SCAM WARNING FOR HOLIDAY ACCOMMODATION PROVIDERS
Officers from Public Protections Trading Standards Team in Pembrokeshire have been made aware of a scam targeting local holiday accommodation providers.
Known as ‘money muling’, it involves the businesses being contacted by someone seeking to book accommodation, using a business address of an innocent party in Haverfordwest as contact details.
They then deliberately offer over-payment via a French cheque or bank draft and ask the business to refund the difference.
When the original payment turns out to be a fraud, the victim’s money has already gone to the scammer.
The advice to businesses from Pembrokeshire County Council’s Trading Standards team is to be aware of any similar requests for accommodation and not to pass on any sensitive financial information to third parties or get involved with unusual requests involving transferring money.
Please be aware and for advice on similar matters, contact the Citizens Advice Bureau on 03444 772020.
RHYBUDD I DDARPARWYR LLETY GWYLIAU YNGHYLCH SGAMIAU
Mae swyddogion o dîm Safonau Masnach Diogelu'r Cyhoedd yn Sir Benfro wedi cael gwybod am sgam sy'n targedu darparwyr llety gwyliau lleol.
Yn rhan o'r sgam bydd rhywun yn cysylltu â busnes i geisio archebu llety, gan roi manylion cyswllt sef cyfeiriad busnes rhywun di-fai yn Hwlffordd.
Yna maent yn fwriadol yn cynnig gordaliad ar ffurf siec neu ddrafft banc o Ffrainc ac yn gofyn i'r busnes ad-dalu'r gwahaniaeth.
Pan welir yn ddiweddarach mai twyll oedd y taliad gwreiddiol bydd y sgamiwr eisoes wedi cael gafael ar arian y dioddefwr.
Cyngor tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Penfro yw i bobl fod yn ymwybodol o geisiadau tebyg am lety ac i beidio â rhoi gwybodaeth ariannol sensitif i drydydd partïon na chaniatáu ceisiadau anarferol sy'n ymwneud â throsglwyddo arian.
Byddwch yn ymwybodol o'r peryglon ac i gael cyngor ar faterion tebyg cysylltwch â Chyngor ar Bopeth drwy ffonio 03444 772020.
may i ask for this website : http://www.ukcampsitesguide.com/ ?
ReplyDeletemay I trust on it?