Monday, 3 June 2013

Want to Cut the Costs of Your Small or Medium Business?

The Welsh Government is developing plans to help small and medium businesses (SMEs) cut costs by preventing waste and becoming more efficient.

It’s seeking input from Welsh businesses to help it understand what support they need.
If you have a small or medium business (SME) operating in the hospitality and food service, wholesale, retail or office-based service sector, the Welsh Government wants to hear from you.

You are invited to share your views at one of two free workshops. Both will take place 09:00 – 13:00 and be followed by a free networking lunch.

Friday 14 June 2013: Venue Cymru Llandudno LL30 1BB
Friday 21 June 2013: Maldron Hotel Cardiff CF10 1GD

To learn more or reserve your place, contact Jane Richards on 029 2082 1623 or email jane.richards6@wales.gsi.gov.uk

If you are unable to attend you can still take part in the Waste Prevention Programme and Industrial & Commercial Sector Plan consultations online at www.wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/?lang=en

For more information contact: marketing@carmarthenshire.gov.uk




DWEUD EICH DWEUD AM GYMORTH GWASTRAFF I FUSNESAU BACH A CHANOLIG

Mae Llywodraeth Cymru’n datblygu cynlluniau i helpu busnesau bach a chanolig (BBaChau) i dorri eu costau drwy atal gwastraff a dod yn fwy effeithlon.

Mae’n dymuno cael mewnbwn gan fusnesau Cymru i’w helpu i ddeall pa gymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Os oes gennych chi fusnes bach neu ganolig sy’n gweithredu yn y gwasanaeth lletygarwch a bwyd, cyfanwerthu, manwerthu neu’r sector gwasanaethau swyddfeydd, mae Llywodraeth Cymru am glywed gennych.

Fe’ch gwahoddir i rannu eich sylwadau mewn un o ddau weithdy yn rhad ac am ddim. Cynhelir y ddau rhwng 09:00 – 13:00 a bydd cinio rhwydweithio am ddim yn eu dilyn.

Dydd Gwener 14 Mehefin 2013: Venue Cymru Llandudno LL30 1BB
Dydd Gwener 21 Mehefin 2013: Gwesty’r Maldron Caerdydd CF10 1GD

I gael gwybod mwy neu i gadw lle, cysylltwch â Jane Richards ar 029 2082 1623 neu drwy e-bostio jane.richards6@wales.gsi.gov.uk

Os nad ydych yn gallu mynychu gallwch gymryd rhan o hyd yn yr ymgynghoriad ar y Rhaglen Atal Gwastraff a’r ymgynghoriad ar Gynllun y Sector Diwydiannol a Masnachol ar-lein yn www.wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/?skip=1&lang=cy

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: marketing@carmarthenshire.gov.uk

No comments:

Post a Comment