Here in Carmarthenshire there’s plenty on offer to keep
families of all ages entertained this May Half Term; from duckling tours and
upstairs/downstairs castle explorations, to foraged feasts and cookery classes for
little chefs in the making! With tons of exciting activities and events planned
across the region, plus a host of family-friendly accommodation options
available, our corner of south-west Wales is the perfect spot for a fun-filled
half term escape- with a teaser of some of the great events on offer below...
Explore Behind the
Scenes at Stradey Castle - Wednesday 27 May at 2.30pm

Details: The
hour-long tour is available at 2.30pm, priced at £10 per adult and £5 per
child. Tours must be pre-booked, visit www.stradeycastle.com
or call 01554 774626.
Cookery Workshops for Little Chefs in the Making at Lolfa
Cynin B&B- Wednesday 27 May

Details: A 2
night stay from 26-28 May is available from £200 based on 3 sharing a family
room on a B&B basis, including complimentary access to the leisure club and
morning farm walk. Prices for the cookery workshops are £20 per child, £7 per
additional child taking part and accompanying adult goes free. Visit www.lolfa-cynin.co.uk
or call 01994 232773.
Duckling Tours and Den Building at WWT Llanelli Wetland Centre - Saturday
23 - Sunday 31 May

Details: Hour-long duckling tours run daily at
12pm, 2pm and 3pm from 23-31 May. Price is included in
admission - £8.95 per adult, £4.95 per child, under 4s free entry and family
tickets £25.00. Visit www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli or call 01554
741 087.
Foraging, Fly-Fishing and Coracles at the National
Botanic Garden of Wales- Saturday 23-Sunday 31 May

Details: Saturday
23 – Sunday 31 May. Adult entry price £9.75, Children £4.95, Under 5s go free
and Family Tickets (2 adults and up to 4 children) £24.00. Visit www.gardenofwales.org.uk
for further information.
_____________________________________________________________________________
Yma yn Sir
Gaerfyrddin mae digonedd i ddiddanu teuluoedd o bob oed yn ystod hanner tymor y
mis Mai hwn; ymhlith yr hyn sydd ar gael yma mae teithiau cywion hwyaid, cyfle
i weld bywyd fyny grisiau a lawr grisiau mewn cestyll, gwledd o fwydydd a
fforiwyd, a dosbarthiadau coginio i gyw gogyddion! Gyda llu o weithgareddau a
digwyddiadau cyffrous wedi'u cynllunio ar draws y rhanbarth, a llond gwlad o
ddewisiadau ar gael o ran llety sy'n croesawu teuluoedd, ein cwr ni o
dde-orllewin Cymru yw'r lle perffaith i ddianc iddo am hanner tymor llawn hwyl
– mae rhagflas o rai o'r digwyddiadau gwych sydd ar gael wedi'i nodi isod...
Golwg y tu ôl
i'r llen yng Nghastell y Strade – dydd Mercher, 27 Mai am 2.30pm
Dewch draw, ddydd
Mercher, 27ain Mai, i'r plasty hwn sy'n dyddio o'r 19eg ganrif
ac sydd yng nghanol Sir Gaerfyrddin i gael
cyfle cyffrous i archwilio'r plasty hanesyddol hwn a'i diroedd. Caiff teuluoedd
gyfle i gael golwg y tu ôl i'r llenni a gweld sut y byddai plasty o'r math hwn
wedi cael ei redeg dros 160 o flynyddoedd yn ôl, gan ddysgu sut yr oedd pobl yn
byw yn y Strade cyn dyddiau'r cyflenwad trydan ac ystafelloedd ymolchi ac
iddynt blymwaith. Bydd cyfle i ymwelwyr fynd ar hyd coridor enwog Guto Ffowc o
amgylch yr islawr, dringo i frig y Tŵr i fwynhau'r golygfeydd gwych sy'n
ymestyn draw at Fae Caerfyrddin a mynd ar droed i grwydro’r tiroedd eang a'r
Gerddi Coetir sydd o gwmpas y plasty – y cyfle perffaith i'r plant fynd am dro
egnïol.
Y Manylion: Mae'r awr o daith dywys ar gael am 2.30pm
a'r pris yw £10 i oedolyn a £5 i blentyn. Rhaid archebu teithiau tywys ymlaen
llaw. Ewch i wefan http://www.stradeycastle.com neu ffoniwch 01554 774626.
Gweithdai
Coginio i Gyw Gogyddion yn llety Gwely a Brecwast Lolfa Cynin – dydd Mercher,
27 Mai
Mae llety Gwely a
Brecwast Lolfa Cynin, sydd ar fferm laeth yn Sanclêr, yn cynnig llety clyd i
ymwelwyr a hynny mewn hen gerbyty yng nghanol cefn gwlad hardd Cymru. Ddydd
Mercher, 27 Mai, bydd Lolfa Cynin yn cynnal dau ddosbarth coginio i blant. Y
cyntaf i blant 4–8 oed a'u rhieni, a'r ail i blant 8–12 oed. Lisa, cogyddes
gyfeillgar cegin a gardd y Pumpkin Patch fydd yn arwain y dosbarthiadau. Bydd y
cogyddion bach yn dysgu sut i goginio'n werth chweil gan ddefnyddio cynnyrch
cartref a lleol cyn bwyta'r prydau blasus y byddan nhw wedi'u paratoi. Ar
ddiwedd y dosbarthiadau, gall y gwesteion ymuno â'r ffermwr tra bydd yn bwydo’i
anifeiliaid neu gallant fynd am dro yn y coetir neu nofio yn y pwll cyn
dychwelyd i ystafelloedd clyd sy’n cynnig naws ‘cartref oddi cartref’ i
deuluoedd.
Y Manylion: Mae cynnig ichi aros am 2 noson rhwng 26
a 28 Mai gyda'r prisiau'n dechrau o £200 ar gyfer 3 yn rhannu ystafell deulu ar
sail llety Gwely a Brecwast, gan gynnwys mynediad am ddim i'r clwb hamdden a
chyfle i fynd am dro ar droed ar y fferm yn y bore. Y canlynol yw prisiau'r
gweithdai coginio: £20 i'r plentyn cyntaf a £7 i bob plentyn ychwanegol sy'n
cymryd rhan. Bydd yr oedolyn a fydd yn cadw cwmni i'r plant yn cael dod am
ddim. Ewch i wefan www.lolfa-cynin.co.uk neu ffoniwch 01994 232773.
Teithiau
Cywion Hwyaid a Chyfle i Greu Cuddfan yng Nghanolfan Gwlyptir yr WWT yn
Llanelli – dydd
Sadwrn, 23 Mai tan ddydd Sul, 31 Mai
Drwy gydol
wythnos hanner tymor, bydd Ymddiriedolaeth Adar Dŵr a Gwlyptir (WWT) Llanelli
yn rhoi cyfle i ymwelwyr gael Cipolwg y Tu Ôl i'r Llen ar daith o amgylch
meithrinfa cywion hwyaid y Ganolfan i brofi'r broses Wy i Gyw gyffrous. Gall y rhai ifanc (a'r rhai ifanc eu hysbryd!)
sy'n dwlu ar anifeiliaid gael golwg agos ar y cywion hwyaid yn eu meithrinfeydd
dan do ac awyr agored, cwrdd â'r newydd-ddyfodiaid fflwffog sydd newydd ddeor a
hyd yn oed dilyn hynt y cywion sydd eto i ddeor. Ar ôl y daith dywys, mae
llawer mwy i'w wneud yn y ganolfan; gan gynnwys sesiynau tywys i wylio'r adar,
creu cuddfan a philcota mewn pyllau – hyn oll a golygfeydd gwefreiddiol ar
draws y gwlyptir amrywiol.
Y Manylion: Cynhelir y daith dywys Cywion Hwyaid,
awr ei hyd, bob dydd am 12pm, 2pm a 3pm rhwng 23–31 Mai. Mae'r pris wedi'i gynnwys
yn y tâl mynediad – £8.95 i oedolyn, £4.95 i blentyn, am ddim i’r rhai dan 4
oed, a £25.00 yw pris tocyn teulu. Ewch i wefan www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli
neu ffoniwch 01554 741 087.
Fforio,
Pysgota â Phlu, a Chyryglau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru – dydd
Sadwrn, 23 Mai tan ddydd Sul, 31 Mai
Bydd Gardd
Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol
hanner tymor a fydd yn ddelfrydol ar gyfer rhoi dos go iawn o awyr iach i'r
rhai ifanc (a’r rhai ifanc eu hysbryd!). Rhwng 23 a 25 Mai, bydd yr
Ardd yn cynnal penwythnos hobïau arbennig, lle bydd digonedd o bethau'n digwydd
a fydd at ddant y teulu cyfan gan gynnwys crefftau, canŵio, dawnsio a thai
doliau. Ar ôl bore o weithgareddau, gall teuluoedd fynd am dro hamddenol o
amgylch yr ardd, gan ddod o hyd i gerfluniau a brithwaith cudd, ymweld â'r
parth antur i chwarae, yn ogystal â chwarae yn yr erwau agored. Os am rywbeth
bach gwahanol, yn ystod penwythnos 30–31 Mai gall teuluoedd ddysgu fforio am
fwyd a bydd digonedd o sioeau coginio, a chyfle i flasu bwydydd, cyn iddynt
fynd allan i'r ardd ar helfa i hel bwyd ar gyfer paratoi pryd bwyd gwyllt
blasus iddynt eu hunain.
Y Manylion: dydd
Sadwrn, 23 Mai – dydd Sul, 31 Mai. Prisiau mynediad: £9.75 i oedolyn, £4.95
i blentyn, am ddim i'r rhai dan 5 oed. Mae Tocyn Teulu (i 2 oedolyn a hyd at 4
o blant) yn £24.00. Ewch i wefan www.gardenofwales.org.uk/cy/ i gael rhagor o wybodaeth.
No comments:
Post a Comment