Your essential guide to this weekend
in Carmarthenshire...
You can keep you hat
on here even if you’re feeling Blue
KEEPING your hat at an elegant angle is hard enough while
juggling a handbag and glass of champagne. Just ask any of the elegant ladies
trotting off to Trimsaran. All bets are off on it not being a magnificent
Ladies Night at Ffos Las Racecourse on May 23 with an added fascinator touch of
spice with pop boy band Blue strumming to the event. Recent election results
may have painted Llanelli red but Trimsaran will certainly be ‘Blue’ all over
for this fabulous family partying event.
There are seven exciting jump races and competitions for the
best dressed ladies ah-la-Ascot...and for the best gent – with a hat. Yes you can keep your hat on if you are
feeling Blue, just don’t lose your shirt. And Top Tips to help you find a
winner: Don’t bet on any horse if the jockey is wearing pyjamas – he’s bound to
come in late.
Walks festival is a
blisteringly great event
FORGET John Cleese and his Ministry of Funny Walks. Llanelli has its very own Festival of Walks
that will rock your boots. If, as Nancy Sinatra sang ‘These Boots Were Meant
For Walking’ then get yours on make sure that’s just they will do and shuffle along
to this Festival Festival running (sorry, walking) from May 22-25. Young and
old, non-members and members alike are welcome to the Spring Bank Holiday event
that has attracted hundreds to join the throngs spreading through the hills and
along the coast from Llanelli. The very professional Llanelli Ramblers organise
and host the annual event which has established Llanelli as a popular centre
for walking lacing up walkers from all parts of the UK and beyond. The 2015
Llanelli Festival celebrates the 20th Anniversary of the event with a
blistering choice of 15 walks to suit all ages and abilities, in areas
including the Brecon Beacons, Gower, UNESCO World Heritage Site at Blaenavon
and more There will also be a Festival
Party at the newly reopened Selwyn Samuel Centre, as well as the traditional
Welsh Tea to round off the Festival.
Take a break!
PARENTING holiday headaches can be stung away by Bizzy Bee
Clubs at Carmarthenshire council Leisure centres. If your are buzzing about and
the children are at a loss of things to do pop along to your nearest leisure
centre and just see what they have on offer at the Bizzy Bee clubs to wear the
little ones out with fun packed activities. There are plenty of activities
there too for the older children with staff always willing to offer advice or
help
Wheely great tour of
Carmarthenshire
BYNEA Cycling Club has a cycling festival that is wheely
great a Tour de Carmarthenshire. Their event on Sunday May 24th has a course
spinning through 69-miles of glorious countryside townships and communities
that will take your breathy away. It is as much fun for the competitor as it is
for the cheering kerb thronging bystanders at the many vantage points
showcasing Carmarthenshire on a figure-of- eight course that begins at Church Bank
Playfields, Llandovery at 11am. The tour takes in the chocolate box painted
hillside properties in Llandeilo, swings under the towering Dryslwyn castle
walls and ploughs through the jaw-dropping countryside of the Towi Valley
through Llanwrda.
The cyclists will glint past the gold mines at Dolaucothi,
stream by Talley Abbey and struggling into the brooding Black Mountain where
Top Gear presenters have been known to burn doughnuts in the tarmac. It is a
day in the saddle that will have you coming back for more. There are categories
for juniors, ladies, and veterans as well as the four classes of regional
riders and you can enter on the day for £30
Eich canllaw hanfodol ar gyfer y
penwythnos hwn yn Sir Gaerfyrddin....
‘Blue’
yn perfformio ar Noson y Merched
MAE gofalu bod eich het yn aros yn y man iawn
yn gallu bod yn ddigon anodd wrth ddal bag llaw a gwydraid o siampên -
gofynnwch i un o’r merched gosgeiddig sy’n mynd i Gae Rasio Ffos Las ar Noson y
Merched ar Fai 23! Bydd bechgyn y band pop ‘Blue’ yn perfformio yno, felly er
taw coch yw lliw tref Llanelli yn ôl canlyniadau’r etholiad diweddar, ‘glas’
fydd Trimsaran yn bendant ar gyfer y digwyddiad hwyliog hwn i’r teulu.
Bydd saith o rasys cyffrous dros y clwydi a
bydd cystadleuaeth i’r merched sydd â’r wisg orau, tebyg i Ascot, ac i’r gŵr mwyaf trwsiadus – â het. A
dyma gyngor doeth i’ch helpu i ddod o hyd i enillydd: Peidiwch â rhoi bet ar
geffyl os yw’r joci’n gwisgo ei ddillad nos – mae’n siŵr o orffen yn olaf.
Yr Ŵyl Gerdded yn
llwyddiant ysgubol
ANGHOFIWCH am John Cleese a’i ‘Ministry of Funny Walks’. Mae gan Lanelli ei Gŵyl Gerdded ei hun rhwng Mai 22 a 25 felly beth am ymuno yn yr hwyl a
manteisio ar gyfle i ymarfer corff a chael awyr iach ar yr un pryd. Mae’r
digwyddiad hwn dros Ŵyl Banc y Gwanwyn - lle
croesewir yr hen, yr ifanc, aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau - yn denu
cannoedd i gerdded y bryniau a’r arfordir yng nghyffiniau Llanelli. Cymdeithas
Cerddwyr Llanelli sy’n trefnu ac yn cynnal y digwyddiad blynyddol hwn, sydd
wedi gwneud Llanelli’n ganolfan boblogaidd i gerddwyr o bob rhan o Brydain a’r
tu hwnt. Mae’r Ŵyl hon yn Llanelli yn
dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2015 ac mae dewis gwych o 15 o deithiau sy’n
golygu bod rhywbeth addas i bob oedran a phob gallu, a hynny mewn ardaloedd fel
Bannau Brycheiniog, Penrhyn Gŵyr, safle
Treftadaeth y Byd UNESCO ym Mlaenafon a mwy. Hefyd bydd Parti yn rhan o’r Ŵyl yng Nghanolfan Selwyn Samuel (sydd newydd ailagor) yn ogystal â’r Te
Cymreig traddodiadol i gwblhau’r Ŵyl.
Cymerwch
hoe!
GALL Clybiau’r Bizzy Bees a gynhelir yng
nghanolfannau hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin ddatrys rhai o’r problemau sydd
gan rieni yn ystod y gwyliau. Os ydych chi’n brysur ac os yw’r plant yn methu
meddwl am bethau i’w diddori, ewch draw i’ch canolfan hamdden agosaf i weld pa
weithgareddau hwyl i flino’r plant sydd ar gael yn y Clybiau Bizzy Bees. Mae
digonedd o weithgareddau yno hefyd i blant hŷn ac mae’r staff yn barod bob amser i gynnig cyngor neu i helpu.
Taith
Feicio yn Sir Gaerfyrddin
MAE gan Glwb Beicio Bynea ŵyl
feicio sy’n gyfle gwych i gael taith hir drwy Sir Gâr. Cynhelir y daith 69
milltir o hyd ddydd Sul Mai 24ain gan fynd drwy drefi,
cymunedau, a llecynnau gwledig godidog. Mae’n gymaint o hwyl i’r cystadleuwyr
ag yw i’r sawl sy’n gwylio ac yn bloeddio eu cymeradwyaeth mewn mannau sy’n
arddangos Sir Gâr ar ei gorau. Mae’r cwrs ar ffurf rhif wyth ac yn dechrau ym meysydd
chwarae Banc yr Eglwys, Llanymddyfri am 11am. Mae’r daith yn mynd heibio i’r
tai amryliw ar y rhiw yn Llandeilo, yn croesi islaw muriau castell Dryslwyn ac
yn palu ymlaen drwy gefn gwlad drawiadol Dyffryn Tywi drwy Lanwrda.
Bydd y beicwyr yn mynd heibio i Fwyngloddiau Dolau
Cothi ac Abaty Talyllychau cyn ei throi hi tuag at y Mynydd Du. Mae’n ddiwrnod
cofiadwy ar y beic a byddwch yn sicr o ddychwelyd eto. Mae categorïau i blant,
menywod, a phobl hŷn yn ogystal â phedwar dosbarth i feicwyr rhanbarthol.
Nid oes yn rhaid trefnu ymlaen llaw, gallwch wneud hynny ar y dydd am £30.