Monday 7 December 2015

Christmas in Carmarthenshire- Festive Events and Yule-Tide Breaks / Nadolig yn Sir Gaerfyrddin – Digwyddiadau a Gwyliau Bach dros yr Ŵyl

Christmas in Carmarthenshire- Festive Events and Yule-Tide Breaks

Here in Carmarthenshire, festive fun is set to descend by the bucketful over the coming month, with a host of yuletide-themed activities and events for all the family on offer; as well a variety of cosy, countryside getaways with remaining availability for the Christmas 2015 period. Check out a few highlights of some of the Christmas-themed events and available accommodation on offer across the country below!

Festive Events

Hop Aboard Santa’s Steam Train - Gwili Steam Railway- 05- 24 December 2015
Throughout December, Gwili Steam Railway will be offering mini adventurers the chance to hop on board a traditional steam train for a magical journey through the Carmarthenshire countryside to Santa’s Grotto at Llwyfan Cerrig Station. There, mince pies, quirky entertainers the Loopy Lewes and a bouncy castle await, as well as Santa himself; along with a tot of sherry for the grown-ups.

Details: Weekend departures throughout December, as well as 22nd and 24th December. Prices from £11 per adult and £9 per child (aged 1-15). Pre-booking essential. For further information call 01267 238213 or visit www.gwili-railway.co.uk

Garden Gastronomy at Festive Foodie Fair- National Botanic Garden of Wales
19-20 December 2015
Foodie delights and gastronomic gifts will all be on offer at the National Botanic Garden of Wales’ Christmas Food Fair on 19 & 20 December, with specialist food and drink producers from all around showcasing their finest produce for visitors to try and buy in the Garden’s beautiful Great Glasshouse. The perfect way to line your stomachs the weekend before the big day itself.

Details: Admission from £9.75 per adult/ £4.95 per child. For more information visit www.gardenofwales.org.uk or call 01558 667149.

Boxing Day Dip for the Brrrrrrrrrrrrrrave! Walrus Dip, Cefn Sidan Beach- 26th December
Cefn Sidan’s sparkling (chilly!) waters will once again welcome brave souls from across the country for its annual Boxing Day Walrus Dip- seeing cold-water warriors tackle the chilly Christmas temperatures en masse, jumping into the sea in a magnificent variety of fancy dress. Over the years, pantomime horses, fairies, Vikings and, of course, Santas have all taken the plunge in aid of charity- drawing in big crowds to cheer on their bravery. The perfect festive challenge in the season of giving.

Price: Free event. For further Information call 01554 742424.

Christmas and New Year Accommodation

Boutique ‘Stay and Dine’ Break- The Corran Hotel and Spa, Laugharne
Hidden deep in the marshlands of Dylan Thomas’ hometown Laugharne, this boutique hideaway is a picturesque base for those wishing to get away from the hustle and bustle and relax in the welsh countryside this Christmas. Rooms are colourful and stylish, each individually decorated, with a luxurious on-site spa and delicious meals inspired by specialities of the region served up in the hotel’s own restaurant. On Christmas Day, the Corran’s expert team of chefs have created a mouth-watering seven course lunch for those sick of the usual turkey and sprouts offering- perfect for those looking to get out of the kitchen this year.

Price: 3 night stay from 24-17 December available from £300pp based on two sharing on a B&B basis. 7 course lunch priced from £75pp- pre-booking essential. To book, visit www.thecorran.com or call 01994 427417.

Save 15% on a New Year Cottage Escape- Coastal Wood Holidays, Marros
Set amongst the peace and tranquillity of 17 acres of woodland, Coastal Wood Holidays offers 5 stylishly renovated stone cottages on a working farm, boasting stunning views over Marros Mountain and national parkland. Ideal for those seeking a quiet countryside escape for the New Year, Keepers Cottage (sleeps 4) is available for three nights from 30th December. With two bedrooms, an open plan kitchen-diner, cosy snug and stylish wet room, Keeper’s Cottage is ideal for families or couples; fully equipped with Christmas tree, mince pies, chocolate truffles and chutney for the festive period.

Price: 3 night stay at Keeper’s Cottage from 30th December- 2nd January available from £345- including a 15% discount. To book, visit www.coastalwoodholidays.co.uk or call 01994 453214.
_________________________________________________________________________________

Nadolig yn Sir Gaerfyrddin – Digwyddiadau a Gwyliau Bach dros yr Ŵyl

Yma yn Sir Gaerfyrddin, mae disgwyl i hwyl yr ŵyl hwylio i mewn dros y mis nesaf, wrth i lu o weithgareddau a digwyddiadau Nadoligaidd gael eu cynnal i’r teulu oll, yn ogystal ag amrywiaeth o wyliau bach clyd dros gyfnod Nadolig 2015. Isod fe welwch uchafbwyntiau’r digwyddiadau Nadoligaidd a’r llety sydd ar gael ledled y sir!

Digwyddiadau’r Ŵyl

Dewch ar Daith ar Drên Stêm Siôn Corn – Rheilffordd Stêm Gwili – 05 - 24 Rhagfyr 2015
Drwy gydol mis Rhagfyr, bydd Rheilffordd Stêm Gwili yn cynnig cyfle i fân anturwyr fynd ar wibdaith hudolus ar drên stêm traddodiadol drwy gefn gwlad Sir Gaerfyrddin i Groto Siôn Corn yng Ngorsaf Llwyfan Cerrig. Bydd mins peis, adloniant y Loopy Lewes a chastell bownsio yn aros amdanoch yno, a Siôn Corn ei hun wrth gwrs; ynghyd â joch o sieri i’r oedolion.

Manylion: Teithiau ar benwythnosau drwy gydol mis Rhagfyr, yn ogystal â’r 22ain a 24ain Rhagfyr. Prisiau: £11 i oedolyn a £9 i blentyn (1-15 oed). Rhaid archebu lle ymlaen llaw. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01267 238213 neu ewch i www.gwili-railway.co.uk

Gastronomeg mewn Gardd yn yr Ŵyl Fwyd Nadoligaidd – Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
19-20 Rhagfyr 2015
Bydd danteithion ac anrhegion gastronomegol ar gael yn yr Ŵyl Fwyd Nadoligaidd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar 19 ac 20 Rhagfyr, a bydd cynhyrchwyr bwyd a diod arbenigol yn arddangos eu cynnyrch gorau i ymwelwyr i’w blasu a’u prynu yn Nhŷ Gwydr hardd yr Ardd. Dyma gyfle perffaith i baratoi eich bola at y diwrnod mawr ei hun.

Manylion: Mynediad yn £9.75 i oedolyn / £4.95 i blentyn. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

Trip Gŵyl San Steffan i’r rhai Dewrrrrr! Trochfa’r Tymor, Traeth Cefn Sidan - 26ain Rhagfyr
Bydd dyfroedd pefriog (ac oer!) Cefn Sidan unwaith eto yn croesawu’r dewrion o bob rhan o’r wlad i ddigwyddiad Trochfa’r Tymor ar Ŵyl San Steffan, pan fydd dewrion dŵr oer y Nadolig yn heidio i’r môr mewn amrywiaeth anhygoel o wisgoedd ffansi. Dros y blynyddoedd, mae ceffylau pantomeim, tylwyth teg, Llychlynwyr, ac wrth gwrs, sawl Siôn Corn, wedi plymio i’r oerfel er mwyn codi arian i elusen, gan ddenu heidiau i’w hannog yn yr hwyl. Dyma’r her Nadoligaidd berffaith yn nhymor y rhoi.

Pris: Digwyddiad am ddim. I gael gwybodaeth bellach, ffoniwch 01554 742424.

Llety dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Gwyliau Bach Bwtîc ‘Aros a Bwyta’ – Gwesty a Sba Corran, Talacharn
Wedi’i guddio yn y corsydd ger tref Dylan Thomas, Talacharn, mae’r llety bwtîc hwn yn llecyn godidog i’r rhai sy’n dymuno dianc rhag y ffws a’r ffair ac ymlacio yng nghefn gwlad Cymru y Nadolig hwn. Mae’r ystafelloedd yn lliwgar a steilus, a phob un wedi’i addurno’n unigol. Mae yno sba moethus, a phrydau blasus wedi’u hysbrydoli gan ddanteithion arbenigol yr ardal a’u gweini ym mwyty’r gwesty. Ar gyfer Dydd Nadolig, mae tîm arbenigol o gogyddion y Corran wedi creu cinio saith cwrs bendigedig i’r rhai sydd wedi diflasu ar y twrci a’r sbrowts arferol – y syniad perffaith i’r rhai sy’n dymuno dianc o’r gegin eleni.

Pris: 3 noson o 24-17 Rhagfyr am £300 y pen, gwely a brecwast, ar sail dau yn rhannu. Cinio 7 cwrs am £75 y pen. Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, ewch i www.thecorran.com neu ffoniwch 01994 427417.

15% i ffwrdd Gwyliau Bwthyn dros y Flwyddyn Newydd - Coastal Wood Holidays, Marros
Mae Coastal Wood Holidays, sydd wedi’i leoli mewn 17 erw o goetir heddychlon a thawel, yn cynnig 5 o fythynnod cerrig wedi’u hadnewyddu’n steilus ar fferm. Ac mae’r golygfeydd dros Fynydd Marros a’r parcdir cenedlaethol yn odidog. Dyma gynnig delfrydol i rai sy’n dymuno dianc i gefn gwlad dros y Flwyddyn Newydd. Mae Bwthyn y Cipar (lle i 4) ar gael am dair noson o 30ain Rhagfyr. Mae yno ddwy ystafell wely, cegin / ystafell fwyta yn un, a lolfa glyd, felly mae’n ddelfrydol i deuluoedd neu bara. Bydd yno goeden Nadolig, mins peis, siocledi a siytni ar gyfer tymor yr ŵyl.

Pris: 3 noson ym Mwthyn y Cipar o 30ain Rhagfyr – 2il Ionawr, am £345 – yn cynnwys gostyngiad o 15%. I archebu, ewch i www.coastalwoodholidays.co.uk neu ffoniwch 01994 453214


No comments:

Post a Comment