Tuesday, 28 July 2015

Summer Family Fun in the Garden of Wales / Hwyl yr Haf i’r Teulu yng Ngardd Cymru

Summer Family Fun in the Garden of Wales

Here in Carmarthenshire, we have bucket loads exciting activities and events on offer this summer for families in search of a fun day out; from tackling the rapids on the River Teifi and delicious afternoon teas on board a vintage steam train, to canoe trails through the wetlands and spooky tours of Carmarthen after dark. There will even be the return of the famous Blue Bird to the sands of Pendine, recreating the car’s world famous land speed record break in 1925!

Check out some of the activities on offer throughout July and August below, with more details and accommodation available to view at www.discovercarmarthenshire.com/whats-on

Explore Carmarthenshire’s Sinister Past on a Creepy Carmarthen Tour- Carmarthen
Embark on a trip back in time through Carmarthen's creepy past on a spooky evening tour through the country’s oldest town, suitable for all ages. Meet “murderers” and their victims (not real ones, promise); visit the sites of grisly executions; uncover secrets from bygone days and visit the haunted streets of the ancient town on the lookout for ghosts with the help of your guide- the spooky Dr Grimoire. There’s even a peek inside the town’s original Victorian Police Station, the setting for dozens of overnight "ghost watches", and plenty of magical twists.  

Details: Tours run from Carmarthen Guildhall every Wednesday at 7pm from July 22nd- September 2nd. Tickets are priced at £7.50 per adult, £5 per child and £23 per family of four. Booking is essential. For more information visit creepycarmarthen.co.uk or call 01267 231557.

Wild Waters and Paddling Galore- August Summer Play Days at Llandysul Paddlers, Llandysul, Carmarthenshire
Llandysul Paddlers are hosting a variety of summer fun days throughout August, ideal for active kids looking for an adventurous day out. Water lovers can spend mornings splashing about in the River Teifi before hopping on board a kayak or canoe for exhilarating white water rides and river races. After lunch, grab a group of friends and work together to build the best raft possible before testing it on the water. There’re also plenty of land-based activities on offer for those looking for fun on dry land, including cycling, mountain biking and rock climbing.

Details: Summer Play Days are running throughout August on the following dates- 3/5/15, 12/13/14, 19/20/21, 26/27/28 August. Priced from £10 per child per day (10am-4pm). For more information visit www.llandysul-paddlers.org.uk.

Hop on Board a Vintage Steam Train - Gwili Railway, North of Carmarthen, Carmarthenshire
Families can grab a taste of the golden age of railway this summer at Gwili Railway, where they’re invited to hop on board an authentic 1950’s steam hauled service and explore the spectacular surrounding countryside in serious vintage style. Take a ride alongside old station buildings, vintage carriages, steam locomotives and diesel railcars, all with picturesque views of the village cricket pitch and Gwili River, with a delicious strawberry cream tea to satisfy your sweet tooth whilst on board. Plus, on the 19th July, Gwili Railway is hosting a ‘Classic Transport Day’ with a host of vintage vehicles, riverside picnics, miniature railway and carnival rides.

Details: Open from 10am each day during July and August. Tickets available from £10 per adult, £4.50 per child and under 3s go free. For more information visit www.gwili-railway.co.uk.

Canoe Safari through the Wild Wetlands- WWT Llanelli, Carmarthenshire
Intrepid explorers and wildlife lovers alike will love the canoe safaris running at the Wildfowl and Wetlands Trust Llanelli throughout July and August. Your very own wetland adventure, visitors can grab a canoe and head off to explore the vast watery expanses of the wetland otherwise inaccessible to visitors- getting up close and personal with a host of wetland wildlife. The swan’s nest maze is a must-see, but those who’d prefer to stick to dry land needn’t fear- as WWT Llanelli also has a fantastic bike trail to follow; where you’re likely to meet otters, butterflies, birds and dragonflies as you pedal!

Details: Canoe and bike trails run daily throughout July and August from 12-4pm. Cost included in admission. Priced from £8.14 per adult, £4.50 per child and £22.73 per family of four. For more information visit www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli or call 01554 741087.

‘Hidden House’ Tours at Newton House - Dinefwr Park and Castle, Llandeilo, Carmarthenshire
Kids after a taste of how the ‘other half’ used to live should head straight to Dinefwr Park and Castle in Carmarthenshire this summer, where guided tours of Newton House (a 17th century mansion) will take little ones and their families behind the scenes of the historic house. Curious kids can snoop around servants’ corridors, into the basement kitchen, up into the loft space and finally out onto the roof to enjoy the views across Dinefwr’s vast parkland – with touching ancient artefacts and dressing up in Victorian costumes encouraged!  They can even have a go at being a butler for the day, getting to work polishing boots and ironing shirts in the basement. After the tour, families can explore Dinefwr’s vast parkland, home to an abundance of wildlife, and ancient castle; the ideal spot for an al fresco picnic, with bags of space to enjoy.

Details: £6 per car for admission to the parkland. No additional charges for other activities apply. Hidden House tours run daily at 2:30pm throughout July and August. For more information visit nationaltrust.org.uk/dinefwr or call 01558 824512.


We also have a whole host of family-friendly accommodation with remaining availability throughout the July and August school holidays. From spacious self-catered stone cottages with acres of countryside to explore at Waunifor and stylish hotel escapes to Newcastle Emlyn at Gwesty'r Emlyn Hotel, to uber-cool glamping breaks at Cwm Ty Coed near the market town of Carmarthen- there’s something to suit families of all shapes and sizes. For more information about the accommodation on offer, please visit www.discovercarmarthenshire.com/staying

Hwyl yr Haf i’r Teulu yng Ngardd Cymru

Yma yn Sir Gaerfyrddin, mae gennym lu o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yr haf yma i deuluoedd sy’n chwilio am ddiwrnod o hwyl; o fentro i ddŵr gwyllt Afon Teifi a chael te prynhawn blasus ar hen drên stem, i ganwio trwy’r gwlyptir neu fynd ar daith ysbrydion yng Nghaerfyrddin wedi iddi dywyllu. Byddwn hyd yn oed yn gweld yr enwog ‘Blue Bird’ yn dychwelyd i draeth Pentywyn, gan ailgreu llwyddiant bydenwog y car hwnnw i dorri’r record cyflymdra ar dir yn 1925!

Isod cewch fanylion rhai o’r gweithgareddau fydd ar gael yn ystod Gorffennaf ac Awst, ac mae rhagor o fanylion a llety ar gael trwy fynd i www.darganfodsirgar.com/beth-sy-mlaen

Dewch i brofi Gorffennol Sinistr Sir Gaerfyrddin ar daith fwganllyd o amgylch Caerfyrddin
Ewch ar daith yn ôl mewn hanes trwy orffennol dirgel Caerfyrddin trwy grwydro strydoedd tref hynaf y wlad fin nos, ar daith fwganllyd. Bydd y daith yn addas i bob oed, ac yn gyfle i gwrdd â “llofruddion” a’r rhai a lofruddiwyd (nid rhai go iawn, wrth gwrs); ymweld â safleoedd dienyddiadau erchyll; datgelu cyfrinachau’r gorffennol ac ymweld â strydoedd y dref hynafol gan gadw llygad ar agor am ysbrydion, gyda chymorth eich tywysydd – yr arswydus Dr Grimoire. Byddwch hyd yn oed yn cael cip y tu mewn i Orsaf Heddlu wreiddiol y dref, o Oes Victoria, lleoliad dwsinau o “wyliadwriaethau ysbrydion” dros nos, a bydd digonedd o anturiaethau lledrithiol.

Manylion: Bydd y teithiau’n cychwyn o Neuadd y Dref yng Nghaerfyrddin bob nos Fercher am 7pm o 22 Gorffennaf – 2 Medi. Pris y tocynnau yw £7.50 i oedolyn, £5 i blentyn a £23 i deulu o bedwar. Rhaid cadw lle. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i creepycarmarthen.co.uk neu ffoniwch 01267 231557.

Dŵr Gwyllt a Digon o Badlo – Diwrnodau Chwarae’r Haf ym mis Awst gyda’r Llandysul Paddlers, Llandysul, Sir Gaerfyrddin
Mae Llandysul Paddlers yn cynnal amrywiaeth o ddiwrnodau hwyl yr haf ar hyd mis Awst, profiad delfrydol ar gyfer plant egnïol sy’n hoffi diwrnod llawn antur. Gall y rhai sy’n mwynhau chwaraeon dŵr dreulio’r bore yn sblasio yn Afon Teifi cyn neidio i mewn i gaiac neu ganŵ i fynd ar wib drwy’r dŵr gwyllt neu rasio ar yr afon. Ar ôl cinio, bydd cyfle i chi a nifer o ffrindiau gydweithio i greu’r rafft orau cyn ei phrofi ar y dŵr. Bydd hefyd ddigonedd o weithgaredd ar y tir i’r rhai sy’n awyddus i gadw’n sych, gan gynnwys beicio, beicio mynydd a dringo creigiau.

Manylion: Mae Diwrnodau Chwarae’r Haf yn cael eu cynnal ar hyd mis Awst ar y dyddiadau canlynol- 3/5/15, 12/13/14, 19/20/21, 26/27/28 Awst. Mae’r pris yn cychwyn o £10 y plentyn y dydd (10am-4pm). I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.llandysul-paddlers.org.uk.

Ewch ar daith ar Drên Stêm Hynafol – Rheilffordd Gwili, i’r gogledd o Gaerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gall teuluoedd brofi oes aur y rheilffyrdd yr haf yma ar Reilffordd Gwili, lle cânt gyfle i fynd ar wasanaeth stêm dilys o’r 1950au, ac archwilio’r ardaloedd gwledig o amgylch yn steil yr oes. Byddwch yn mynd heibio i hen adeiladau’r orsaf, cerbydau hynafol, peiriannau stêm a disl, a hefyd yn cael golygfeydd gwych o gae criced y pentref ac afon Gwili, gyda the mefus a hufen blasus fydd yn sicr at eich dant yn ystod y daith. Ar ben hynny, ar 19eg Gorffennaf, mae Rheilffordd Gwili’n cynnal ‘Diwrnod Trafnidiaeth Glasurol’, gyda llu o gerbydau hynafol, picnic ar lan yr afon, trên bach a reidiau carnifal.

Manylion: Ar agor o 10am bob dydd yn ystod Gorffennaf ac Awst. Mae tocynnau ar gael o £10 y pen i oedolion, £4.50 i blant, ac ni chodir tâl ar blant o dan 3 oed. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gwili-railway.co.uk.

Saffari ar Ganŵ trwy’r Gwlyptiroedd Gwyllt – Canolfan Adar y Gwlyptir, Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Bydd anturiaethwyr brwd a selogion byd natur wrth eu bodd yn mynd ar Saffari Ganŵ trwy Ganolfan Adar y Gwlyptir yn Llanelli, ar hyd Gorffennaf ac Awst. Dyma gyfle i gael eich antur gwlyptir eich hun, gan fod ymwelwyr yn gallu bachu canŵ a mynd i archwilio’r eangdiroedd gwlyptir nad yw ymwelwyr yn gallu eu gweld fel arfer – a gweld llu o anifeiliaid gwyllt yn agos. Mae drysfa nyth yr alarch yn un o’r uchafbwyntiau, ond os yw’n well gennych chi aros ar dir sych, peidiwch â phoeni, mae gan y Ganolfan lwybr beicio gwych hefyd; yno rydych chi’n debygol o gwrdd â dwrgwn, pili palod, adar a gweision y neidr wrth i chi bedlo!

Manylion: Bydd y llwybrau canwio a beicio ar gael bob dydd ym mis Gorffennaf a mis Awst, o 12-4pm. Mae’r gost yn gynwysedig yn y pris mynediad, sy’n cychwyn o £8.14 y pen i oedolion, £4.50 i blant a £22.73 i deulu o bedwar. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli neu ffoniwch  01554 741087.

Teithiau ‘Tŷ Cudd’ yn Newton House – Parc a Chastell Dinefwr, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin
Os hoffai’r plant ddysgu am fywyd  yn yr oes o’r blaen, anelwch yn syth am Barc a Chastell Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin yn ystod yr haf, lle bydd teithiau tywys o amgylch Newton House (plasdy o’r  17eg ganrif) yn dangos i blant a’u teuluoedd yr holl waith oedd yn arfer digwydd allan o’r golwg yn y tŷ hanesyddol. Gall plant chwilfrydig grwydro coridorau’r gweision, mynd i’r gegin yn yr is-lawr, a dringo i’r stafell yn y to, cyn mynd allan ar y to i fwynhau’r golygfeydd ar draws parcdir helaeth Dinefwr – a chael eu hannog i gyffwrdd â’r hen arteffactau a phrofi gwisgoedd Oes Victoria! Gallan nhw hyd yn oed roi cynnig ar fod yn fwtler am y dydd, a mynd ati i sgleinio sgidiau a smwddio crysau yn yr is-lawr. Ar ôl y daith, gall teuluoedd grwydro ym mharcdir helaeth Dinefwr, lle ceir digonedd o fywyd gwyllt, a’r castell hynafol; mae’n fan delfrydol ar gyfer picnic yn yr awyr agored, gan fod digon o le i fwynhau.

Manylion: £6 y car yw’r tâl mynediad i’r parcdir, ac ni chodir tâl ychwanegol am y gweithgareddau eraill. Mae’r teithiau ‘Tŷ Cudd’ (Hidden House) yn cael eu cynnal bob dydd am 2:30pm ar hyd mis Gorffennaf a mis Awst. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i nationaltrust.org.uk/dinefwr neu ffoniwch 01558 824512.

Mae gennym ni hefyd ddigonedd o lety hwylus i deuluoedd, ac mae lleoedd ar gael ar hyd gwyliau ysgol Gorffennaf ac Awst. O fythynnod carreg eang yn Waunifor, lle gallwch chi drefnu eich bwyd eich hun ac archwilio erwau o gefn gwlad, i westy steilus  y gallwch ddianc iddo, Gwesty'r Emlyn Hotel, yng Nghastellnewydd Emlyn, i’r gwyliau gwersylla moethus diweddaraf, Cwm Ty Coed, ger tref farchnad Caerfyrddin – mae rhywbeth at ddant teuluoedd, beth bynnag yw eu maint a’u math. I gael rhagor o wybodaeth am y llety sydd ar gael, ewch i www.discovercarmarthenshire.com/staying

Wednesday, 10 June 2015

New Summer Holiday Escapes in Carmarthenshire / Seibiannau Newydd ar gyfer yr Haf yn Sir Gaerfyrddin

New Summer Holiday Escapes in Carmarthenshire
 Here in Carmarthenshire, we’re excited to announce that we have a whole host of new holiday options for the 2015 summer season to entice holidaymakers to this beautiful corner of the UK; from a new family-friendly glampsite and farm-escape that allows little ones to sleep in their own pig ark, to a ‘horse comes too’ converted lodge on the edge of the Brechfa Forest and a unique stone carving break.

Check out some highlights of the new breaks around the county below!

Pig-Staycation- Sleep with the Pigs at Cwmcrwth Farm Cottages, Llandeilo


Forget converted horse boxes and shepherd’s huts... Cwmcrwth Farm Cottages is taking accommodation conversions to a new level with the launch of their new ‘Pig Ark’ breaks this summer, allowing guests to sleep with the pigs under the stars in their own converted pig ark. Scrubbed-up and tastefully decorated, Cwmcrwth’s converted pig ark provides cosy accommodation for two in an orchard overlooking the farm, with sleeping bags and blankets for a comfy night (almost) under the stars. Perfect for families after something a little different, guests are able to arrange a night’s stay in the pig ark as part of a multi-night break in one of the farm’s stylish converted barns; with kids able to take part in a host of fun farm activities throughout their stay, helping Farmer Rob collect the eggs, feed the pigs and meet the resident horses. Adults can even take part in a pork-curing course run by the farm; although may be best not to tell the kids!

Price: 3 night stay from £189/ 7 night stay from £420 based on a family of four sharing the Hayloft cottage on a self-catering basis. For guests, a stay in the Mafanwys Pig Ark is priced at an extra £25 per night (2 adults and 2 children) and includes sleeping and kitchen equipment, picnic breakfast and pig swill bucket (pig related goodies). Prices for non-guests are £45 per night, including the listed extras.  To book, visit www.cwmcrwthfarmcottages.co.uk or call 01558 669160.

Magic and Mind-Reading in the Heart of the Teifi Valley- Blaenfforest, Newcastle Emlyn
Those in search of a magical escape for all the family need look no further than Blaenfforest Holiday
Cottages- a clutch of converted traditional stone cottages in the heart of Carmarthenshire’s Teifi Valley, which are set to welcome the Magic Circle with the launch of a new ‘magic and mind reading’ package for guests. Magician and storyteller Nick Brunger, who runs the award winning Creepy Carmarthen ghost tours, has teamed up with Blaenfforest to offer guests this special Magic and Mind Reading break; which will see Nick entertain guests with a unique evening of magic and mind-reading, before heading out for a guided tour of the ancient wooded valley behind the cottages- where one might find a dragon’s lair on be lucky enough to catch a glimpse of a fairy. Kids will love the magic and mystery- with plenty to keep the adults’ minds’ boggled too! Guests can book this experience privately, with a glass of mulled wine (or fruit punch) and some spooky snacks thrown in for good measure.

Price: A 7 night stay at Blaenfforest Granary (sleeps 4) is priced from £475 on a self-catering basis.  Magic and Mindreading experience costs from £20pp- 4 person minimum required for booking. To book, visit www.cottageholidayswales.com or call 01559 371264. 

Wild Tipi and Bell Tent Glamping- Cwm Ty Coed, just south of Carmarthen
Newly opened for the 2015 summer season, Cwm Ty Coed offers a quirky glamping experience hidden amidst 30 acres of rolling wildflower meadow and ancient woodland. Bell tents and tipis act as your home under the stars- boasting natural floors, sheepskin rugs, twinkling lanterns and wood-burning stoves. Well-equipped kitchens, picnic tables and outdoor fire-pits make alfresco lunches easy, with the bustling market town of
Carmarthen just three miles away. Guests can spend days in the wooden games cabin with tons of books, board games and table tennis (perfect for keeping the kids entertained), take a ride on the treetop zipwire or simply relax in colourful hammocks amidst the trees- with an outdoor cinema providing evening entertainment under the stars.

Price: 7 nights available from £455 / 2 nights available from £140, both based on four sharing a Bell Tent on a self-catering basis. To book visit www.cwmtycoed.co.uk or call 01994 484 688.

Romantic Mountain Bike Break for Two- The Old Bike Shed, Mudtrek, Brechfa Forest
New for 2015 is The Old Bike Shed- a bijoux barn conversion located on the edge of the Brechfa Forest in Carmarthenshire, offered as accommodation by Mudtrek Mountain Bike Breaks. Sleeping just 2, the Old Bike

Shed is the ultimate cosy cottage getaway - recently converted and boasting exposed beams, a mezzanine bedroom, kitsch fixtures and fittings and sweeping countryside views. The ideal choice for couples in search of a little adventure, Mudtrek offers guests a ‘ski chalet experience for bikers’- with guided ‘off piste’ mountain bike sessions, fully-catered accommodation and equipment hire, not to mention endless trails through the Brechfa Forest straight from the front door to explore on two wheels.  After a busy adrenaline-fuelled day’s biking, couples can retreat to their cosy cottage à deux for a glass wine in front of the wood-burner. Plus, dogs are more than welcome.

Price: 2 night stays available from £250 based on two sharing The Old Bike Shed, including breakfast, packed lunch and two course evening meals on both nights and 1 day’s off-piste guiding. To book visit www.mudtrek.com or call 01267 202423.

Horse Comes Too Hideaway- Pengelli Farm Lodge, Pengelli
Sat at the edge of the spectacular Brechfa Forest is the recently-opened Pengelli Farm Lodge, a timber-framed lodge set on 122-acre horse stud farm, with beautiful views out to the Cothi Valley. This cosy lodg
sleeps up to 5, with an open plan living and dining area, cosy woodburner and large covered terrace complete with outdoor hot tub- perfect for watching the sun set over the valley. An ideal spot for riding fans, circular trails winding through the beautiful forest nearby go straight from the door, with stabling available for your horse on the stud farm with you.

Price:  7 nights available from £672 / 2 nights available from £192 for Pengelli Lodge (sleeps 5) on a self-catering basis. To book visit www.pengelliholidaylets.co.uk or call 07747116088.

Stonecarving Getaway – Stonehouse Carving and Cilwen Country House B&B, Camarthen
Budding artists can head to Carmarthen to try their hand at the intricate art of stonecarving with Stonehouse
Carving’s new three day course- the ideal option for creative types looking for an out-of-the-ordinary escape this summer. Participants will be taught all the tricks of the trade- stone types ideal for carving, how to use tools and create achievable designs- before putting this to good use carving their very own traditional York Rose or Green Man to take home. Combine this with a stay at Cilwen Country House B&B just a couple of miles down the road; with just three rooms it’s a great secluded getaway, and as well as the full English breakfast in the morning, evening meals are also available made out of the best locally sourced produce foods – like eggs from their free-range chickens. 

Price: The 3-day Stone Carving course at Stonehouse Carving is available for £195pp, including lunch, materials and use of tools. To book visit: www.stonehousecarving.co.uk. A 3 night stay at Cilwen Country House B&B is available from £210 based on two sharing on a B&B basis. To book visit: www.bedandbreakfastwales.net.


For more accommodation across the county, check out our ‘Staying’ page here: http://www.discovercarmarthenshire.com/staying/index.html


Seibiannau Newydd ar gyfer yr Haf yn Sir Gaerfyrddin

Yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod gennym ni lu o ddewisiadau gwyliau newydd ar gyfer tymor yr haf 2015 er mwyn denu pobl i'r rhan brydferth hon o'r Deyrnas Unedig. Maent yn cynnwys safle gwârsylla newydd ar fferm, sy'n addas i'r teulu cyfan ac sy'n caniatáu i blant bach gysgu mewn arch moch, llety sydd wedi'i addasu ac sy'n croesawu ceffylau ar gyrion Fforest Brechfa neu seibiant unigryw yn naddu cerrig.

Beth am gael cipolwg ar rai o'r seibiannau newydd sydd ar gael ledled y Sir isod?

Beth am gysgu yng nghwmni'r moch ym Mythynnod Cwmcrwth Farm, Llandeilo?
Anghofiwch am yr addasiadau arferol i adeiladau a rhowch gynnig ar rywbeth bach gwahanol... Bythynnod Cwmcrwth Farm yw'r lle ichi os ydych chi'n chwilio am seibiant bach anghyffredin mewn llety anarferol wrth iddynt lansio ei seibiannau newydd mewn Arch Moch yr haf hwn, sy'n caniatáu i westeion gysgu gyda'r moch o dan y sêr yn yr arch moch sydd wedi'i haddasu gan y perchnogion. Mae'r arch moch, sydd wedi'i haddasu, yn lân ac wedi'i haddurno'n chwaethus ac yn darparu llety clyd i ddau berson mewn perllan sy'n edrych dros y fferm.  Darperir sachau cysgu a blancedi er mwyn cael noson gyfforddus (bron) o dan y sêr. Mae'r gwyliau hyn yn berffaith ar gyfer teuluoedd sydd eisiau seibiant ychydig yn wahanol i'r arfer.  Gall gwesteion drefnu aros am noson yn yr arch moch fel rhan o wyliau hirach yn un o ysguboriau'r fferm sydd wedi'u haddasu yn llety modern. Bydd croeso i'r plant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar y fferm drwy gydol eu harhosiad megis helpu Rob y Ffermwr i gasglu'r wyau, bwydo'r moch a maldodi'r ceffylau sy'n byw yno. Gall oedolion hyd yn oed gymryd rhan mewn cwrs halltu porc sy'n cael ei gynnal gan berchnogion y fferm, er efallai byddai'n well peidio â dweud wrth y plant am hyn!

Pris: Gallwch aros am 3 noson am gyn lleied â £189 neu 7 noson am gyn lleied â £420 sy'n seiliedig ar deulu o bedwar yn rhannu bwthyn The Hayloft ar sail hunanarlwyo. Nodyn i westeion - mae aros yn Arch Moch Mafanwy yn costio £25 ychwanegol fesul noson (2 oedolyn a 2 blentyn) ac yn cynnwys offer cegin, sachau cysgu ac ati, brecwast picnic a bwced o ddanteithion. Y pris ar gyfer pobl sydd heb fod yn westeion yw £45 y noson sy'n cynnwys yr holl ychwanegiadau a nodwyd.  I archebu lle, ewch i www.cwmcrwthfarmcottages.co.uk neu ffoniwch 01558 669160.

Dewiniaeth a Darllen Meddyliau yng nghanol Dyffryn Teifi - Blaenfforest, Castellnewydd Emlyn
Bythynnod Gwyliau Blaenfforest yw'r lle i fod ar gyfer y sawl sydd eisiau seibiant hudolus i'r teulu cyfan.  Clwstwr o fythynnod cerrig traddodiadol sydd wedi'u haddasu yng nghanol Dyffryn Teifi, Sir Gaerfyrddin yw'r rhain sydd newydd lansio pecyn gwyliau newydd i westeion sef 'Dewiniaeth a Darllen Meddyliau.' Mae Nick Brunger, y consuriwr a'r storïwr sy'n cynnal teithiau bwganllyd Caerfyrddin Iasol sydd wedi ennill gwobrau, wedi ymuno â pherchnogion Blaenfforest er mwyn cynnig seibiant arbennig yn llawn dewiniaeth a darllen meddyliau i westeion. Fel rhan o'r cynnig, bydd Nick yn diddanu gwesteion drwy gynnal noson unigryw o ddewiniaeth a darllen meddyliau cyn mentro mas ar daith dywysedig o amgylch y dyffryn coediog hynafol y tu ôl i'r bythynnod a phwy a ŵyr pa ryfeddodau fydd i'w gweld yno. Bydd plant yn dwlu ar hud a dirgelwch y digwyddiad a bydd digon i gadw'r oedolion yn hapus hefyd. Gall gwesteion fynd ati i archebu'r profiad hwn eu hunain os ydynt yn dymuno ac fel arwydd o ewyllys da, bydd gwydraid o win twym (neu ddiod ffrwythau) a byrbrydau bwganllyd wedi'u cynnwys yn y pris.

Pris: Mae aros am 7 noson ym mwthyn Blaenfforest Granary (sydd â lle i 4 gysgu) yn costio cyn lleied â £475 ar sail hunanarlwyo.  Mae'r sesiwn Dewiniaeth a Darllen Meddyliau yn costio cyn lleied ag £20 y person ond mae angen o leiaf 4 person er mwyn archebu sesiwn. I archebu lle, ewch i www.cottageholidayswales.com neu ffoniwch 01559 371264. 

Gwârsylla yn y Gwyllt mewn Tipi a Phabell Cloch - Cwm Tŷ Coed, i'r de o Gaerfyrddin
Mae Cwm Tŷ Coed, sydd newydd agor ar gyfer tymor yr haf 2015, yn cynnig profiad gwârsylla gwahanol yng nghanol coetir hynafol a gweirglodd 30 erw sy'n llawn blodau gwyllt. Tipis a phebyll cloch o dan y sêr fydd eich cartref yn ystod eich arhosiad ond nid rhai cyffredin mo'r rhain, o na, maent yn cynnwys lloriau naturiol, matiau croen dafad moethus, lanternau prydferth a stofiau llosgi coed.  Hefyd, mae'r ceginau llawn offer coginio, y byrddau picnic a'r llefydd tân awyr agored yn golygu y gallwch chi fwynhau ciniawau allan yn yr awyr iach.  Gallwch hefyd ymweld â Chaerfyrddin, y dref farchnad brysur sydd ond tair milltir i ffwrdd. Gall gwesteion dreulio eu diwrnodau yn y caban gemau pren sy'n cynnwys llwyth o lyfrau, gemau bwrdd a thennis bwrdd (perffaith i gadw'r plant yn hapus) neu beth am ddefnyddio'r wifren gwibio drwy'r coed neu'n syml, ymlacio yn yr hamogau lliwgar yng nghanol y coed sydd â sinema awyr agored er mwyn darparu adloniant gyda'r nos o dan y sêr.

Pris: 7 noson ar gael am gyn lleied â £455 neu 2 noson ar gael am gyn lleied â £140 ac mae'r ddau bris yn seiliedig ar bedwar yn rhannu Pabell Cloch ar sail hunanarlwyo. I archebu lle, ewch i www.cwmtycoed.co.uk neu ffoniwch 01994 484 688.

Gwyliau Beicio Mynydd Rhamantus i Ddau - Yr Hen Sied Feiciau, Mudtrek, Fforest Brechfa
Mae'r Hen Sied Feiciau yn llety newydd ar gyfer 2015.  Hen ysgubor fach iawn sydd wedi'i haddasu yw'r Hen Sied Feiciau ar gyrion Fforest Brechfa, Sir Gaerfyrddin ac mae modd archebu gwyliau yno drwy Mudtrek Mountain Bike Breaks. Mae'r Hen Sied Feiciau, sydd â lle i 2 berson yn unig, yn fwthyn cysurus sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar ac yn cynnwys trawstiau agored, ystafell wely mesanîn, gosodion a ffitiadau hynod a golygfeydd gwych o gefn gwlad. Mae'r llety hwn yn ddewis delfrydol ar gyfer parau sy'n chwilio am antur fach gan fod Mudtrek yn cynnig 'profiad caban sgïo i feicwyr' â sesiynau beicio mynydd oddi ar y llwybrau penodedig yng nghwmni tywysydd, llety gydag arlwyaeth lawn a gwasanaeth hurio offer heb anghofio'r llwybrau diddiwedd ar gyfer beiciau drwy Fforest Brechfa a hynny ar garreg y drws.  Ar ôl diwrnod prysur, llawn adrenalin yn beicio, gall parau ymlacio yn eu bwthyn cysurus a mwynhau gwydraid o win o flaen y tân coed. Hefyd, mae croeso i gŵn.

Pris: 2 noson ar gael am gyn lleied â £250 yn seiliedig ar ddau yn rhannu'r Hen Sied Feiciau.  Mae'r pris yn cynnwys brecwast, cinio pecyn a phryd dau gwrs gyda'r nos ar y ddwy noson a chael eich tywys oddi ar y llwybrau penodedig am 1 diwrnod. I archebu lle, ewch i www.mudtrek.com neu ffoniwch 01267 202423.

Cuddfan sy'n Croesawu Ceffylau, Pengelli Farm Lodge, Pengelli
Ar gyrion godidowgrwydd Fforest Brechfa, y mae Pengelli Farm Lodge, sydd ond wedi agor yn ddiweddar.  Llety ffrâm bren yw Pengelli Farm Lodge wedi'i leoli ar gre geffylau 122 erw sydd â golygfeydd godidog o Ddyffryn Cothi. Mae'r llety clyd hwn â lle ar gyfer hyd at 5 o bobl ac yn cynnwys lle byw a bwyta mawr agored, llosgwr coed cysurus a theras mawr dan do ynghyd â thwba twym yn yr awyr agored sy'n berffaith ar gyfer gwylio'r haul yn machlud dros y dyffryn. Mae hwn yn llecyn delfrydol ar gyfer pobl sy'n hoffi marchogaeth gan fod llwybrau troellog drwy'r fforest gerllaw ar gael ar garreg y drws.  Gallwch hefyd archebu stablau ar y fferm ar gyfer eich ceffyl.

Pris:  7 noson ar gael am gyn lleied â £672 neu 2 noson ar gael am gyn lleied â £192 yn Pengelli Lodge (lle i 5 gysgu) ar sail hunanarlwyo. I archebu lle, ewch i www.pengelliholidaylets.co.uk neu ffoniwch 07747116088.

Seibiant Naddu Cerrig - Stonehouse Carving a Gwely a Brecwast Cilwen Country House, Caerfyrddin
Gall arlunwyr y dyfodol ddod i Gaerfyrddin i roi cynnig ar y grefft gymhleth o naddu cerrig ar gwrs newydd tridiau o hyd yn Stonehouse Carving.  Mae hwn yn seibiant delfrydol ar gyfer y rhai creadigol yn ein mysg sy'n chwilio am wyliau anghyffredin yr haf hwn. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ddysgu holl driciau'r grefft gan gynnwys pa fathau o gerrig sy'n ddelfrydol ar gyfer eu naddu, sut i ddefnyddio offer a chreu dyluniadau posibl ac wedyn byddant yn cael cyfle i ddilyn y cynghorion hyn a rhoi cynnig ar naddu eu dyluniadau traddodiadol eu hunain. Beth am ddilyn y cwrs hwn ac aros yng ngwely a brecwast Cilwen Country House, sydd ond ychydig o filltiroedd i ffwrdd? Mae'r gwely a brecwast hwn, sydd â thair ystafell yn unig, yn lle gwych i ymlacio mewn tawelwch.  Yn ogystal â chael brecwast llawn yn y bore, mae modd ichi gael prydau gyda'r nos hefyd sydd wedi'u paratoi gan ddefnyddio'r cynnyrch lleol gorau megis wyau gan ieir buarth y perchnogion. 

Pris: Gellir archebu lle ar y cwrs tridiau yn Stonehouse Carving am £195 y person sy'n cynnwys cinio, deunyddiau a defnyddio offer y lle. I archebu lle, ewch i: www.stonehousecarving.co.uk. Gellir sefyll am 3 noson yng Ngwely a Brecwast Cilwen Country House am gyn lleied â £210 yn seiliedig ar ddau yn rhannu ar sail gwely a brecwast. I archebu eich lle, ewch i: www.bedandbreakfastwales.net.

Wednesday, 20 May 2015

Your essential guide to this weekend in Carmarthenshire...

You can keep you hat on here even if you’re feeling Blue
KEEPING your hat at an elegant angle is hard enough while juggling a handbag and glass of champagne. Just ask any of the elegant ladies trotting off to Trimsaran. All bets are off on it not being a magnificent Ladies Night at Ffos Las Racecourse on May 23 with an added fascinator touch of spice with pop boy band Blue strumming to the event. Recent election results may have painted Llanelli red but Trimsaran will certainly be ‘Blue’ all over for this fabulous family partying event.
There are seven exciting jump races and competitions for the best dressed ladies ah-la-Ascot...and for the best gent – with a hat.  Yes you can keep your hat on if you are feeling Blue, just don’t lose your shirt. And Top Tips to help you find a winner: Don’t bet on any horse if the jockey is wearing pyjamas – he’s bound to come in late.

Walks festival is a blisteringly great event
FORGET John Cleese and his Ministry of Funny Walks.  Llanelli has its very own Festival of Walks that will rock your boots. If, as Nancy Sinatra sang ‘These Boots Were Meant For Walking’ then get yours on make sure that’s just they will do and shuffle along to this Festival Festival running (sorry, walking) from May 22-25. Young and old, non-members and members alike are welcome to the Spring Bank Holiday event that has attracted hundreds to join the throngs spreading through the hills and along the coast from Llanelli. The very professional Llanelli Ramblers organise and host the annual event which has established Llanelli as a popular centre for walking lacing up walkers from all parts of the UK and beyond. The 2015 Llanelli Festival celebrates the 20th Anniversary of the event with a blistering choice of 15 walks to suit all ages and abilities, in areas including the Brecon Beacons, Gower, UNESCO World Heritage Site at Blaenavon and more There will also be a  Festival Party at the newly reopened Selwyn Samuel Centre, as well as the traditional Welsh Tea to round off the Festival.

Take a break!
PARENTING holiday headaches can be stung away by Bizzy Bee Clubs at Carmarthenshire council Leisure centres. If your are buzzing about and the children are at a loss of things to do pop along to your nearest leisure centre and just see what they have on offer at the Bizzy Bee clubs to wear the little ones out with fun packed activities. There are plenty of activities there too for the older children with staff always willing to offer advice or help



Wheely great tour of Carmarthenshire
BYNEA Cycling Club has a cycling festival that is wheely great a Tour de Carmarthenshire. Their event on Sunday May 24th has a course spinning through 69-miles of glorious countryside townships and communities that will take your breathy away. It is as much fun for the competitor as it is for the cheering kerb thronging bystanders at the many vantage points showcasing Carmarthenshire on a figure-of- eight course that begins at Church Bank Playfields, Llandovery at 11am. The tour takes in the chocolate box painted hillside properties in Llandeilo, swings under the towering Dryslwyn castle walls and ploughs through the jaw-dropping countryside of the Towi Valley through Llanwrda.

The cyclists will glint past the gold mines at Dolaucothi, stream by Talley Abbey and struggling into the brooding Black Mountain where Top Gear presenters have been known to burn doughnuts in the tarmac. It is a day in the saddle that will have you coming back for more. There are categories for juniors, ladies, and veterans as well as the four classes of regional riders and you can enter on the day for £30

Eich canllaw hanfodol ar gyfer y penwythnos hwn yn Sir Gaerfyrddin....

‘Blue’ yn perfformio ar Noson y Merched
MAE gofalu bod eich het yn aros yn y man iawn yn gallu bod yn ddigon anodd wrth ddal bag llaw a gwydraid o siampên - gofynnwch i un o’r merched gosgeiddig sy’n mynd i Gae Rasio Ffos Las ar Noson y Merched ar Fai 23! Bydd bechgyn y band pop ‘Blue’ yn perfformio yno, felly er taw coch yw lliw tref Llanelli yn ôl canlyniadau’r etholiad diweddar, ‘glas’ fydd Trimsaran yn bendant ar gyfer y digwyddiad hwyliog hwn i’r teulu.
Bydd saith o rasys cyffrous dros y clwydi a bydd cystadleuaeth i’r merched sydd â’r wisg orau, tebyg i Ascot, ac i’r gŵr mwyaf trwsiadus – â het.  A dyma gyngor doeth i’ch helpu i ddod o hyd i enillydd: Peidiwch â rhoi bet ar geffyl os yw’r joci’n gwisgo ei ddillad nos – mae’n siŵr o orffen yn olaf.

Yr Ŵyl Gerdded yn llwyddiant ysgubol
ANGHOFIWCH am John Cleese a’i ‘Ministry of Funny Walks’. Mae gan Lanelli ei Gŵyl Gerdded ei hun rhwng Mai 22 a 25 felly beth am ymuno yn yr hwyl a manteisio ar gyfle i ymarfer corff a chael awyr iach ar yr un pryd. Mae’r digwyddiad hwn dros Ŵyl Banc y Gwanwyn - lle croesewir yr hen, yr ifanc, aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau - yn denu cannoedd i gerdded y bryniau a’r arfordir yng nghyffiniau Llanelli. Cymdeithas Cerddwyr Llanelli sy’n trefnu ac yn cynnal y digwyddiad blynyddol hwn, sydd wedi gwneud Llanelli’n ganolfan boblogaidd i gerddwyr o bob rhan o Brydain a’r tu hwnt. Mae’r Ŵyl hon yn Llanelli yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2015 ac mae dewis gwych o 15 o deithiau sy’n golygu bod rhywbeth addas i bob oedran a phob gallu, a hynny mewn ardaloedd fel Bannau Brycheiniog, Penrhyn Gŵyr, safle Treftadaeth y Byd UNESCO ym Mlaenafon a mwy. Hefyd bydd Parti yn rhan o’r Ŵyl yng Nghanolfan Selwyn Samuel (sydd newydd ailagor) yn ogystal â’r Te Cymreig traddodiadol i gwblhau’r Ŵyl.

Cymerwch hoe!
GALL Clybiau’r Bizzy Bees a gynhelir yng nghanolfannau hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin ddatrys rhai o’r problemau sydd gan rieni yn ystod y gwyliau. Os ydych chi’n brysur ac os yw’r plant yn methu meddwl am bethau i’w diddori, ewch draw i’ch canolfan hamdden agosaf i weld pa weithgareddau hwyl i flino’r plant sydd ar gael yn y Clybiau Bizzy Bees. Mae digonedd o weithgareddau yno hefyd i blant hŷn ac mae’r staff yn barod bob amser i gynnig cyngor neu i helpu.

Taith Feicio yn Sir Gaerfyrddin
MAE gan Glwb Beicio Bynea ŵyl feicio sy’n gyfle gwych i gael taith hir drwy Sir Gâr. Cynhelir y daith 69 milltir o hyd ddydd Sul Mai 24ain gan fynd drwy drefi, cymunedau, a llecynnau gwledig godidog. Mae’n gymaint o hwyl i’r cystadleuwyr ag yw i’r sawl sy’n gwylio ac yn bloeddio eu cymeradwyaeth mewn mannau sy’n arddangos Sir Gâr ar ei gorau. Mae’r cwrs ar ffurf rhif wyth ac yn dechrau ym meysydd chwarae Banc yr Eglwys, Llanymddyfri am 11am. Mae’r daith yn mynd heibio i’r tai amryliw ar y rhiw yn Llandeilo, yn croesi islaw muriau castell Dryslwyn ac yn palu ymlaen drwy gefn gwlad drawiadol Dyffryn Tywi drwy Lanwrda.
Bydd y beicwyr yn mynd heibio i Fwyngloddiau Dolau Cothi ac Abaty Talyllychau cyn ei throi hi tuag at y Mynydd Du. Mae’n ddiwrnod cofiadwy ar y beic a byddwch yn sicr o ddychwelyd eto. Mae categorïau i blant, menywod, a phobl hŷn yn ogystal â phedwar dosbarth i feicwyr rhanbarthol. Nid oes yn rhaid trefnu ymlaen llaw, gallwch wneud hynny ar y dydd am £30. 



Monday, 18 May 2015


Head to Carmarthenshire for Fun for All the Family this Half Term

Here in Carmarthenshire there’s plenty on offer to keep families of all ages entertained this May Half Term; from duckling tours and upstairs/downstairs castle explorations, to foraged feasts and cookery classes for little chefs in the making! With tons of exciting activities and events planned across the region, plus a host of family-friendly accommodation options available, our corner of south-west Wales is the perfect spot for a fun-filled half term escape- with a teaser of some of the great events on offer below...

Explore Behind the Scenes at Stradey Castle - Wednesday 27 May at 2.30pm

Head to this 19th Century mansion in the heart of Carmarthenshire on Wednesday 27th May for an exciting exploration of this historic house and its surrounding grounds. Families will get the chance to go behind the scenes and see how a house like this would have worked over 160 years ago, discovering how people used to live at Stradey in the days before electricity and plumbed bathrooms. Visitors will have the chance to take the famous Guy Fawkes passage around the basement, climb to the top of the Tower to take in magnificent views stretching over Carmarthen Bay and explore the vast grounds and surrounding Woodland Gardens - the perfect opportunity for kids to stretch their legs.
Details: The hour-long tour is available at 2.30pm, priced at £10 per adult and £5 per child. Tours must be pre-booked, visit www.stradeycastle.com or call 01554 774626.

Cookery Workshops for Little Chefs in the Making at Lolfa Cynin B&B- Wednesday 27 May

Set on a working dairy farm in St Clears is Lolfa Cynin B&B, offering cosy guest accommodation in an old coach house surrounded by welsh beautiful countryside. On Wednesday 27 May, Lolfa Cynin will be hosting two kids cookery classes, the first for parents and children aged 4-8 and the second for 8-12 year olds, each hosted by friendly cook Lisa from Pumpkin Patch Kitchen & Garden. Little chefs will learn to cook up a storm with home-grown and locally sourced produce before tucking into their own delicious creations. Once classes are over, guests can join the farmer whilst he feeds the animals, head out on woodland walks or splash about in the pool before returning to cosy rooms - each offering a real home away from home vibe for families.
Details: A 2 night stay from 26-28 May is available from £200 based on 3 sharing a family room on a B&B basis, including complimentary access to the leisure club and morning farm walk. Prices for the cookery workshops are £20 per child, £7 per additional child taking part and accompanying adult goes free.  Visit www.lolfa-cynin.co.uk or call 01994 232773.

Duckling Tours and Den Building at WWT Llanelli Wetland Centre - Saturday 23 - Sunday 31 May
Throughout the half term week, WWT Llanelli is offering visitors the chance to take a sneak peek behind the scenes on a tour around the Centre’s duckling nursery for an exciting egg-to-duckling experience. Little (and not so little!) animal-lovers can view baby ducklings up close in their indoor and outdoor nurseries, meet the newly-hatched fluffy arrivals and even follow the development of ducklings yet to hatch. Once the tour is over, there’s plenty more to do at the centre; from guided bird watching sessions to den building and pond dipping - all with breathtaking views across the diverse wetland habitat.
Details: Hour-long duckling tours run daily at 12pm, 2pm and 3pm from 23-31 May. Price is included in admission - £8.95 per adult, £4.95 per child, under 4s free entry and family tickets £25.00. Visit www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli  or call 01554 741 087.

Foraging, Fly-Fishing and Coracles at the National Botanic Garden of Wales- Saturday 23-Sunday 31 May

The National Botanic Garden of Wales will be hosting a variety of activities throughout half-term, ideal for giving kids (and big kids alike!) a hefty dose of fresh air. From the 23-25 May, the Garden will be hosting a special hobbies weekend, where there’s plenty going on to please the whole family from crafts and canoeing to dancing and dolls’ houses. After a morning of activities, families can take a wander around the gardens, discovering hidden sculptures and mosaics, visiting the adventure play zone and playing in acres of open space. For something different, on the weekend of 30-31 May families can learn all about foraging with plenty of cooking and tasting demonstrations, before heading out into the gardens to hunt and gather a delicious wild meal for themselves.
Details: Saturday 23 – Sunday 31 May. Adult entry price £9.75, Children £4.95, Under 5s go free and Family Tickets (2 adults and up to 4 children) £24.00. Visit www.gardenofwales.org.uk for further information.

_____________________________________________________________________________


Dewch i Sir Gaerfyrddin er mwyn i'r teulu cyfan gael hwyl yr hanner tymor hwn

Yma yn Sir Gaerfyrddin mae digonedd i ddiddanu teuluoedd o bob oed yn ystod hanner tymor y mis Mai hwn; ymhlith yr hyn sydd ar gael yma mae teithiau cywion hwyaid, cyfle i weld bywyd fyny grisiau a lawr grisiau mewn cestyll, gwledd o fwydydd a fforiwyd, a dosbarthiadau coginio i gyw gogyddion! Gyda llu o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous wedi'u cynllunio ar draws y rhanbarth, a llond gwlad o ddewisiadau ar gael o ran llety sy'n croesawu teuluoedd, ein cwr ni o dde-orllewin Cymru yw'r lle perffaith i ddianc iddo am hanner tymor llawn hwyl – mae rhagflas o rai o'r digwyddiadau gwych sydd ar gael wedi'i nodi isod...

Golwg y tu ôl i'r llen yng Nghastell y Strade – dydd Mercher, 27 Mai am 2.30pm

Dewch draw, ddydd Mercher, 27ain Mai, i'r plasty hwn sy'n dyddio o'r 19eg ganrif ac sydd yng nghanol                       Sir Gaerfyrddin i gael cyfle cyffrous i archwilio'r plasty hanesyddol hwn a'i diroedd. Caiff teuluoedd gyfle i gael golwg y tu ôl i'r llenni a gweld sut y byddai plasty o'r math hwn wedi cael ei redeg dros 160 o flynyddoedd yn ôl, gan ddysgu sut yr oedd pobl yn byw yn y Strade cyn dyddiau'r cyflenwad trydan ac ystafelloedd ymolchi ac iddynt blymwaith. Bydd cyfle i ymwelwyr fynd ar hyd coridor enwog Guto Ffowc o amgylch yr islawr, dringo i frig y Tŵr i fwynhau'r golygfeydd gwych sy'n ymestyn draw at Fae Caerfyrddin a mynd ar droed i grwydro’r tiroedd eang a'r Gerddi Coetir sydd o gwmpas y plasty – y cyfle perffaith i'r plant fynd am dro egnïol.
Y Manylion: Mae'r awr o daith dywys ar gael am 2.30pm a'r pris yw £10 i oedolyn a £5 i blentyn. Rhaid archebu teithiau tywys ymlaen llaw. Ewch i wefan http://www.stradeycastle.com neu ffoniwch 01554 774626.

Gweithdai Coginio i Gyw Gogyddion yn llety Gwely a Brecwast Lolfa Cynin – dydd Mercher, 27 Mai

Mae llety Gwely a Brecwast Lolfa Cynin, sydd ar fferm laeth yn Sanclêr, yn cynnig llety clyd i ymwelwyr a hynny mewn hen gerbyty yng nghanol cefn gwlad hardd Cymru. Ddydd Mercher, 27 Mai, bydd Lolfa Cynin yn cynnal dau ddosbarth coginio i blant. Y cyntaf i blant 4–8 oed a'u rhieni, a'r ail i blant 8–12 oed. Lisa, cogyddes gyfeillgar cegin a gardd y Pumpkin Patch fydd yn arwain y dosbarthiadau. Bydd y cogyddion bach yn dysgu sut i goginio'n werth chweil gan ddefnyddio cynnyrch cartref a lleol cyn bwyta'r prydau blasus y byddan nhw wedi'u paratoi. Ar ddiwedd y dosbarthiadau, gall y gwesteion ymuno â'r ffermwr tra bydd yn bwydo’i anifeiliaid neu gallant fynd am dro yn y coetir neu nofio yn y pwll cyn dychwelyd i ystafelloedd clyd sy’n cynnig naws ‘cartref oddi cartref’ i deuluoedd.
Y Manylion: Mae cynnig ichi aros am 2 noson rhwng 26 a 28 Mai gyda'r prisiau'n dechrau o £200 ar gyfer                 3 yn rhannu ystafell deulu ar sail llety Gwely a Brecwast, gan gynnwys mynediad am ddim i'r clwb hamdden a chyfle i fynd am dro ar droed ar y fferm yn y bore. Y canlynol yw prisiau'r gweithdai coginio: £20 i'r plentyn cyntaf a £7 i bob plentyn ychwanegol sy'n cymryd rhan. Bydd yr oedolyn a fydd yn cadw cwmni i'r plant yn cael dod am ddim. Ewch i wefan www.lolfa-cynin.co.uk neu ffoniwch 01994 232773.

Teithiau Cywion Hwyaid a Chyfle i Greu Cuddfan yng Nghanolfan Gwlyptir yr WWT yn Llanelli – dydd Sadwrn, 23 Mai tan ddydd Sul, 31 Mai

Drwy gydol wythnos hanner tymor, bydd Ymddiriedolaeth Adar Dŵr a Gwlyptir (WWT) Llanelli yn rhoi cyfle i ymwelwyr gael Cipolwg y Tu Ôl i'r Llen ar daith o amgylch meithrinfa cywion hwyaid y Ganolfan i brofi'r broses Wy i Gyw gyffrous.  Gall y rhai ifanc (a'r rhai ifanc eu hysbryd!) sy'n dwlu ar anifeiliaid gael golwg agos ar y cywion hwyaid yn eu meithrinfeydd dan do ac awyr agored, cwrdd â'r newydd-ddyfodiaid fflwffog sydd newydd ddeor a hyd yn oed dilyn hynt y cywion sydd eto i ddeor. Ar ôl y daith dywys, mae llawer mwy i'w wneud yn y ganolfan; gan gynnwys sesiynau tywys i wylio'r adar, creu cuddfan a philcota mewn pyllau – hyn oll a golygfeydd gwefreiddiol ar draws y gwlyptir amrywiol.
Y Manylion: Cynhelir y daith dywys Cywion Hwyaid, awr ei hyd, bob dydd am 12pm, 2pm a 3pm rhwng           23–31 Mai. Mae'r pris wedi'i gynnwys yn y tâl mynediad – £8.95 i oedolyn, £4.95 i blentyn, am ddim i’r rhai dan 4 oed, a £25.00 yw pris tocyn teulu. Ewch i wefan www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli neu ffoniwch 01554 741 087.

Fforio, Pysgota â Phlu, a Chyryglau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – dydd Sadwrn, 23 Mai tan ddydd Sul, 31 Mai

Bydd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol hanner tymor a fydd yn ddelfrydol ar gyfer rhoi dos go iawn o awyr iach i'r rhai ifanc (a’r rhai ifanc eu hysbryd!). Rhwng                         23 a 25 Mai, bydd yr Ardd yn cynnal penwythnos hobïau arbennig, lle bydd digonedd o bethau'n digwydd a fydd at ddant y teulu cyfan gan gynnwys crefftau, canŵio, dawnsio a thai doliau. Ar ôl bore o weithgareddau, gall teuluoedd fynd am dro hamddenol o amgylch yr ardd, gan ddod o hyd i gerfluniau a brithwaith cudd, ymweld â'r parth antur i chwarae, yn ogystal â chwarae yn yr erwau agored. Os am rywbeth bach gwahanol, yn ystod penwythnos 30–31 Mai gall teuluoedd ddysgu fforio am fwyd a bydd digonedd o sioeau coginio, a chyfle i flasu bwydydd, cyn iddynt fynd allan i'r ardd ar helfa i hel bwyd ar gyfer paratoi pryd bwyd gwyllt blasus iddynt eu hunain.
Y Manylion: dydd Sadwrn, 23 Mai – dydd Sul, 31 Mai. Prisiau mynediad: £9.75 i oedolyn, £4.95 i blentyn, am ddim i'r rhai dan 5 oed. Mae Tocyn Teulu (i 2 oedolyn a hyd at 4 o blant) yn £24.00. Ewch i wefan www.gardenofwales.org.uk/cy/ i gael rhagor o wybodaeth.