Monday, 3 August 2015

Bag a Last-Minute Summer Break in Carmarthenshire
-Boutique hotels, coastal cottages and family-friendly glampsites with late availability throughout the summer holidays-

Families, couples and groups in search of a last-minute getaway this summer have plenty to choose from here in Carmarthenshire; with bags of activities and accommodation options on offer to suit those in search of a fun-filled escape on UK shores. From boutique hotels in Dylan Thomas’ hometown to coastal cottages and uber-cool glampsites, there’re still a host of accommodation options available throughout the summer holidays - with many even offering fantastic discounts.

Plus with a spectacular coastline, beautiful beaches and glorious countryside, Carmarthenshire proves that you don’t have to go far for a blissful break this summer! Here are just a handful of the brilliant breaks on offer...

Hotel Hideaways...

Charming Hotel on Outskirts of Boutique Market Town- The Plough Rhosmaen, Llandeilo


This attractive modern hotel sits on the outskirts of the pretty market town of Llandeilo- famed for its bustling high street of independent retailers selling everything from artisan chocolates and deli goods, to ‘upcycled’ furniture and speciality gins. The Plough offers 23 sleek, comfortable rooms ideal for a couples’ mini break or family getaway, complete with an AA Rosette award-winning restaurant serving up an impressive menu. With sweeping views over the Towy Valley and the Brechfa Forest on its doorstep, this is the ideal base for those looking for an active break in the  country.

Price: Stay for 5 nights and pay for 4 throughout August- 5 night stay now available from £190pp (was £238pp) based on two sharing a double room on a B&B basis. To book visit www.ploughrhosmaen.com or call 01558 823 431.

Super-Stylish 16th Century Hotel Overlooking Estuary- The Corran, Laugharne


Hidden deep in the marshlands of Carmarthenshire, this boutique hideaway is a picturesque base for those wishing to get away from the hustle and bustle of city life and relax in the welsh countryside this summer. Rooms are colourful and stylish, each individually decorated, with a luxurious on-site spa and delicious meals inspired by specialities of the region served up in the hotel’s own restaurant. The beaches of Pendine and Llansteffan are just a short drive away, with an abundance of country walks on offer straight from the front door.


Price: From £175 per room per night throughout August based on two sharing on a B&B basis. To book visit www.thecorran.com or call 01994 427 417.

Campers and Glampers...

Wild Tipi and Bell Tent Glamping- Cwm Ty Coed, just south of Carmarthen


Perfect for families, Cwm Ty Coed offers a quirky glamping experience amidst 30 acres of rolling wildflower meadow and ancient woodland. Ideal for an out-of-the-ordinary escape this summer, guests have bell tents and tipis to call home; stylishly adorned with natural flooring, sheepskin rugs, twinkling lanterns and wood-burning stoves. Activities for kids are ten-a-penny, including zipwires, a games cabin and an outdoor cinema, whilst well-equipped kitchens, picnic tables and outdoor fire-pits make alfresco dining easy for the grown-ups. The bustling market town of Carmarthen is just three miles away and the beaches of Llansteffan and Cefn Sidan just a short drive- ideal for those looking for a taste of the great outdoors this summer.

Price: Prices start from £80 per night or £240 for a 3 night break throughout August, based on four sharing a Bell Tent on a self-catering basis- minimum stay of two nights applies. To book visit www.cwmtycoed.co.uk or call 01994 484 688.

Cottage Escapes...

Grand Coastal Cottage in Dylan Thomas’ Hometown- Great House, Laugharne

Built in the early 1700s, the Grade II* listed Great House is undoubtedly one of the finest Georgian townhouses in Wales- the ideal base for those in search of a classic country escape with the coast in easy reach.  Sleeping up to 12 across 5 bedrooms, the house boasts enviable period features- think panelled rooms, original fireplaces and enormous four-poster beds- with sleek bathrooms and its own outdoor heated swimming pool. The quirky coastal town of Laugharne, offering great watering holes, a fantastic castle and stunning sea views, is on your doorstep; with the beautiful beach of Pendine just a 10 minute drive away. www.underthethatch.co.uk/great

Price: From £1319 (£110pp) for a 7 night stay in August 2015, based on up to 12 sharing on a self-catering basis. To book visit www.underthethatch.co.uk or call 0844 5005 101.

Spacious Stone Cottages in the Heart of the Teifi Valley- Waunifor, Pencader

Somewhat of a hidden gem in the heart of the Teifi Valley, Waunifor offers six traditional and homely stone self-catering holiday cottages full of character and unique features; sleeping from 2 to 10 people. Found along a quiet country lane just outside of the town of Llandysul, this is the perfect countryside getaway for couples, families or groups looking for a tranquil escape- set amidst beautiful gardens complete with babbling stream and wildflower meadow. What’s more- dogs are welcome, too.


Price:  Save 20% on all remaining August stays at Waunifor- 7 night stay now available from £280 (was £350) based on two sharing Duckpond Cottage on a self-catering basis. To book visit www.waunifor.com or call 01559 395437. 



Cyfle i gael gwyliau munud olaf yr haf hwn yn Sir Gâr
Gwestai bach moethus, bythynnod ar yr arfordir, a safleoedd gwârsylla sy’n croesawu teuluoedd
– lleoedd munud olaf ar gael drwy gydol gwyliau'r haf.


Yma yn Sir Gaerfyrddin mae digon o ddewis i deuluoedd, parau a grwpiau sy'n chwilio am wyliau munud olaf yr haf hwn; gyda llwyth o weithgareddau a dewisiadau llety ar gael sy'n addas ar gyfer y rheini sy'n chwilio am ddihangfa hwyliog ar lan y môr yn y Deyrnas Unedig. O westai bach moethus yn y dref a fu'n gartref i Dylan Thomas, i fythynnod ar yr arfordir a gwersylloedd tra ffasiynol lle gellir gwersylla mewn steil, mae llwyth o ddewisiadau llety eto ar gael drwy gydol gwyliau'r haf – gyda llawer ohonynt hyd yn oed yn cynnig gostyngiadau gwych.

Hefyd, gydag arfordir anhygoel, traethau hardd a chefn gwlad godidog, mae Sir Gaerfyrddin yn brawf pendant nad oes yn rhaid ichi fynd ymhell i gael gwyliau dedwydd yr haf hwn! Dyma rai yn unig o'r gwyliau gwych sydd ar gael...

Gwestai sy'n Gyfrinachau Gwerth eu Rhannu...

Gwesty dymunol ar gyrion tref farchnad lle ceir busnesau boutique –
Y Plough, Rhos-maen, Llandeilo
Mae'r gwesty modern a deniadol hwn ar gyrion tref farchnad hardd Llandeilo, sy'n enwog am ei stryd fawr llawn siopau annibynnol sy'n gwerthu popeth dan haul, o siocledi gan gynhyrchwyr sy’n feistri ar eu crefft, a nwyddau deli, i gelfi wedi'u huwch-gylchu a diodydd jin arbenigol. Mae gan y Plough 23 o ystafelloedd cysurus a chwaethus o ffasiynol, sy'n ddelfrydol i bâr ar wyliau byr neu i deulu ar wyliau. Hefyd mae gan y Plough fwyty sydd wedi ennill safon Rhoséd yr AA ac sy'n cynnig bwydlen sy'n wledd a hanner. Gyda golygfeydd eang dros Ddyffryn Tywi a Choedwig Brechfa ar garreg y drws, mae hon yn ganolfan ddelfrydol i'r rhai sy'n chwilio am wyliau o weithgareddau egnïol yn y wlad.

Y Pris: Gellir aros am 5 noson am bris 4 noson drwy gydol Awst – nawr mae'r prisiau i'r rhai sydd am aros 5 noson yn dechrau o £190 y pen (£238 y pen oedd y pris) yn seiliedig ar 2 yn rhannu ystafell ddwbl ar sail Gwely a Brecwast. I archebu lle, ewch i www.ploughrhosmaen.com neu ffoniwch
01558 823 431.

Gwesty Llawn Steil sy'n dyddio o'r 16eg ganrif ac sydd â golygfeydd draw dros yr aber –
The Corran, Talacharn
Mewn rhan dawel fach o forfa yn Sir Gaerfyrddin, mae'r gyfrinach hon o westy yn lle hardd i'r rhai sy'n dymuno dianc o brysurdeb a bwrlwm bywyd y ddinas i ymlacio yng nghefn gwlad Cymru yr haf hwn. Mae'r ystafelloedd yn lliwgar ac yn llawn steil a phob un wedi'i haddurno'n unigryw. Mae sba moethus ar y safle ac mae bwyty'r gwesty'n cynnig prydau bendigedig a ysbrydolwyd gan seigiau a bwydydd arbennig y rhanbarth. Nid yw traethau Pentywyn a Llansteffan nepell i ffwrdd yn y car, ac mae yma ddigonedd o lwybrau cerdded cefn gwlad ar eich cyfer ar garreg y drws.

Y Pris: Mae'r prisiau'n dechrau o £175 yr ystafell am noson drwy gydol mis Awst, i ddau sy'n rhannu ar sail Gwely a Brecwast. I archebu lle, ewch i www.thecorran.com neu ffoniwch 01994 427 417.

I'r rhai sy'n Gwersylla a Gwârsylla....

Gwârsylla yn y Gwyllt mewn Tipi a Phabell Cloch – Cwm Tŷ Coed, fymryn i'r de o Gaerfyrddin
Mae Cwm Tŷ Coed, sy'n berffaith i deuluoedd, yn cynnig profiad gwârsylla gwahanol ynghanol coetir hynafol a dôl donnog, 30 erw sy'n llawn blodau gwyllt. Mae'n ddihangfa ddelfrydol ac anghyffredin yr haf hwn. Yn gartref i'r gwesteion bydd tipis a phebyll cloch wedi'u haddurno â steil gan ddefnyddio lloriau naturiol, matiau croen dafad, llusernau i lewyrchu, a stofiau ar gyfer llosgi coed tân. Mae pob math o weithgareddau i'r plant, gan gynnwys gwifrau gwibio, caban gêmau a sinema awyr agored. Hefyd mae'r ceginau sy'n cynnig pob cyfleuster angenrheidiol, y byrddau picnic, a'r cylchoedd tân awyr agored yn golygu mai mater hawdd ydyw i'r oedolion drefnu bwyta yn yr awyr agored. Cwta dair milltir i ffwrdd mae tref farchnad brysur Caerfyrddin a dim ond siwrnai fer yn y car yw hi i draethau Llansteffan a Chefn Sidan – delfrydol felly i'r rhai sydd am gael bod yn yr awyr agored yr haf hwn.

Y Pris: Mae'r prisiau'n dechrau o £80 y noson neu £240 am wyliau tair noson ym mis Awst, yn seiliedig ar 4 yn rhannu pabell gloch ar sail hunanarlwyo – rhaid aros o leiaf 2 noson.  I archebu lle, ewch i www.cwmtycoed.co.uk neu ffoniwch 01994 484 688.

Bythynnod Gwyliau Bendigedig...

Bwthyn Glan Môr Crand yn y dref lle bu Dylan Thomas yn byw – Great House, Talacharn
Yn ddi-os, mae'r Great House, sy'n adeilad rhestredig Gradd II*, a adeiladwyd yn y 1700au cynnar, yn un o'r tai tref Sioraidd gorau yng Nghymru – y man delfrydol i'r rhai sy'n chwilio am glasur o ddihangfa yng nghefn gwlad nid nepell o'r arfordir. Mae lle i hyd at 12 gysgu ym mhum ystafell wely'r bwthyn. Mae yma nodweddion cyfnod sy’n rhai i'w chwennych – dychmygwch ystafelloedd â phaneli pren, lleoedd tân gwreiddiol a gwelyau pedwar postyn anferth – gydag ystafelloedd ymolchi swanc. Mae gan y lle ei bwll nofio awyr agored ei hun, wedi'i wresogi, hefyd. Ar garreg y drws, mae tref glan môr anghyffredin Talacharn, sydd â thafarndai gwych, castell campus a golygfeydd godidog o'r môr; gyda thraeth hardd Pentywyn 10 munud i ffwrdd yn y car. www.underthethatch.co.uk/great

Y Pris: Yn dechrau o £1,319 (£110 yr un y noson) os ydych yn aros 7 noson ym mis Awst 2015, os bydd hyd at 12 o bobl yn rhannu ar sail hunanarlwyo. I archebu lle, ewch i www.underthethatch.co.uk neu ffoniwch 0844 5005 101.

Bythynnod Cerrig sydd â Digonedd o Le ac sydd yng nghanol Dyffryn Tywi – Waunifor, Pencader
Dyma ichi beth yw gem gudd yng nghanol Dyffryn Tywi. Mae Waunifor yn cynnig 6 bwthyn cerrig cartrefol a thraddodiadol ar gyfer gwyliau hunanarlwyo sy'n llety llawn cymeriad a nodweddion unigryw; mae lle i 2–10 o bobl gysgu. Ar lôn dawel yn y wlad a hynny heb fod nepell o dref Llandysul, dyma i chi'r lle perffaith yng nghefn gwlad i barau, teuluoedd neu grwpiau sy'n chwilio am ddihangfa dawel yng nghanol gerddi hardd lle gellir mwynhau murmur y nant a'r gweirglodd blodau gwyllt.
A mwy na hynny – mae croeso i'r ci hefyd.

Y Pris: Gallech arbed 20% ar bob cyfle i aros sy'n weddill yn Waunifor ym mis Awst – mae cyfle ar gael i aros 7 noson gyda'r prisiau'n dechrau o £280 (£350 oedd y pris) os yw 2 yn rhannu Duckpond Cottage ar sail hunanarlwyo. I archebu lle, ewch i www.waunifor.com neu ffoniwch 01559 395437.




Tuesday, 28 July 2015

Summer Family Fun in the Garden of Wales / Hwyl yr Haf i’r Teulu yng Ngardd Cymru

Summer Family Fun in the Garden of Wales

Here in Carmarthenshire, we have bucket loads exciting activities and events on offer this summer for families in search of a fun day out; from tackling the rapids on the River Teifi and delicious afternoon teas on board a vintage steam train, to canoe trails through the wetlands and spooky tours of Carmarthen after dark. There will even be the return of the famous Blue Bird to the sands of Pendine, recreating the car’s world famous land speed record break in 1925!

Check out some of the activities on offer throughout July and August below, with more details and accommodation available to view at www.discovercarmarthenshire.com/whats-on

Explore Carmarthenshire’s Sinister Past on a Creepy Carmarthen Tour- Carmarthen
Embark on a trip back in time through Carmarthen's creepy past on a spooky evening tour through the country’s oldest town, suitable for all ages. Meet “murderers” and their victims (not real ones, promise); visit the sites of grisly executions; uncover secrets from bygone days and visit the haunted streets of the ancient town on the lookout for ghosts with the help of your guide- the spooky Dr Grimoire. There’s even a peek inside the town’s original Victorian Police Station, the setting for dozens of overnight "ghost watches", and plenty of magical twists.  

Details: Tours run from Carmarthen Guildhall every Wednesday at 7pm from July 22nd- September 2nd. Tickets are priced at £7.50 per adult, £5 per child and £23 per family of four. Booking is essential. For more information visit creepycarmarthen.co.uk or call 01267 231557.

Wild Waters and Paddling Galore- August Summer Play Days at Llandysul Paddlers, Llandysul, Carmarthenshire
Llandysul Paddlers are hosting a variety of summer fun days throughout August, ideal for active kids looking for an adventurous day out. Water lovers can spend mornings splashing about in the River Teifi before hopping on board a kayak or canoe for exhilarating white water rides and river races. After lunch, grab a group of friends and work together to build the best raft possible before testing it on the water. There’re also plenty of land-based activities on offer for those looking for fun on dry land, including cycling, mountain biking and rock climbing.

Details: Summer Play Days are running throughout August on the following dates- 3/5/15, 12/13/14, 19/20/21, 26/27/28 August. Priced from £10 per child per day (10am-4pm). For more information visit www.llandysul-paddlers.org.uk.

Hop on Board a Vintage Steam Train - Gwili Railway, North of Carmarthen, Carmarthenshire
Families can grab a taste of the golden age of railway this summer at Gwili Railway, where they’re invited to hop on board an authentic 1950’s steam hauled service and explore the spectacular surrounding countryside in serious vintage style. Take a ride alongside old station buildings, vintage carriages, steam locomotives and diesel railcars, all with picturesque views of the village cricket pitch and Gwili River, with a delicious strawberry cream tea to satisfy your sweet tooth whilst on board. Plus, on the 19th July, Gwili Railway is hosting a ‘Classic Transport Day’ with a host of vintage vehicles, riverside picnics, miniature railway and carnival rides.

Details: Open from 10am each day during July and August. Tickets available from £10 per adult, £4.50 per child and under 3s go free. For more information visit www.gwili-railway.co.uk.

Canoe Safari through the Wild Wetlands- WWT Llanelli, Carmarthenshire
Intrepid explorers and wildlife lovers alike will love the canoe safaris running at the Wildfowl and Wetlands Trust Llanelli throughout July and August. Your very own wetland adventure, visitors can grab a canoe and head off to explore the vast watery expanses of the wetland otherwise inaccessible to visitors- getting up close and personal with a host of wetland wildlife. The swan’s nest maze is a must-see, but those who’d prefer to stick to dry land needn’t fear- as WWT Llanelli also has a fantastic bike trail to follow; where you’re likely to meet otters, butterflies, birds and dragonflies as you pedal!

Details: Canoe and bike trails run daily throughout July and August from 12-4pm. Cost included in admission. Priced from £8.14 per adult, £4.50 per child and £22.73 per family of four. For more information visit www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli or call 01554 741087.

‘Hidden House’ Tours at Newton House - Dinefwr Park and Castle, Llandeilo, Carmarthenshire
Kids after a taste of how the ‘other half’ used to live should head straight to Dinefwr Park and Castle in Carmarthenshire this summer, where guided tours of Newton House (a 17th century mansion) will take little ones and their families behind the scenes of the historic house. Curious kids can snoop around servants’ corridors, into the basement kitchen, up into the loft space and finally out onto the roof to enjoy the views across Dinefwr’s vast parkland – with touching ancient artefacts and dressing up in Victorian costumes encouraged!  They can even have a go at being a butler for the day, getting to work polishing boots and ironing shirts in the basement. After the tour, families can explore Dinefwr’s vast parkland, home to an abundance of wildlife, and ancient castle; the ideal spot for an al fresco picnic, with bags of space to enjoy.

Details: £6 per car for admission to the parkland. No additional charges for other activities apply. Hidden House tours run daily at 2:30pm throughout July and August. For more information visit nationaltrust.org.uk/dinefwr or call 01558 824512.


We also have a whole host of family-friendly accommodation with remaining availability throughout the July and August school holidays. From spacious self-catered stone cottages with acres of countryside to explore at Waunifor and stylish hotel escapes to Newcastle Emlyn at Gwesty'r Emlyn Hotel, to uber-cool glamping breaks at Cwm Ty Coed near the market town of Carmarthen- there’s something to suit families of all shapes and sizes. For more information about the accommodation on offer, please visit www.discovercarmarthenshire.com/staying

Hwyl yr Haf i’r Teulu yng Ngardd Cymru

Yma yn Sir Gaerfyrddin, mae gennym lu o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yr haf yma i deuluoedd sy’n chwilio am ddiwrnod o hwyl; o fentro i ddŵr gwyllt Afon Teifi a chael te prynhawn blasus ar hen drên stem, i ganwio trwy’r gwlyptir neu fynd ar daith ysbrydion yng Nghaerfyrddin wedi iddi dywyllu. Byddwn hyd yn oed yn gweld yr enwog ‘Blue Bird’ yn dychwelyd i draeth Pentywyn, gan ailgreu llwyddiant bydenwog y car hwnnw i dorri’r record cyflymdra ar dir yn 1925!

Isod cewch fanylion rhai o’r gweithgareddau fydd ar gael yn ystod Gorffennaf ac Awst, ac mae rhagor o fanylion a llety ar gael trwy fynd i www.darganfodsirgar.com/beth-sy-mlaen

Dewch i brofi Gorffennol Sinistr Sir Gaerfyrddin ar daith fwganllyd o amgylch Caerfyrddin
Ewch ar daith yn ôl mewn hanes trwy orffennol dirgel Caerfyrddin trwy grwydro strydoedd tref hynaf y wlad fin nos, ar daith fwganllyd. Bydd y daith yn addas i bob oed, ac yn gyfle i gwrdd â “llofruddion” a’r rhai a lofruddiwyd (nid rhai go iawn, wrth gwrs); ymweld â safleoedd dienyddiadau erchyll; datgelu cyfrinachau’r gorffennol ac ymweld â strydoedd y dref hynafol gan gadw llygad ar agor am ysbrydion, gyda chymorth eich tywysydd – yr arswydus Dr Grimoire. Byddwch hyd yn oed yn cael cip y tu mewn i Orsaf Heddlu wreiddiol y dref, o Oes Victoria, lleoliad dwsinau o “wyliadwriaethau ysbrydion” dros nos, a bydd digonedd o anturiaethau lledrithiol.

Manylion: Bydd y teithiau’n cychwyn o Neuadd y Dref yng Nghaerfyrddin bob nos Fercher am 7pm o 22 Gorffennaf – 2 Medi. Pris y tocynnau yw £7.50 i oedolyn, £5 i blentyn a £23 i deulu o bedwar. Rhaid cadw lle. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i creepycarmarthen.co.uk neu ffoniwch 01267 231557.

Dŵr Gwyllt a Digon o Badlo – Diwrnodau Chwarae’r Haf ym mis Awst gyda’r Llandysul Paddlers, Llandysul, Sir Gaerfyrddin
Mae Llandysul Paddlers yn cynnal amrywiaeth o ddiwrnodau hwyl yr haf ar hyd mis Awst, profiad delfrydol ar gyfer plant egnïol sy’n hoffi diwrnod llawn antur. Gall y rhai sy’n mwynhau chwaraeon dŵr dreulio’r bore yn sblasio yn Afon Teifi cyn neidio i mewn i gaiac neu ganŵ i fynd ar wib drwy’r dŵr gwyllt neu rasio ar yr afon. Ar ôl cinio, bydd cyfle i chi a nifer o ffrindiau gydweithio i greu’r rafft orau cyn ei phrofi ar y dŵr. Bydd hefyd ddigonedd o weithgaredd ar y tir i’r rhai sy’n awyddus i gadw’n sych, gan gynnwys beicio, beicio mynydd a dringo creigiau.

Manylion: Mae Diwrnodau Chwarae’r Haf yn cael eu cynnal ar hyd mis Awst ar y dyddiadau canlynol- 3/5/15, 12/13/14, 19/20/21, 26/27/28 Awst. Mae’r pris yn cychwyn o £10 y plentyn y dydd (10am-4pm). I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.llandysul-paddlers.org.uk.

Ewch ar daith ar Drên Stêm Hynafol – Rheilffordd Gwili, i’r gogledd o Gaerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gall teuluoedd brofi oes aur y rheilffyrdd yr haf yma ar Reilffordd Gwili, lle cânt gyfle i fynd ar wasanaeth stêm dilys o’r 1950au, ac archwilio’r ardaloedd gwledig o amgylch yn steil yr oes. Byddwch yn mynd heibio i hen adeiladau’r orsaf, cerbydau hynafol, peiriannau stêm a disl, a hefyd yn cael golygfeydd gwych o gae criced y pentref ac afon Gwili, gyda the mefus a hufen blasus fydd yn sicr at eich dant yn ystod y daith. Ar ben hynny, ar 19eg Gorffennaf, mae Rheilffordd Gwili’n cynnal ‘Diwrnod Trafnidiaeth Glasurol’, gyda llu o gerbydau hynafol, picnic ar lan yr afon, trên bach a reidiau carnifal.

Manylion: Ar agor o 10am bob dydd yn ystod Gorffennaf ac Awst. Mae tocynnau ar gael o £10 y pen i oedolion, £4.50 i blant, ac ni chodir tâl ar blant o dan 3 oed. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gwili-railway.co.uk.

Saffari ar Ganŵ trwy’r Gwlyptiroedd Gwyllt – Canolfan Adar y Gwlyptir, Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Bydd anturiaethwyr brwd a selogion byd natur wrth eu bodd yn mynd ar Saffari Ganŵ trwy Ganolfan Adar y Gwlyptir yn Llanelli, ar hyd Gorffennaf ac Awst. Dyma gyfle i gael eich antur gwlyptir eich hun, gan fod ymwelwyr yn gallu bachu canŵ a mynd i archwilio’r eangdiroedd gwlyptir nad yw ymwelwyr yn gallu eu gweld fel arfer – a gweld llu o anifeiliaid gwyllt yn agos. Mae drysfa nyth yr alarch yn un o’r uchafbwyntiau, ond os yw’n well gennych chi aros ar dir sych, peidiwch â phoeni, mae gan y Ganolfan lwybr beicio gwych hefyd; yno rydych chi’n debygol o gwrdd â dwrgwn, pili palod, adar a gweision y neidr wrth i chi bedlo!

Manylion: Bydd y llwybrau canwio a beicio ar gael bob dydd ym mis Gorffennaf a mis Awst, o 12-4pm. Mae’r gost yn gynwysedig yn y pris mynediad, sy’n cychwyn o £8.14 y pen i oedolion, £4.50 i blant a £22.73 i deulu o bedwar. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli neu ffoniwch  01554 741087.

Teithiau ‘Tŷ Cudd’ yn Newton House – Parc a Chastell Dinefwr, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin
Os hoffai’r plant ddysgu am fywyd  yn yr oes o’r blaen, anelwch yn syth am Barc a Chastell Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin yn ystod yr haf, lle bydd teithiau tywys o amgylch Newton House (plasdy o’r  17eg ganrif) yn dangos i blant a’u teuluoedd yr holl waith oedd yn arfer digwydd allan o’r golwg yn y tŷ hanesyddol. Gall plant chwilfrydig grwydro coridorau’r gweision, mynd i’r gegin yn yr is-lawr, a dringo i’r stafell yn y to, cyn mynd allan ar y to i fwynhau’r golygfeydd ar draws parcdir helaeth Dinefwr – a chael eu hannog i gyffwrdd â’r hen arteffactau a phrofi gwisgoedd Oes Victoria! Gallan nhw hyd yn oed roi cynnig ar fod yn fwtler am y dydd, a mynd ati i sgleinio sgidiau a smwddio crysau yn yr is-lawr. Ar ôl y daith, gall teuluoedd grwydro ym mharcdir helaeth Dinefwr, lle ceir digonedd o fywyd gwyllt, a’r castell hynafol; mae’n fan delfrydol ar gyfer picnic yn yr awyr agored, gan fod digon o le i fwynhau.

Manylion: £6 y car yw’r tâl mynediad i’r parcdir, ac ni chodir tâl ychwanegol am y gweithgareddau eraill. Mae’r teithiau ‘Tŷ Cudd’ (Hidden House) yn cael eu cynnal bob dydd am 2:30pm ar hyd mis Gorffennaf a mis Awst. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i nationaltrust.org.uk/dinefwr neu ffoniwch 01558 824512.

Mae gennym ni hefyd ddigonedd o lety hwylus i deuluoedd, ac mae lleoedd ar gael ar hyd gwyliau ysgol Gorffennaf ac Awst. O fythynnod carreg eang yn Waunifor, lle gallwch chi drefnu eich bwyd eich hun ac archwilio erwau o gefn gwlad, i westy steilus  y gallwch ddianc iddo, Gwesty'r Emlyn Hotel, yng Nghastellnewydd Emlyn, i’r gwyliau gwersylla moethus diweddaraf, Cwm Ty Coed, ger tref farchnad Caerfyrddin – mae rhywbeth at ddant teuluoedd, beth bynnag yw eu maint a’u math. I gael rhagor o wybodaeth am y llety sydd ar gael, ewch i www.discovercarmarthenshire.com/staying

Wednesday, 10 June 2015

New Summer Holiday Escapes in Carmarthenshire / Seibiannau Newydd ar gyfer yr Haf yn Sir Gaerfyrddin

New Summer Holiday Escapes in Carmarthenshire
 Here in Carmarthenshire, we’re excited to announce that we have a whole host of new holiday options for the 2015 summer season to entice holidaymakers to this beautiful corner of the UK; from a new family-friendly glampsite and farm-escape that allows little ones to sleep in their own pig ark, to a ‘horse comes too’ converted lodge on the edge of the Brechfa Forest and a unique stone carving break.

Check out some highlights of the new breaks around the county below!

Pig-Staycation- Sleep with the Pigs at Cwmcrwth Farm Cottages, Llandeilo


Forget converted horse boxes and shepherd’s huts... Cwmcrwth Farm Cottages is taking accommodation conversions to a new level with the launch of their new ‘Pig Ark’ breaks this summer, allowing guests to sleep with the pigs under the stars in their own converted pig ark. Scrubbed-up and tastefully decorated, Cwmcrwth’s converted pig ark provides cosy accommodation for two in an orchard overlooking the farm, with sleeping bags and blankets for a comfy night (almost) under the stars. Perfect for families after something a little different, guests are able to arrange a night’s stay in the pig ark as part of a multi-night break in one of the farm’s stylish converted barns; with kids able to take part in a host of fun farm activities throughout their stay, helping Farmer Rob collect the eggs, feed the pigs and meet the resident horses. Adults can even take part in a pork-curing course run by the farm; although may be best not to tell the kids!

Price: 3 night stay from £189/ 7 night stay from £420 based on a family of four sharing the Hayloft cottage on a self-catering basis. For guests, a stay in the Mafanwys Pig Ark is priced at an extra £25 per night (2 adults and 2 children) and includes sleeping and kitchen equipment, picnic breakfast and pig swill bucket (pig related goodies). Prices for non-guests are £45 per night, including the listed extras.  To book, visit www.cwmcrwthfarmcottages.co.uk or call 01558 669160.

Magic and Mind-Reading in the Heart of the Teifi Valley- Blaenfforest, Newcastle Emlyn
Those in search of a magical escape for all the family need look no further than Blaenfforest Holiday
Cottages- a clutch of converted traditional stone cottages in the heart of Carmarthenshire’s Teifi Valley, which are set to welcome the Magic Circle with the launch of a new ‘magic and mind reading’ package for guests. Magician and storyteller Nick Brunger, who runs the award winning Creepy Carmarthen ghost tours, has teamed up with Blaenfforest to offer guests this special Magic and Mind Reading break; which will see Nick entertain guests with a unique evening of magic and mind-reading, before heading out for a guided tour of the ancient wooded valley behind the cottages- where one might find a dragon’s lair on be lucky enough to catch a glimpse of a fairy. Kids will love the magic and mystery- with plenty to keep the adults’ minds’ boggled too! Guests can book this experience privately, with a glass of mulled wine (or fruit punch) and some spooky snacks thrown in for good measure.

Price: A 7 night stay at Blaenfforest Granary (sleeps 4) is priced from £475 on a self-catering basis.  Magic and Mindreading experience costs from £20pp- 4 person minimum required for booking. To book, visit www.cottageholidayswales.com or call 01559 371264. 

Wild Tipi and Bell Tent Glamping- Cwm Ty Coed, just south of Carmarthen
Newly opened for the 2015 summer season, Cwm Ty Coed offers a quirky glamping experience hidden amidst 30 acres of rolling wildflower meadow and ancient woodland. Bell tents and tipis act as your home under the stars- boasting natural floors, sheepskin rugs, twinkling lanterns and wood-burning stoves. Well-equipped kitchens, picnic tables and outdoor fire-pits make alfresco lunches easy, with the bustling market town of
Carmarthen just three miles away. Guests can spend days in the wooden games cabin with tons of books, board games and table tennis (perfect for keeping the kids entertained), take a ride on the treetop zipwire or simply relax in colourful hammocks amidst the trees- with an outdoor cinema providing evening entertainment under the stars.

Price: 7 nights available from £455 / 2 nights available from £140, both based on four sharing a Bell Tent on a self-catering basis. To book visit www.cwmtycoed.co.uk or call 01994 484 688.

Romantic Mountain Bike Break for Two- The Old Bike Shed, Mudtrek, Brechfa Forest
New for 2015 is The Old Bike Shed- a bijoux barn conversion located on the edge of the Brechfa Forest in Carmarthenshire, offered as accommodation by Mudtrek Mountain Bike Breaks. Sleeping just 2, the Old Bike

Shed is the ultimate cosy cottage getaway - recently converted and boasting exposed beams, a mezzanine bedroom, kitsch fixtures and fittings and sweeping countryside views. The ideal choice for couples in search of a little adventure, Mudtrek offers guests a ‘ski chalet experience for bikers’- with guided ‘off piste’ mountain bike sessions, fully-catered accommodation and equipment hire, not to mention endless trails through the Brechfa Forest straight from the front door to explore on two wheels.  After a busy adrenaline-fuelled day’s biking, couples can retreat to their cosy cottage à deux for a glass wine in front of the wood-burner. Plus, dogs are more than welcome.

Price: 2 night stays available from £250 based on two sharing The Old Bike Shed, including breakfast, packed lunch and two course evening meals on both nights and 1 day’s off-piste guiding. To book visit www.mudtrek.com or call 01267 202423.

Horse Comes Too Hideaway- Pengelli Farm Lodge, Pengelli
Sat at the edge of the spectacular Brechfa Forest is the recently-opened Pengelli Farm Lodge, a timber-framed lodge set on 122-acre horse stud farm, with beautiful views out to the Cothi Valley. This cosy lodg
sleeps up to 5, with an open plan living and dining area, cosy woodburner and large covered terrace complete with outdoor hot tub- perfect for watching the sun set over the valley. An ideal spot for riding fans, circular trails winding through the beautiful forest nearby go straight from the door, with stabling available for your horse on the stud farm with you.

Price:  7 nights available from £672 / 2 nights available from £192 for Pengelli Lodge (sleeps 5) on a self-catering basis. To book visit www.pengelliholidaylets.co.uk or call 07747116088.

Stonecarving Getaway – Stonehouse Carving and Cilwen Country House B&B, Camarthen
Budding artists can head to Carmarthen to try their hand at the intricate art of stonecarving with Stonehouse
Carving’s new three day course- the ideal option for creative types looking for an out-of-the-ordinary escape this summer. Participants will be taught all the tricks of the trade- stone types ideal for carving, how to use tools and create achievable designs- before putting this to good use carving their very own traditional York Rose or Green Man to take home. Combine this with a stay at Cilwen Country House B&B just a couple of miles down the road; with just three rooms it’s a great secluded getaway, and as well as the full English breakfast in the morning, evening meals are also available made out of the best locally sourced produce foods – like eggs from their free-range chickens. 

Price: The 3-day Stone Carving course at Stonehouse Carving is available for £195pp, including lunch, materials and use of tools. To book visit: www.stonehousecarving.co.uk. A 3 night stay at Cilwen Country House B&B is available from £210 based on two sharing on a B&B basis. To book visit: www.bedandbreakfastwales.net.


For more accommodation across the county, check out our ‘Staying’ page here: http://www.discovercarmarthenshire.com/staying/index.html


Seibiannau Newydd ar gyfer yr Haf yn Sir Gaerfyrddin

Yma yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod gennym ni lu o ddewisiadau gwyliau newydd ar gyfer tymor yr haf 2015 er mwyn denu pobl i'r rhan brydferth hon o'r Deyrnas Unedig. Maent yn cynnwys safle gwârsylla newydd ar fferm, sy'n addas i'r teulu cyfan ac sy'n caniatáu i blant bach gysgu mewn arch moch, llety sydd wedi'i addasu ac sy'n croesawu ceffylau ar gyrion Fforest Brechfa neu seibiant unigryw yn naddu cerrig.

Beth am gael cipolwg ar rai o'r seibiannau newydd sydd ar gael ledled y Sir isod?

Beth am gysgu yng nghwmni'r moch ym Mythynnod Cwmcrwth Farm, Llandeilo?
Anghofiwch am yr addasiadau arferol i adeiladau a rhowch gynnig ar rywbeth bach gwahanol... Bythynnod Cwmcrwth Farm yw'r lle ichi os ydych chi'n chwilio am seibiant bach anghyffredin mewn llety anarferol wrth iddynt lansio ei seibiannau newydd mewn Arch Moch yr haf hwn, sy'n caniatáu i westeion gysgu gyda'r moch o dan y sêr yn yr arch moch sydd wedi'i haddasu gan y perchnogion. Mae'r arch moch, sydd wedi'i haddasu, yn lân ac wedi'i haddurno'n chwaethus ac yn darparu llety clyd i ddau berson mewn perllan sy'n edrych dros y fferm.  Darperir sachau cysgu a blancedi er mwyn cael noson gyfforddus (bron) o dan y sêr. Mae'r gwyliau hyn yn berffaith ar gyfer teuluoedd sydd eisiau seibiant ychydig yn wahanol i'r arfer.  Gall gwesteion drefnu aros am noson yn yr arch moch fel rhan o wyliau hirach yn un o ysguboriau'r fferm sydd wedi'u haddasu yn llety modern. Bydd croeso i'r plant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog ar y fferm drwy gydol eu harhosiad megis helpu Rob y Ffermwr i gasglu'r wyau, bwydo'r moch a maldodi'r ceffylau sy'n byw yno. Gall oedolion hyd yn oed gymryd rhan mewn cwrs halltu porc sy'n cael ei gynnal gan berchnogion y fferm, er efallai byddai'n well peidio â dweud wrth y plant am hyn!

Pris: Gallwch aros am 3 noson am gyn lleied â £189 neu 7 noson am gyn lleied â £420 sy'n seiliedig ar deulu o bedwar yn rhannu bwthyn The Hayloft ar sail hunanarlwyo. Nodyn i westeion - mae aros yn Arch Moch Mafanwy yn costio £25 ychwanegol fesul noson (2 oedolyn a 2 blentyn) ac yn cynnwys offer cegin, sachau cysgu ac ati, brecwast picnic a bwced o ddanteithion. Y pris ar gyfer pobl sydd heb fod yn westeion yw £45 y noson sy'n cynnwys yr holl ychwanegiadau a nodwyd.  I archebu lle, ewch i www.cwmcrwthfarmcottages.co.uk neu ffoniwch 01558 669160.

Dewiniaeth a Darllen Meddyliau yng nghanol Dyffryn Teifi - Blaenfforest, Castellnewydd Emlyn
Bythynnod Gwyliau Blaenfforest yw'r lle i fod ar gyfer y sawl sydd eisiau seibiant hudolus i'r teulu cyfan.  Clwstwr o fythynnod cerrig traddodiadol sydd wedi'u haddasu yng nghanol Dyffryn Teifi, Sir Gaerfyrddin yw'r rhain sydd newydd lansio pecyn gwyliau newydd i westeion sef 'Dewiniaeth a Darllen Meddyliau.' Mae Nick Brunger, y consuriwr a'r storïwr sy'n cynnal teithiau bwganllyd Caerfyrddin Iasol sydd wedi ennill gwobrau, wedi ymuno â pherchnogion Blaenfforest er mwyn cynnig seibiant arbennig yn llawn dewiniaeth a darllen meddyliau i westeion. Fel rhan o'r cynnig, bydd Nick yn diddanu gwesteion drwy gynnal noson unigryw o ddewiniaeth a darllen meddyliau cyn mentro mas ar daith dywysedig o amgylch y dyffryn coediog hynafol y tu ôl i'r bythynnod a phwy a ŵyr pa ryfeddodau fydd i'w gweld yno. Bydd plant yn dwlu ar hud a dirgelwch y digwyddiad a bydd digon i gadw'r oedolion yn hapus hefyd. Gall gwesteion fynd ati i archebu'r profiad hwn eu hunain os ydynt yn dymuno ac fel arwydd o ewyllys da, bydd gwydraid o win twym (neu ddiod ffrwythau) a byrbrydau bwganllyd wedi'u cynnwys yn y pris.

Pris: Mae aros am 7 noson ym mwthyn Blaenfforest Granary (sydd â lle i 4 gysgu) yn costio cyn lleied â £475 ar sail hunanarlwyo.  Mae'r sesiwn Dewiniaeth a Darllen Meddyliau yn costio cyn lleied ag £20 y person ond mae angen o leiaf 4 person er mwyn archebu sesiwn. I archebu lle, ewch i www.cottageholidayswales.com neu ffoniwch 01559 371264. 

Gwârsylla yn y Gwyllt mewn Tipi a Phabell Cloch - Cwm Tŷ Coed, i'r de o Gaerfyrddin
Mae Cwm Tŷ Coed, sydd newydd agor ar gyfer tymor yr haf 2015, yn cynnig profiad gwârsylla gwahanol yng nghanol coetir hynafol a gweirglodd 30 erw sy'n llawn blodau gwyllt. Tipis a phebyll cloch o dan y sêr fydd eich cartref yn ystod eich arhosiad ond nid rhai cyffredin mo'r rhain, o na, maent yn cynnwys lloriau naturiol, matiau croen dafad moethus, lanternau prydferth a stofiau llosgi coed.  Hefyd, mae'r ceginau llawn offer coginio, y byrddau picnic a'r llefydd tân awyr agored yn golygu y gallwch chi fwynhau ciniawau allan yn yr awyr iach.  Gallwch hefyd ymweld â Chaerfyrddin, y dref farchnad brysur sydd ond tair milltir i ffwrdd. Gall gwesteion dreulio eu diwrnodau yn y caban gemau pren sy'n cynnwys llwyth o lyfrau, gemau bwrdd a thennis bwrdd (perffaith i gadw'r plant yn hapus) neu beth am ddefnyddio'r wifren gwibio drwy'r coed neu'n syml, ymlacio yn yr hamogau lliwgar yng nghanol y coed sydd â sinema awyr agored er mwyn darparu adloniant gyda'r nos o dan y sêr.

Pris: 7 noson ar gael am gyn lleied â £455 neu 2 noson ar gael am gyn lleied â £140 ac mae'r ddau bris yn seiliedig ar bedwar yn rhannu Pabell Cloch ar sail hunanarlwyo. I archebu lle, ewch i www.cwmtycoed.co.uk neu ffoniwch 01994 484 688.

Gwyliau Beicio Mynydd Rhamantus i Ddau - Yr Hen Sied Feiciau, Mudtrek, Fforest Brechfa
Mae'r Hen Sied Feiciau yn llety newydd ar gyfer 2015.  Hen ysgubor fach iawn sydd wedi'i haddasu yw'r Hen Sied Feiciau ar gyrion Fforest Brechfa, Sir Gaerfyrddin ac mae modd archebu gwyliau yno drwy Mudtrek Mountain Bike Breaks. Mae'r Hen Sied Feiciau, sydd â lle i 2 berson yn unig, yn fwthyn cysurus sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar ac yn cynnwys trawstiau agored, ystafell wely mesanîn, gosodion a ffitiadau hynod a golygfeydd gwych o gefn gwlad. Mae'r llety hwn yn ddewis delfrydol ar gyfer parau sy'n chwilio am antur fach gan fod Mudtrek yn cynnig 'profiad caban sgïo i feicwyr' â sesiynau beicio mynydd oddi ar y llwybrau penodedig yng nghwmni tywysydd, llety gydag arlwyaeth lawn a gwasanaeth hurio offer heb anghofio'r llwybrau diddiwedd ar gyfer beiciau drwy Fforest Brechfa a hynny ar garreg y drws.  Ar ôl diwrnod prysur, llawn adrenalin yn beicio, gall parau ymlacio yn eu bwthyn cysurus a mwynhau gwydraid o win o flaen y tân coed. Hefyd, mae croeso i gŵn.

Pris: 2 noson ar gael am gyn lleied â £250 yn seiliedig ar ddau yn rhannu'r Hen Sied Feiciau.  Mae'r pris yn cynnwys brecwast, cinio pecyn a phryd dau gwrs gyda'r nos ar y ddwy noson a chael eich tywys oddi ar y llwybrau penodedig am 1 diwrnod. I archebu lle, ewch i www.mudtrek.com neu ffoniwch 01267 202423.

Cuddfan sy'n Croesawu Ceffylau, Pengelli Farm Lodge, Pengelli
Ar gyrion godidowgrwydd Fforest Brechfa, y mae Pengelli Farm Lodge, sydd ond wedi agor yn ddiweddar.  Llety ffrâm bren yw Pengelli Farm Lodge wedi'i leoli ar gre geffylau 122 erw sydd â golygfeydd godidog o Ddyffryn Cothi. Mae'r llety clyd hwn â lle ar gyfer hyd at 5 o bobl ac yn cynnwys lle byw a bwyta mawr agored, llosgwr coed cysurus a theras mawr dan do ynghyd â thwba twym yn yr awyr agored sy'n berffaith ar gyfer gwylio'r haul yn machlud dros y dyffryn. Mae hwn yn llecyn delfrydol ar gyfer pobl sy'n hoffi marchogaeth gan fod llwybrau troellog drwy'r fforest gerllaw ar gael ar garreg y drws.  Gallwch hefyd archebu stablau ar y fferm ar gyfer eich ceffyl.

Pris:  7 noson ar gael am gyn lleied â £672 neu 2 noson ar gael am gyn lleied â £192 yn Pengelli Lodge (lle i 5 gysgu) ar sail hunanarlwyo. I archebu lle, ewch i www.pengelliholidaylets.co.uk neu ffoniwch 07747116088.

Seibiant Naddu Cerrig - Stonehouse Carving a Gwely a Brecwast Cilwen Country House, Caerfyrddin
Gall arlunwyr y dyfodol ddod i Gaerfyrddin i roi cynnig ar y grefft gymhleth o naddu cerrig ar gwrs newydd tridiau o hyd yn Stonehouse Carving.  Mae hwn yn seibiant delfrydol ar gyfer y rhai creadigol yn ein mysg sy'n chwilio am wyliau anghyffredin yr haf hwn. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ddysgu holl driciau'r grefft gan gynnwys pa fathau o gerrig sy'n ddelfrydol ar gyfer eu naddu, sut i ddefnyddio offer a chreu dyluniadau posibl ac wedyn byddant yn cael cyfle i ddilyn y cynghorion hyn a rhoi cynnig ar naddu eu dyluniadau traddodiadol eu hunain. Beth am ddilyn y cwrs hwn ac aros yng ngwely a brecwast Cilwen Country House, sydd ond ychydig o filltiroedd i ffwrdd? Mae'r gwely a brecwast hwn, sydd â thair ystafell yn unig, yn lle gwych i ymlacio mewn tawelwch.  Yn ogystal â chael brecwast llawn yn y bore, mae modd ichi gael prydau gyda'r nos hefyd sydd wedi'u paratoi gan ddefnyddio'r cynnyrch lleol gorau megis wyau gan ieir buarth y perchnogion. 

Pris: Gellir archebu lle ar y cwrs tridiau yn Stonehouse Carving am £195 y person sy'n cynnwys cinio, deunyddiau a defnyddio offer y lle. I archebu lle, ewch i: www.stonehousecarving.co.uk. Gellir sefyll am 3 noson yng Ngwely a Brecwast Cilwen Country House am gyn lleied â £210 yn seiliedig ar ddau yn rhannu ar sail gwely a brecwast. I archebu eich lle, ewch i: www.bedandbreakfastwales.net.