Monday 11 March 2013

Eisteddfod 2014


2014 NATIONAL EISTEDDFOD PROCLAMATION FESTIVAL TO BE HELD IN CARMARTHEN

Today (25 February), the National Eisteddfod announced that the Proclamation Festival will be held in Carmarthen on 29 June this year.

The Gorsedd procession and the Proclamation Ceremony itself will form part of a family day, which is a taste of what’s to come at the Eisteddfod, held in Llanelli from 1-9 August 2014.

Eisteddfod Organiser, Hywel Wyn Edwards, said, “I am delighted to announce that the Executive Committee, with representatives from across the county, and the Gorsedd Board have agreed that the Proclamation Festival for the Carmarthenshire National Eisteddfod will be held in Carmarthen.

“The Gorsedd and representatives from a wide range of local societies and organisations will form a procession through the town, and the ceremony itself will be held in Carmarthen Park during the afternoon.  We will publish more details closer to the date, and I hope that many local residents will be able to join us in Carmarthen to enjoy the first official event of the 2014 Eisteddfod.”

If you would like your society or organisation to take part in the procession, senfd an email to gwyb@eisteddfod.org.uk or ring 0845 4090 300 to speak to Sioned Edwards before 30 April.

For more information on the Carmarthenshire National Eisteddfod, go online – www.eisteddfod.org.uk.
___

GŴYL CYHOEDDI EISTEDDFOD SIR GÂR I’W CHYNNAL YN NHREF CAERFYRDDIN

Heddiw (25 Chwefror), cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol mai yn nhref Caerfyrddin y cynhelir Gŵyl y Cyhoeddi ar 29 Mehefin eleni.

Yn unol â’r arferiad ers rhai blynyddoedd, bydd gormdaith yr Orsedd a Seremoni’r Cyhoeddi’i hun yn rhan o ddiwrnod cyfan o hwyl i’r teulu, sy’n ragflas o’r hyn i ddod pan gynhelir yn Eisteddfod yn Llanelli o 1-9 Awst 2014.

Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, “Mae’n bleser cyhoeddi bod y Pwyllgor Gwaith lleol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r sir, a Bwrdd yr Orsedd, wedi cytuno mai yn nhref Caerfyrddin y cynhelir y Cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

“Bydd yr Orsedd a chynrychiolwyr o bob math o sefydliadau a chymdeithasau lleol yn gorymdeithio drwy’r dref a chynhelir y seremoni’i hun ym Mharc Caerfyrddin yn ystod y prynhawn.  Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn nes at yr amser, a gobeithio y bydd nifer fawr o drigolion yr ardal yn heidio i Gaerfyrddin er mwyn mwynhau digwyddiad mawr cyntaf Eisteddfod 2014.”

Os hoffech chi gofrestru ar ran sefydliad neu gymdeithas leol i fod yn rhan o’r orymdaith swyddogol, anfonwch ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk neu ffoniwch 0845 4090 300 i siarad gyda Sioned Edwards cyn 30 Ebrill.

Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, ewch i wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.org.uk.

--

No comments:

Post a Comment