Monday 17 August 2015

Make this August bank holiday a vintage one!

5 of the best vintage themed activities around Carmarthenshire

Carmarthen does vintage
Saturday 29th August 2015 Carmarthen Town Centre.
Vintage-lovers need look no further for a veritable treasure trove for collectors and those that love to pick up a quirky little bargain or two. Expect a vintage shopper's heaven browsing through the numerous shops and stalls in Carmarthen with clothing, accessories, household goods, memorabilia, quirky ornaments, curious trinkets and vinyl records. The festival also features a popup vintage tea room, vintage hair & beauty lounge, impromptu musical performances, a vintage dog show, sideshows and street theatre from yesteryear plus a variety of workshops on up-cycling and distressing furniture. Not forgetting our little people can join us for a vintage carnival procession or enter a vintage raft in the River Festival ! You can even join the most marvellous nostalgic stroll down memory lane with our vintage treasure trove hunt trail explore King Street, Jacksons Lane, Guildhall Square, Lammas Street, Merlins Walk, Red Street and St Catherine's Walk! For info www.facebook.com/discovercarmarthenshire

Welsh National Vintage Extravaganza
Sunday 30th & Monday 31st August 2015 Pembrey Circuit.
 A wonderful opportunity to see some iconic cars with two days of fantastic action. The Welsh National Vintage Extravaganza event will include a tractor road run, classic motor show and race track action. Visitors can also enjoy a car boot sale, and peruse club and trade stands.  There will also be a range of family entertainment including children's rides at the circuit. For info www.pembreycircuit.co.uk

Vintage afternoon tea
Available daily (booking advisable) Stradey Park Hotel, Llanelli.
Enjoy a relaxing afternoon tea with a choice of locations including the Rooftop Lounge or the Conservatory, both with stunning panoramic views over the Gower and Carmarthen Bay. For info www.stradeyparkhotel.com

2015 Vintage Jabajak wine
Available now, Jabakak Vineyard Restaurant with rooms, Llanboidy.
 Our first ever wine from our very own Vineyard has arrived. It is our White House still white from Phoenix and Seyval and tastes absolutely incredible. Full of sophistication, citrus and elderflower notes crisp and clean. It is a real stunner and the decision to only harvest and make wine from quality mature grapes has more than paid off. 8 Years!!!!! A special thanks to everyone who has been a part of this process - from planting to picking, from mowing to pruning - a massive thank you. Due to the limited supply (1400 bottles) we are only selling through the restaurant at the moment until the Sparkling Blush arrives in the Spring!! We have tasted as a still and is mind blowing! For info www.jabajak.co.uk



Tin shed Experience
Wed-Sat: 10:30–16:30, Sun: 13:00–17:00, Clifton Street, Laugharne.
Everything is vintage at The Tin Shed Experience,  a quaint and quirky 1940's museum in Laugharne featuring an original WWII  shelter in the garden of their Tin Cottage alongside a Victory Garden. The Tin Shed Experience does not claim to be the biggest museum of its kind, however  they pride themselves on the quality of their exhibits. For info www.tinshedexperience.co.uk




Gwnewch Ŵyl Banc y mis Awst hwn yn Glasur o Ŵyl!

5 o Weithgareddau Gorau Sir Gaerfyrddin ar thema'r Oes a Fu

Sir Gâr a Phethau'r Oes a Fu
Dydd Sadwrn, 29ain Awst 2015, Canol Tref Caerfyrddin.
Dyma’r union le i’r sawl sy'n dwlu ar drugareddau'r Oes a Fu ddod o hyd i drysorfa go iawn i’r casglwr ac i’r rheini sydd wrth eu boddau'n cael gafael ar fargen fach anarferol neu ddwy. Bydd yn nefoedd i'r siopwyr hynny sy'n hoffi eitemau o'r oes a fu gan roi cyfle iddynt chwilota yn siopau a stondinau niferus Caerfyrddin sy'n gwerthu dillad, cyfwisgoedd, nwyddau'r cartref, pethau cofiadwy, ornaments hynod, trugareddau anarferol a recordiau finyl. Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys Ystafell De wib a lolfa gwallt a harddwch – y ddwy yn steil yr oes a fu, perfformiadau cerddorol difyfyr, sioe gŵn yn steil yr oes a fu, stondinau, a theatr stryd ar thema’r dyddiau a fu, yn ogystal ag amrywiaeth o weithdai ynghylch celfi ffasiynol-dreuliedig ac uwchgylchu. Cofiwch hefyd y gall y plant ymuno â ni ar gyfer gorymdaith y carnifal o'r oes a fu neu gystadlu â rafft o'r oes a fu yng Ngŵyl yr Afon! Gallwch hyd yn oed hel atgofion wrth fynd am dro hamddenol braf gan gymryd rhan yn ein helfa am drysor o'r oes a fu, ar hyd Heol y Brenin, Lôn Jackson, y Clos Mawr, Heol Awst, Maes Myrddin, Heol Goch a Rhodfa'r Santes Catrin! I gael gwybod rhagor ewch i www.facebook.com/discovercarmarthenshire

Sioe'r Welsh National Vintage Extravaganza
Dydd Sul, 30ain a dydd Llun, 31ain Awst 2015, Cylch Rasio Pen-bre.



Cyfle campus i weld ceir eiconig gyda deuddydd o weithgareddau gwerth chweil. Bydd digwyddiad y Welsh National Vintage Extravaganza yn cynnwys gorymdaith ffordd gan y tractorau, sioe Ceir o Dras a gweithgareddau ar y cylch rasio. Gall ymwelwyr fwynhau sêl cist car hefyd, a chael golwg ar stondinau clybiau a busnesau. Bydd amrywiaeth o adloniant i'r teulu hefyd gan gynnwys reidiau i'r plant ar y cylch rasio. I gael gwybod rhagor ewch i wefan www.pembreycircuit.co.uk

Te prynhawn traddodiadol
Ar gael bob dydd (argymhellir archebu), Gwesty Parc y Strade, Llanelli.

Dewch i fwynhau te prynhawn hamddenol braf; mae dewis o leoedd yma gan gynnwys Lolfa'r Rooftop Lounge neu ystafell y Conservatory ac o'r ddwy ceir golygfeydd panoramig penigamp draw dros Fro Gŵyr a Bae Caerfyrddin. I gael gwybod rhagor ewch i wefan www.stradeyparkhotel.com

Gwin 2015 Jabajak
Ar gael nawr, Bwyty Gwinllan Jabajak gydag ystafelloedd, Llanboidy.

Dyma ichi ein gwin cyntaf un o'n gwinllan ein hunain. Hwn yw White House, ein gwin gwyn, llonydd a wnaed o rawnwin Phoenix a Seyval ac mae iddo flas anhygoel. Mae’n flas cwbl soffistigedig, croyw a glân ac iddo dinc sitrws a blodau'r ysgaw. Mae'n berl o win ac mae'r penderfyniad i gynaeafu dim ond y grawnwin aeddfed o safon i wneud y gwin wedi talu ar ei ganfed. 8 mlynedd!!!!! Diolch arbennig i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses – o'r plannu i'r casglu, o'r torri porfa i'r tocio – diolch yn fawr iawn. Gan mai hyn a hyn o win sydd ar gael (1,400 o boteli) dim ond drwy'r bwyty yr ydym yn gwerthu'r gwin ar hyn o bryd, tan i'r Sparkling Blush fod yn barod yn y gwanwyn!! Rydym wedi cael cyfle i flasu’r gwin llonydd ac mae'n wefreiddiol! I gael gwybod rhagor ewch i wefan www.jabajak.co.uk

Tin Shed Experience
Dydd Mercher – Dydd Sadwrn 10:30 – 16:30, Dydd Sul 13:00 – 17:00, Clifton Street, Talacharn.

O’r oes a fu y mae pob dim sydd yn y Tin Shed Experience, sef amgueddfa anarferol a hynod sy’n ymdrin â’r 1940au ac sydd yn Nhalacharn. Mae gan yr amgueddfa loches wreiddiol o'r Ail Ryfel Byd yng ngardd y Tin Cottage ochr yn ochr â'r Victory Garden. Nid yw’r Tin Shed Experience yn honni mai hi yw'r amgueddfa fwyaf o'i math, ond mae’n falch iawn o safon y pethau y mae’n eu harddangos. I gael gwybod rhagor ewch i wefan www.tinshedexperience.co.uk






No comments:

Post a Comment