Tuesday, 11 June 2013

£900,000 CADW Heritage Tourism Project

The Marketing & Tourism section of the County Council has secured £900,000 to deliver a regional CADW heritage tourism project that will combine and depict the two intertwined histories of the Princes of Deheubarth and Lords of the Southern March into one unique timeline.

 Funding has been made available from the EU Convergence Programme and the Welsh Government with over £500,000 going into Carmarthenshire itself and the remainder assisting projects in Swansea and Pembrokeshire. The project will run until December 2014.

As well as benefitting the County Council-run Castle in Carmarthen, other key locations in our County are The National Trust and Carreg Cennen Castle. The Princes of Deuheubarth had their seat of power here in Carmarthenshire in Dinefwr Park.




This project is a pan Wales project worth £19million, which will receive a high level of publicity by promoting Wales as a cultural destination. The project will also help open Wales’s outstanding heritage to a wider audience by making it more enjoyable both for visitors and for people who live in Wales.

Please don’t hesitate to contact Marketing and Tourism if you require any further information on the project:



Mae adain Marchnata a Thwristiaeth y Cyngor Sir wedi sicrhau £900,000 i gyflwyno prosiect rhanbarthol gan CADW ym maes twristiaeth treftadaeth. Bydd y prosiect, a fydd yn cyfuno ac yn darlunio dau hanes sy’n cydblethu hanes Tywysogion y Deheubarth ac Arglwyddi Mers y De, mewn un llinell amser unigryw.

 Mae arian ar gael gan Raglen Gydgyfeirio yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru gyda mwy na £500,000 i Sir Gaerfyrddin ei hun a'r gweddill i gynorthwyo prosiectau yn Abertawe a Sir Benfro. Bydd y prosiect ar waith tan fis Rhagfyr 2014.

Yn ogystal â bod o fudd i Gastell Caerfyrddin, y mae’r Cyngor Sir yn gyfrifol amdano, lleoliadau allweddol eraill yn ein Sir yw Castell Carreg Cennen a safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yma ym Mharc Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin yr oedd cadarnle Tywysogion y Deheubarth.

Mae'r prosiect hwn, sy’n werth £19 miliwn, yn brosiect i Gymru gyfan, a bydd yn cael llawer iawn o gyhoeddusrwydd drwy hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ddiwylliannol. Hefyd bydd y prosiect yn helpu i gyflwyno treftadaeth eithriadol Cymru i gynulleidfa ehangach drwy ei gwneud yn fwy pleserus i ymwelwyr ac i bobl sy'n byw yng Nghymru.

Mae croeso ichi gysylltu a'r adran Thwristiaeth a Marchnata os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am y prosiect:

marketing@carmarthenshire.gov.uk


No comments:

Post a Comment