Wednesday 28 January 2015

Promote your business for FREE as part of Carmarthenshire Tourism Month

 
Promote your business as part of Carmarthenshire Tourism Month

As part of Wales Tourism Week in March, the County Council, Carmarthenshire Tourism Association and a number of other partners are organising Carmarthenshire Tourism Month as quite simply our County has too much on offer to fit into just 7 days! The aims are to ensure those living and working in the County are a) made proactively aware of and then b) make use of the attractions, things to do, activities, places to eat either when they have friends and family staying or in a normal week for themselves. The County Council and Welsh Government are jointly contributing funds to support this promotion.

So, what's in it for you and how do you get your business involved?

Register your business to be part of this free promotional campaign.  By doing this, you'll have the chance to participate in our On your Doorstep events, and your business will also be included within the promotional activity planned within the media - including the Carmarthen Journal, Llanelli Star, Radio Carmarthenshire and social media.

Planned Promotion in the Media:

Activities will include 5 weeks of features in the Llanelli Star and Carmarthen Journal plus a special Easter "What's on" supplement, five week promotion on Radio Carmarthenshire with weekly thematic focus such as 'things to do when it's raining', and 'things to do outdoors'. We shall be using our public relations people plus all County Council digital channels plus all of us will use #carmstourismmonth in social media posts related to the campaign including daily/weekly posts on Facebook and Twitter. We will also be boosting the social media presence using paid advertising on Facebook to ensure the message reaches our target audience in and around Carmarthenshire

Carmarthenshire...On your Doorstep Events:

In addition, based on the success of the campaign led by Carmarthenshire Tourism Association in previous years, there will also be On Your Doorstep events on three consecutive Saturdays in the town centres of Carmarthen (Saturday 7th March), Ammanford (Saturday 14th March) and Llanelli (Saturday 21st March). 

We want the events to be interactive and interesting so we'd encourage you not only to hand out leaflets and promotional material - but think of what else you could do to entice people and grab their attention.  For example, at past On your Doorstep events, there's been a potter's wheel, climbing wall, den building, laser shooting, golf driving range, food tasting, children's crafts and activities, giveaways, etc. There is a huge amount of footfall and Radio Carmarthenshire will be broadcasting live from each town.

Register your Interest

As places are limited and on a first come first served basis, please fill in and return the attached exhibitor form:
by no later than Saturday 31st January.


If you have any questions, please do not hesitate to contact us and note that the activities above are just the start point and if you have any ideas or suggestions, let us have them



'Hyrwyddo eich busnes fel rhan o Fis Twristiaeth Sir Gâr'
Yn rhan o Wythnos Twristiaeth Cymru, mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr a nifer o bartneriaid eraill yn trefnu Mis Twristiaeth Sir Gâr oherwydd yn syml, mae llawer gormod yn digwydd yn y sir ac nid yw wythnos yn ddigon! Ein nod yw sicrhau ein bod yn denu sylw'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y sir a'u bod hwythau'n manteisio ar yr atyniadau, gweithgareddau, mannau bwyta naill ai yng nghwmni ffrindiau a theulu sy'n ymweld â nhw neu fel rhan o'u hwythnos arferol eu hunain. Mae'r Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru yn cyfrannu arian ar y cyd i gefnogi'r ymgyrch hwn.   

Felly, beth yw'r cynnig a sut y gall eich busnes fod yn rhan ohono?

 
Cofrestrwch eich busnes er mwyn cymryd rhan yn yr ymgyrch hyrwyddo hwn yn rhan ac am ddim. Trwy wneud hyn bydd cyfle ichi gymryd rhan yn ein digwyddiadau 'Ar Garreg y Drws' a bydd eich busnes yn cael ei gynnwys yn y gwaith hyrwyddo a gynllunnir ar y cyfryngau - gan gynnwys y Carmarthen Journal, Llanelli Star, Radio Sir Gâr a'r cyfryngau cymdeithasol.
                                                                              
Cynlluniau Hyrwyddo ar y Cyfryngau:
Bydd y gweithgareddau'n cynnwys 5 wythnos o erthyglau nodwedd yn y Llanelli Star a'r Carmarthen Journal ynghyd ag Atodiad arbennig "Beth sy 'Mlaen" adeg y Pasg, pum wythnos o hyrwyddo ar Radio Sir Gâr â thema arbennig bob wythnos e.e. "gweithgareddau yn y glaw' a "gweithgareddau yn yr awyr agored". Byddwn yn defnyddio'n cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau digidol y Cyngor Sir ac yn defnyddio #SirGâr mewn negeseuon am yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ynghyd â negeseuon dyddiol/wythnosol ar Facebook a Twitter. Yn ogystal, byddwn yn sicrhau mwy o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol trwy dalu am hysbysebion ar Facebook er mwyn sicrhau bod y neges yn cyrraedd ein cynulleidfa darged yn Sir Gâr a'r cyffiniau.

Digwyddiadau Sir Gâr...Ar Garreg y Drws:

Yn ogystal, yn dilyn llwyddiant yr ymgyrch sydd wedi cael ei arwain gan Gymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr yn y gorffennol, cynhelir digwyddiadau Ar Garreg y Drws, ar dri dydd Sadwrn olynol yng nghanol tref Caerfyrddin (Dydd Sadwrn 7 Mawrth), Rhydaman (Dydd Sadwrn 14 Mawrth) a Llanelli (Dydd Sadwrn 21 Mawrth). 
Rydym am i'r digwyddiadau fod yn rhyngweithiol ac yn ddiddorol felly byddem yn eich annog i ddosbarthu taflenni a deunydd hyrwyddo ond hefyd i ystyried dulliau eraill posibl o ddenu pobl a mynnu eu sylw. Er enghraifft, mae digwyddiadau Ar Garreg y Drws yn y gorffennol wedi cynnwys troell crochenydd, wal ddringo, adeiladu cuddfan, saethu laser, maes bwrw peli golff, blasu bwyd, crefftau a gweithgareddau i'r plant, nwyddau am ddim ac ati. Mae llawer iawn o bobl yn dod i'r digwyddiadau a bydd Radio Sir Gâr yn darlledu'n fyw o bob tref.   

Cofrestru diddordeb
Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael a'r cyntaf i'r felin fydd yn mynd â hi felly ewch ati i
lenwi'r ffurflen arddangoswr a atodwyd a'i dychwelyd erbyn dydd Sadwrn 31 Ionawr os gwelwch yn dda.  

Os bydd gennych gwestiwn, mae croeso ichi gysylltu â ni. Sylwch mai man cychwyn yn unig yw'r gweithgareddau a restrwyd uchod. Cofiwch roi gwybod i ni os oes gennych syniadau neu awgrymiadau eraill.

No comments:

Post a Comment