Wednesday 10 October 2012

Meet the Council Rhys Anthony



Meet the Council – Rhys Anthony

Carmarthenshire County Council has 9,500 employees that work in over 100 different services, one of these is Tourism and Marketing. 

Rhys was born and raised in Carmarthenshire, and is ultra passionate about the county. Rhys has worked within the Economic Development division of the County Council for five years, he began his time working at both the Llanelli & Carmarthen tourist information centres, before being promoted to his existing role, after impressing everyone with his incredible encyclopaedia like knowledge of Carmarthenshire.

After gaining a degree in Welsh History from the University of Wales Aberystwyth & a Postgraduate Diploma in Heritage Tourism Management from the University of Wales Trinity St David’s, Rhys worked for a management consultancy & a period as an antiques dealer. Rhys’s main job duty is to research and prepare ideas that will gain editorial coverage in online and printed media in England as well as organising the familiarisation trips for travel writers & reporters when they come to Carmarthenshire. As all members of the marketing tourism section do, Rhys also assists at the various county council events throughout the year. Currently Rhys is researching ideas for Winter & Spring tourism trails to appeal to niche markets including an antiques trail, a pottery trail and a paranormal trail. Rhys is always looking for new ideas and is available via email at
marketing@carmarthenshire.gov.uk  

Cwrdd â'r Cyngor - Rhys Anthony

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin 9,500 o weithwyr sy'n gweithio mewn mwy na 100 o wahanol wasanaethau, ac un o'r gwasanaethau hyn yw Twristiaeth a Marchnata. 

Cafodd Rhys ei eni a'i fagu yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n hynod frwd dros y sir. Mae Rhys wedi gweithio yn is-adran Datblygu Economaidd y Cyngor Sir am bum mlynedd, ond dechreuodd ei gyfnod gyda'r Cyngor yng nghanolfannau croeso Llanelli a Chaerfyrddin lle bu i'w wybodaeth anhygoel am Sir Gaerfyrddin wneud argraff ar bawb.  Wedyn cafodd ddyrchafiad i'w swydd bresennol. 

Ar ôl ennill gradd mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, a Diploma Ôl-radd mewn Rheoli Twristiaeth Treftadaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gweithiodd Rhys i gwmni ymgynghoriaeth rheoli ac fel deliwr hen bethau am gyfnod. Prif ddyletswydd Rhys yw ymchwilio a pharatoi syniadau a gaiff sylw golygyddol yn y cyfryngau argraffedig a digidol yn Lloegr, yn ogystal â threfnu teithiau i ohebwyr ac ysgrifenwyr teithio pan fyddant yn ymweld â Sir Gaerfyrddin. Yn yr un modd â phob aelod o'r adain twristiaeth a marchnata, mae Rhys yn cynorthwyo yng ngwahanol ddigwyddiadau'r cyngor sir drwy gydol y flwyddyn.  Ar hyn o bryd mae Rhys yn ymchwilio i syniadau ar gyfer llwybrau twristiaeth yn y Gaeaf a'r Gwanwyn er mwyn apelio i farchnadoedd arbenigol yn cynnwys llwybr hen bethau, llwybr crochenwaith, a llwybr paranormal. Mae Rhys wastad yn chwilio am syniadau newydd a gellir cysylltu ag ef drwy'r e-bost:
marketing@sirgar.gov.uk  

No comments:

Post a Comment