lu o ddewisiadau gwyliau newydd ar gyfer tymor yr haf 2015 er mwyn
denu pobl i'r rhan brydferth hon o'r Deyrnas Unedig. Maent yn cynnwys safle
gwârsylla newydd ar fferm, sy'n addas i'r teulu cyfan ac sy'n caniatáu i blant
bach gysgu mewn arch moch, llety sydd wedi'i addasu ac sy'n croesawu ceffylau
ar gyrion Fforest Brechfa neu seibiant unigryw yn naddu cerrig.
Beth am gael cipolwg ar rai o'r seibiannau newydd sydd ar
gael ledled y Sir isod?
Beth am gysgu yng nghwmni'r moch ym Mythynnod Cwmcrwth
Farm, Llandeilo?
Anghofiwch am yr addasiadau arferol i adeiladau a rhowch
gynnig ar rywbeth bach gwahanol... Bythynnod Cwmcrwth Farm yw'r lle ichi os
ydych chi'n chwilio am seibiant bach anghyffredin mewn llety anarferol wrth
iddynt lansio ei seibiannau newydd mewn Arch Moch yr haf hwn, sy'n caniatáu i
westeion gysgu gyda'r moch o dan y sêr yn yr arch moch sydd wedi'i haddasu gan y
perchnogion. Mae'r arch moch, sydd wedi'i haddasu, yn lân ac wedi'i haddurno'n
chwaethus ac yn darparu llety clyd i ddau berson mewn perllan sy'n edrych dros
y fferm. Darperir sachau cysgu a
blancedi er mwyn cael noson gyfforddus (bron) o dan y sêr. Mae'r gwyliau hyn yn
berffaith ar gyfer teuluoedd sydd eisiau seibiant ychydig yn wahanol i'r
arfer. Gall gwesteion drefnu aros am
noson yn yr arch moch fel rhan o wyliau hirach yn un o ysguboriau'r fferm sydd
wedi'u haddasu yn llety modern. Bydd croeso i'r plant gymryd rhan mewn
amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar y fferm drwy gydol eu harhosiad megis
helpu Rob y Ffermwr i gasglu'r wyau, bwydo'r moch a maldodi'r ceffylau sy'n byw
yno. Gall oedolion hyd yn oed gymryd rhan mewn cwrs halltu porc sy'n cael ei gynnal
gan berchnogion y fferm, er efallai byddai'n well peidio â dweud wrth y plant
am hyn!
Pris: Gallwch aros am 3 noson am gyn lleied â £189 neu 7 noson am gyn lleied â
£420 sy'n seiliedig ar deulu o bedwar yn rhannu bwthyn The Hayloft ar sail
hunanarlwyo. Nodyn i westeion - mae aros yn Arch Moch Mafanwy yn costio £25
ychwanegol fesul noson (2 oedolyn a 2 blentyn) ac yn cynnwys offer cegin,
sachau cysgu ac ati, brecwast picnic a bwced o ddanteithion. Y pris ar gyfer
pobl sydd heb fod yn westeion yw £45 y noson sy'n cynnwys yr holl ychwanegiadau
a nodwyd. I archebu lle, ewch i www.cwmcrwthfarmcottages.co.uk neu ffoniwch 01558 669160.
Dewiniaeth a Darllen Meddyliau yng nghanol Dyffryn Teifi
- Blaenfforest, Castellnewydd Emlyn
Bythynnod Gwyliau Blaenfforest yw'r lle i fod ar gyfer y
sawl sydd eisiau seibiant hudolus i'r teulu cyfan. Clwstwr o fythynnod cerrig traddodiadol sydd
wedi'u haddasu yng nghanol Dyffryn Teifi, Sir Gaerfyrddin yw'r rhain sydd
newydd lansio pecyn gwyliau newydd i westeion sef 'Dewiniaeth a Darllen
Meddyliau.' Mae Nick Brunger, y consuriwr a'r storïwr sy'n cynnal teithiau
bwganllyd Caerfyrddin Iasol sydd wedi ennill gwobrau, wedi ymuno â pherchnogion
Blaenfforest er mwyn cynnig seibiant arbennig yn llawn dewiniaeth a darllen
meddyliau i westeion. Fel rhan o'r cynnig, bydd Nick yn diddanu gwesteion drwy
gynnal noson unigryw o ddewiniaeth a darllen meddyliau cyn mentro mas ar daith
dywysedig o amgylch y dyffryn coediog hynafol y tu ôl i'r bythynnod a phwy a
ŵyr pa ryfeddodau fydd i'w gweld yno. Bydd plant yn dwlu ar hud a dirgelwch y
digwyddiad a bydd digon i gadw'r oedolion yn hapus hefyd. Gall gwesteion fynd
ati i archebu'r profiad hwn eu hunain os ydynt yn dymuno ac fel arwydd o
ewyllys da, bydd gwydraid o win twym (neu ddiod ffrwythau) a byrbrydau
bwganllyd wedi'u cynnwys yn y pris.
Pris: Mae aros am 7 noson
ym mwthyn Blaenfforest Granary (sydd â lle i 4 gysgu) yn costio cyn lleied â
£475 ar sail hunanarlwyo. Mae'r sesiwn Dewiniaeth
a Darllen Meddyliau yn costio cyn lleied ag £20 y person ond mae angen o leiaf
4 person er mwyn archebu sesiwn. I archebu lle, ewch i www.cottageholidayswales.com neu ffoniwch 01559 371264.
Gwârsylla yn y Gwyllt mewn Tipi a Phabell Cloch - Cwm Tŷ
Coed, i'r de o Gaerfyrddin
Mae Cwm Tŷ Coed, sydd newydd agor ar gyfer tymor yr haf
2015, yn cynnig profiad gwârsylla gwahanol yng nghanol coetir hynafol a
gweirglodd 30 erw sy'n llawn blodau gwyllt. Tipis a phebyll cloch o dan y sêr
fydd eich cartref yn ystod eich arhosiad ond nid rhai cyffredin mo'r rhain, o
na, maent yn cynnwys lloriau naturiol, matiau croen dafad moethus, lanternau
prydferth a stofiau llosgi coed. Hefyd,
mae'r ceginau llawn offer coginio, y byrddau picnic a'r llefydd tân awyr agored
yn golygu y gallwch chi fwynhau ciniawau allan yn yr awyr iach. Gallwch hefyd ymweld â Chaerfyrddin, y dref
farchnad brysur sydd ond tair milltir i ffwrdd. Gall gwesteion dreulio eu
diwrnodau yn y caban gemau pren sy'n cynnwys llwyth o lyfrau, gemau bwrdd a
thennis bwrdd (perffaith i gadw'r plant yn hapus) neu beth am ddefnyddio'r
wifren gwibio drwy'r coed neu'n syml, ymlacio yn yr hamogau lliwgar yng nghanol
y coed sydd â sinema awyr agored er mwyn darparu adloniant gyda'r nos o dan y
sêr.
Pris: 7 noson ar gael am
gyn lleied â £455 neu 2 noson ar gael am gyn lleied â £140 ac mae'r ddau bris
yn seiliedig ar bedwar yn rhannu Pabell Cloch ar sail hunanarlwyo. I archebu
lle, ewch i www.cwmtycoed.co.uk neu ffoniwch 01994
484 688.
Gwyliau Beicio Mynydd Rhamantus i Ddau - Yr Hen Sied
Feiciau, Mudtrek, Fforest Brechfa
Mae'r Hen Sied Feiciau yn llety newydd ar gyfer
2015. Hen ysgubor fach iawn sydd wedi'i
haddasu yw'r Hen Sied Feiciau ar gyrion Fforest Brechfa, Sir Gaerfyrddin ac mae
modd archebu gwyliau yno drwy Mudtrek Mountain Bike Breaks. Mae'r Hen Sied
Feiciau, sydd â lle i 2 berson yn unig, yn fwthyn cysurus sydd wedi'i
adnewyddu'n ddiweddar ac yn cynnwys trawstiau agored, ystafell wely mesanîn,
gosodion a ffitiadau hynod a golygfeydd gwych o gefn gwlad. Mae'r llety hwn yn
ddewis delfrydol ar gyfer parau sy'n chwilio am antur fach gan fod Mudtrek yn
cynnig 'profiad caban sgïo i feicwyr' â sesiynau beicio mynydd oddi ar y
llwybrau penodedig yng nghwmni tywysydd, llety gydag arlwyaeth lawn a
gwasanaeth hurio offer heb anghofio'r llwybrau diddiwedd ar gyfer beiciau drwy
Fforest Brechfa a hynny ar garreg y drws.
Ar ôl diwrnod prysur, llawn adrenalin yn beicio, gall parau ymlacio yn
eu bwthyn cysurus a mwynhau gwydraid o win o flaen y tân coed. Hefyd, mae
croeso i gŵn.
Pris: 2 noson ar gael am
gyn lleied â £250 yn seiliedig ar ddau yn rhannu'r Hen Sied Feiciau. Mae'r pris yn cynnwys brecwast, cinio pecyn a
phryd dau gwrs gyda'r nos ar y ddwy noson a chael eich tywys oddi ar y llwybrau
penodedig am 1 diwrnod. I archebu lle, ewch i www.mudtrek.com neu ffoniwch 01267 202423.
Cuddfan sy'n Croesawu Ceffylau, Pengelli Farm Lodge,
Pengelli
Ar gyrion godidowgrwydd Fforest Brechfa, y mae Pengelli
Farm Lodge, sydd ond wedi agor yn ddiweddar.
Llety ffrâm bren yw Pengelli Farm Lodge wedi'i leoli ar gre geffylau 122
erw sydd â golygfeydd godidog o Ddyffryn Cothi. Mae'r llety clyd hwn â lle ar
gyfer hyd at 5 o bobl ac yn cynnwys lle byw a bwyta mawr agored, llosgwr coed
cysurus a theras mawr dan do ynghyd â thwba twym yn yr awyr agored sy'n
berffaith ar gyfer gwylio'r haul yn machlud dros y dyffryn. Mae hwn yn llecyn
delfrydol ar gyfer pobl sy'n hoffi marchogaeth gan fod llwybrau troellog drwy'r
fforest gerllaw ar gael ar garreg y drws.
Gallwch hefyd archebu stablau ar y fferm ar gyfer eich ceffyl.
Pris: 7 noson ar gael am gyn lleied â £672 neu 2 noson ar gael am gyn lleied â
£192 yn Pengelli Lodge (lle i 5 gysgu) ar sail hunanarlwyo. I archebu lle, ewch
i www.pengelliholidaylets.co.uk neu ffoniwch
07747116088.
Seibiant Naddu Cerrig - Stonehouse Carving a Gwely a
Brecwast Cilwen Country House, Caerfyrddin
Gall arlunwyr y dyfodol ddod i Gaerfyrddin i roi cynnig
ar y grefft gymhleth o naddu cerrig ar gwrs newydd tridiau o hyd yn Stonehouse
Carving. Mae hwn yn seibiant delfrydol
ar gyfer y rhai creadigol yn ein mysg sy'n chwilio am wyliau anghyffredin yr
haf hwn. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ddysgu holl driciau'r grefft gan
gynnwys pa fathau o gerrig sy'n ddelfrydol ar gyfer eu naddu, sut i ddefnyddio
offer a chreu dyluniadau posibl ac wedyn byddant yn cael cyfle i ddilyn y
cynghorion hyn a rhoi cynnig ar naddu eu dyluniadau traddodiadol eu hunain.
Beth am ddilyn y cwrs hwn ac aros yng ngwely a brecwast Cilwen Country House,
sydd ond ychydig o filltiroedd i ffwrdd? Mae'r gwely a brecwast hwn, sydd â
thair ystafell yn unig, yn lle gwych i ymlacio mewn tawelwch. Yn ogystal â chael brecwast llawn yn y bore,
mae modd ichi gael prydau gyda'r nos hefyd sydd wedi'u paratoi gan ddefnyddio'r
cynnyrch lleol gorau megis wyau gan ieir buarth y perchnogion.
Pris: Gellir archebu lle ar
y cwrs tridiau yn Stonehouse Carving am £195 y person sy'n cynnwys cinio,
deunyddiau a defnyddio offer y lle. I archebu lle, ewch i: www.stonehousecarving.co.uk. Gellir sefyll am 3 noson yng Ngwely a Brecwast Cilwen Country House am
gyn lleied â £210 yn seiliedig ar ddau yn rhannu ar sail gwely a brecwast. I
archebu eich lle, ewch i: www.bedandbreakfastwales.net.
No comments:
Post a Comment