Wednesday 12 August 2015

Carmarthenshire’s digital super highway / Uwchdraffordd ddigidol Sir Gâr


                                                                                              
Carmarthenshire’s digital super highway

People  from all round the world have been homing in on the Discover Carmarthenshire website in dramatically increasing numbers but the majority of interest is from across Offa’s Dyke, with more than half (51.32%) registering their interest from England.

Whilst last year (2014) a quarter of a million people from around the globe were seeking information about what’s going on in the county and its attractions, to July this year more than 25,000 more visits have been made over previous years. Since January this year a total of 173,625 visits have been made.

Carmarthenshire’s marketing and tourism manager Huw parsons said: "The growth of website visits is extremely heartening, and comes on the back of the hard work and creativity of some extraordinarily talented people in our small team.

“The council manages this website to support the tourism business. It is clearly having an effect. In July alone there were 33,726 visits. That’s double those in 2012.

"The tourism team is now completely focused on our digital activity on a minute-by-minute basis. They spot what our audiences like and respond immediately to ensure what we're providing is the very best content presented in the most engaging ways we can.

“This was most evident in the attraction of healthy numbers of visits last month in July to the most popular sites of Carmarthenshire where parks  gained 9,004 views; What’s On county wide: 7,962 and Pembrey Country Park caravan section, 6,965.”

Carmarthenshire executive board member for regeneration and tourism, Cllr Meryl Gravell, said it was fascinating to see that website visits were registered from Australia to the States and Germany to Brazil.

“It is hugely encouraging that there is so much interest from within the UK too,  with England visits pipping those from Wales by 16,675 to 15,532 in July.

“London calling scored 6,173 in July with Bristol registering 1.398; Birmingham 758, Manchester 311, Leeds 268 and Worchester 242.

“It shows there is lots of interest in our glorious county for people’s leisure time from both residents and visitors and exceptional partnership working of our hard working tourism staff council with businesses to push forward a healthy visitor economy.”

A Facebook campaign started in February this year has linked through more traffic to Discover Carmarthenshire. The embryonic Discover Facebook has zoomed to 7,600 followers, Pembrey Country Park page holds 3,600 and the main council feed at 3,400. All the messages then feed into features on the website.
  



                                                                                               
Uwchdraffordd ddigidol Sir Gâr

Mae pobl o bedwar ban byd wedi bod yn ymweld â gwefan Darganfod Sir Gâr, ac mae eu niferoedd yn cynyddu'n ddramatig ond mae'r rhan fwyaf o'r diddordeb wedi dod o dros Glawdd Offa gyda mwy na hanner (51.32%) y rhai a ddangosodd ddiddordeb yn y wefan yn dod o Loegr.

Er bod chwarter miliwn o bobl o amgylch y byd wedi chwilio am wybodaeth y llynedd (2014) am yr hyn oedd yn digwydd yn y sir a'i hatyniadau, eleni hyd at fis Gorffennaf bu mwy na 25,000 yn fwy o ymweliadau â'r wefan nag yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oddi ar fis Ionawr eleni, bu cyfanswm o 173,625 o ymweliadau.

Dywedodd Huw Parsons, Rheolwr Marchnata a Thwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae'r cynnydd yn nifer yr ymweliadau â'r wefan yn galonogol iawn ac yn deillio o waith dyfal a gallu creadigol y bobl ddawnus tu hwnt sydd yn ein tîm bach.

"Mae'r Cyngor yn rheoli'r wefan hon i gefnogi'r busnes twristiaeth. Mae'n amlwg ei bod yn cael effaith. Ym mis Gorffennaf yn unig, roedd 33,726 o ymweliadau. Mae hynny'n ddwywaith y nifer yn 2012.

"Nawr mae'r tîm twristiaeth yn canolbwyntio'n llwyr ar ein gweithgaredd digidol a hynny funud wrth funud. Maen nhw'n sylwi ar yr hyn y mae ein cynulleidfaoedd yn ei hoffi ac yn ymateb ar unwaith er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r cynnwys gorau oll wedi'i gyflwyno yn y ffordd fwyaf diddorol y gallwn.

"Roedd hyn i'w weld yn fwyaf amlwg wrth inni ddenu niferoedd da o ymweliadau'r mis diwethaf, ym mis Gorffennaf, i safleoedd mwyaf poblogaidd Sir Gaerfyrddin lle edrychwyd ar y tudalennau parciau 9,004 o weithiau; Beth sy' mlaen yn Sir Gaerfyrddin 7,962 o weithiau ac adran carafannau Parc Gwledig Pen-bre 6,965 o weithiau.”

Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Thwristiaeth, Cyngor Sir Caerfyrddin, ei bod yn hynod ddiddorol gweld bod pobl o Awstralia i'r Unol Daleithiau, ac o'r Almaen i Frasil, wedi ymweld â'r wefan.

"Mae'n hynod o galonogol fod cymaint o diddordeb o fewn y Deyrnas Unedig hefyd, gyda'r 16,675 o ymweliadau o Loegr ym mis Gorffennaf fymryn yn uwch na'r nifer o Gymru, sef 15,532.

"Ym mis Gorffennaf cofrestrwyd 6,173 o ymweliadau o Lundain a 1,398 o Fryste; 758 o Birmingham, 311 o Fanceinion, 268 o Leeds a 242 o Gaerwrangon.

"Mae'n dangos bod llawer o ddiddordeb yn ein sir fendigedig o ran amser hamdden pobl, a hynny gan breswylwyr ac ymwelwyr. Mae hefyd yn amlygu gwaith partneriaeth penigamp a dyfal ein staff twristiaeth yn y Cyngor gyda busnesau i hybu economi ymwelwyr ffyniannus."

Mae ymgyrch Facebook a gychwynnwyd ym mis Chwefror eleni wedi ennyn mwy o ymweliadau â gwefan Darganfod Sir Gâr. Mae nifer dilynwyr cyfrif Facebook newydd Discover wedi codi i 7,600 yn gyflym. Mae gan dudalen Parc Gwledig Pen-bre 3,600 o ddilynwyr ac mae gan brif ffrwd y Cyngor 3,400 o ddilynwyr. Yna mae'r holl negeseuon yn cyfrannu at erthyglau ar y wefan.

No comments:

Post a Comment