Dydd Iau 16 Hydref 2014, 6pm – 8pm
Twenty Ten Clubhouse,
Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd
Mae’n bleser gan Westy Hamdden y Celtic Manor a Croeso Cymru eich gwahodd i ymuno â ni yn y digwyddiad unigryw hwn i ddysgu mwy am ymgyrch Gwaddol NATO Cymru,
Yn dilyn llwyddiant ysgubol Uwchgynhadledd NATO a’r sylw a gafodd Cymru yn ei sgil ar hyd a lled y byd, aeth Croeso Cymru ati’n ddiweddar i wahodd cyrff priodol i dendro ar gyfer datblygu a chynnal ymgyrch digwyddiadau busnes Gwaddol Uwchgynhadledd NATO ar y cyd â phartneriaid ledled Cymru.
Gwesty Hamdden y Celtic Manor a Rhwydwaith Twristiaeth Busnes De-ddwyrain Cymru sydd wedi ennill y contract i gynnal yr ymgyrch hon, a bydd y noson rwydweithio yn rhoi cyfle i bartneriaid o bob cwr o Gymru gael gwybod sut i gymryd rhan yn yr ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth am Gymru fel cyrchfan busnes ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau.
Bydd Mari Stevens, Dirprwy Gyfarwyddwr Marchnata Croeso Cymru yn cyflwyno’r cyfleoedd i gydweithio sydd ar gael yn dilyn NATO, a’r dymuniadau ynghylch marchnata digwyddiadau twristiaeth busnes Cymru yn y dyfodol.
Bydd Ian Edwards, Prif Swyddog Gweithredu a Vanessa Russell, Cyfarwyddwr Marchnata Gwesty Hamdden y Celtic Manor yn trafod nodau’r ymgyrch gwaddol mewn mwy o fanylder.
Gobeithio y bydd y partneriaid o bob cwr o Gymru’n deall mor werthfawr yw ymgyrch o’r fath. Er mwyn sicrhau y bydd cymaint â phosibl yn dod, bydd gwely a brecwast ar gael yn y Celtic Manor am £75 y noson fesul ystafell. Mae’r cynnig ar gael i bartneriaid o’r diwydiant sydd eisiau llety dros nos yn dilyn y digwyddiad.
Cofiwch, mae nifer yr ystafelloedd sydd ar gael am y pris hwn yn brin felly rhoddir blaenoriaeth i’r rheini sy’n dod yno o’r tu allan i ardal De Cymru.
Rhaglen
6.00pm Cyrraedd a derbyniad
6.30pm Croeso a chyflwyniadau
7.30pm Cyfleoedd i rwydweithio
8.00pm Cloi
RSVP erbyn dydd MERCHER 8 Hydref i:
Laurie Keirle
E: lkeirle@celtic-manor.com
Ff: 01633 410530
No comments:
Post a Comment