Monday, 7 December 2015

Christmas in Carmarthenshire- Festive Events and Yule-Tide Breaks / Nadolig yn Sir Gaerfyrddin – Digwyddiadau a Gwyliau Bach dros yr Ŵyl

Christmas in Carmarthenshire- Festive Events and Yule-Tide Breaks

Here in Carmarthenshire, festive fun is set to descend by the bucketful over the coming month, with a host of yuletide-themed activities and events for all the family on offer; as well a variety of cosy, countryside getaways with remaining availability for the Christmas 2015 period. Check out a few highlights of some of the Christmas-themed events and available accommodation on offer across the country below!

Festive Events

Hop Aboard Santa’s Steam Train - Gwili Steam Railway- 05- 24 December 2015
Throughout December, Gwili Steam Railway will be offering mini adventurers the chance to hop on board a traditional steam train for a magical journey through the Carmarthenshire countryside to Santa’s Grotto at Llwyfan Cerrig Station. There, mince pies, quirky entertainers the Loopy Lewes and a bouncy castle await, as well as Santa himself; along with a tot of sherry for the grown-ups.

Details: Weekend departures throughout December, as well as 22nd and 24th December. Prices from £11 per adult and £9 per child (aged 1-15). Pre-booking essential. For further information call 01267 238213 or visit www.gwili-railway.co.uk

Garden Gastronomy at Festive Foodie Fair- National Botanic Garden of Wales
19-20 December 2015
Foodie delights and gastronomic gifts will all be on offer at the National Botanic Garden of Wales’ Christmas Food Fair on 19 & 20 December, with specialist food and drink producers from all around showcasing their finest produce for visitors to try and buy in the Garden’s beautiful Great Glasshouse. The perfect way to line your stomachs the weekend before the big day itself.

Details: Admission from £9.75 per adult/ £4.95 per child. For more information visit www.gardenofwales.org.uk or call 01558 667149.

Boxing Day Dip for the Brrrrrrrrrrrrrrave! Walrus Dip, Cefn Sidan Beach- 26th December
Cefn Sidan’s sparkling (chilly!) waters will once again welcome brave souls from across the country for its annual Boxing Day Walrus Dip- seeing cold-water warriors tackle the chilly Christmas temperatures en masse, jumping into the sea in a magnificent variety of fancy dress. Over the years, pantomime horses, fairies, Vikings and, of course, Santas have all taken the plunge in aid of charity- drawing in big crowds to cheer on their bravery. The perfect festive challenge in the season of giving.

Price: Free event. For further Information call 01554 742424.

Christmas and New Year Accommodation

Boutique ‘Stay and Dine’ Break- The Corran Hotel and Spa, Laugharne
Hidden deep in the marshlands of Dylan Thomas’ hometown Laugharne, this boutique hideaway is a picturesque base for those wishing to get away from the hustle and bustle and relax in the welsh countryside this Christmas. Rooms are colourful and stylish, each individually decorated, with a luxurious on-site spa and delicious meals inspired by specialities of the region served up in the hotel’s own restaurant. On Christmas Day, the Corran’s expert team of chefs have created a mouth-watering seven course lunch for those sick of the usual turkey and sprouts offering- perfect for those looking to get out of the kitchen this year.

Price: 3 night stay from 24-17 December available from £300pp based on two sharing on a B&B basis. 7 course lunch priced from £75pp- pre-booking essential. To book, visit www.thecorran.com or call 01994 427417.

Save 15% on a New Year Cottage Escape- Coastal Wood Holidays, Marros
Set amongst the peace and tranquillity of 17 acres of woodland, Coastal Wood Holidays offers 5 stylishly renovated stone cottages on a working farm, boasting stunning views over Marros Mountain and national parkland. Ideal for those seeking a quiet countryside escape for the New Year, Keepers Cottage (sleeps 4) is available for three nights from 30th December. With two bedrooms, an open plan kitchen-diner, cosy snug and stylish wet room, Keeper’s Cottage is ideal for families or couples; fully equipped with Christmas tree, mince pies, chocolate truffles and chutney for the festive period.

Price: 3 night stay at Keeper’s Cottage from 30th December- 2nd January available from £345- including a 15% discount. To book, visit www.coastalwoodholidays.co.uk or call 01994 453214.
_________________________________________________________________________________

Nadolig yn Sir Gaerfyrddin – Digwyddiadau a Gwyliau Bach dros yr Ŵyl

Yma yn Sir Gaerfyrddin, mae disgwyl i hwyl yr ŵyl hwylio i mewn dros y mis nesaf, wrth i lu o weithgareddau a digwyddiadau Nadoligaidd gael eu cynnal i’r teulu oll, yn ogystal ag amrywiaeth o wyliau bach clyd dros gyfnod Nadolig 2015. Isod fe welwch uchafbwyntiau’r digwyddiadau Nadoligaidd a’r llety sydd ar gael ledled y sir!

Digwyddiadau’r Ŵyl

Dewch ar Daith ar Drên Stêm Siôn Corn – Rheilffordd Stêm Gwili – 05 - 24 Rhagfyr 2015
Drwy gydol mis Rhagfyr, bydd Rheilffordd Stêm Gwili yn cynnig cyfle i fân anturwyr fynd ar wibdaith hudolus ar drên stêm traddodiadol drwy gefn gwlad Sir Gaerfyrddin i Groto Siôn Corn yng Ngorsaf Llwyfan Cerrig. Bydd mins peis, adloniant y Loopy Lewes a chastell bownsio yn aros amdanoch yno, a Siôn Corn ei hun wrth gwrs; ynghyd â joch o sieri i’r oedolion.

Manylion: Teithiau ar benwythnosau drwy gydol mis Rhagfyr, yn ogystal â’r 22ain a 24ain Rhagfyr. Prisiau: £11 i oedolyn a £9 i blentyn (1-15 oed). Rhaid archebu lle ymlaen llaw. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01267 238213 neu ewch i www.gwili-railway.co.uk

Gastronomeg mewn Gardd yn yr Ŵyl Fwyd Nadoligaidd – Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
19-20 Rhagfyr 2015
Bydd danteithion ac anrhegion gastronomegol ar gael yn yr Ŵyl Fwyd Nadoligaidd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar 19 ac 20 Rhagfyr, a bydd cynhyrchwyr bwyd a diod arbenigol yn arddangos eu cynnyrch gorau i ymwelwyr i’w blasu a’u prynu yn Nhŷ Gwydr hardd yr Ardd. Dyma gyfle perffaith i baratoi eich bola at y diwrnod mawr ei hun.

Manylion: Mynediad yn £9.75 i oedolyn / £4.95 i blentyn. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

Trip Gŵyl San Steffan i’r rhai Dewrrrrr! Trochfa’r Tymor, Traeth Cefn Sidan - 26ain Rhagfyr
Bydd dyfroedd pefriog (ac oer!) Cefn Sidan unwaith eto yn croesawu’r dewrion o bob rhan o’r wlad i ddigwyddiad Trochfa’r Tymor ar Ŵyl San Steffan, pan fydd dewrion dŵr oer y Nadolig yn heidio i’r môr mewn amrywiaeth anhygoel o wisgoedd ffansi. Dros y blynyddoedd, mae ceffylau pantomeim, tylwyth teg, Llychlynwyr, ac wrth gwrs, sawl Siôn Corn, wedi plymio i’r oerfel er mwyn codi arian i elusen, gan ddenu heidiau i’w hannog yn yr hwyl. Dyma’r her Nadoligaidd berffaith yn nhymor y rhoi.

Pris: Digwyddiad am ddim. I gael gwybodaeth bellach, ffoniwch 01554 742424.

Llety dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Gwyliau Bach Bwtîc ‘Aros a Bwyta’ – Gwesty a Sba Corran, Talacharn
Wedi’i guddio yn y corsydd ger tref Dylan Thomas, Talacharn, mae’r llety bwtîc hwn yn llecyn godidog i’r rhai sy’n dymuno dianc rhag y ffws a’r ffair ac ymlacio yng nghefn gwlad Cymru y Nadolig hwn. Mae’r ystafelloedd yn lliwgar a steilus, a phob un wedi’i addurno’n unigol. Mae yno sba moethus, a phrydau blasus wedi’u hysbrydoli gan ddanteithion arbenigol yr ardal a’u gweini ym mwyty’r gwesty. Ar gyfer Dydd Nadolig, mae tîm arbenigol o gogyddion y Corran wedi creu cinio saith cwrs bendigedig i’r rhai sydd wedi diflasu ar y twrci a’r sbrowts arferol – y syniad perffaith i’r rhai sy’n dymuno dianc o’r gegin eleni.

Pris: 3 noson o 24-17 Rhagfyr am £300 y pen, gwely a brecwast, ar sail dau yn rhannu. Cinio 7 cwrs am £75 y pen. Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, ewch i www.thecorran.com neu ffoniwch 01994 427417.

15% i ffwrdd Gwyliau Bwthyn dros y Flwyddyn Newydd - Coastal Wood Holidays, Marros
Mae Coastal Wood Holidays, sydd wedi’i leoli mewn 17 erw o goetir heddychlon a thawel, yn cynnig 5 o fythynnod cerrig wedi’u hadnewyddu’n steilus ar fferm. Ac mae’r golygfeydd dros Fynydd Marros a’r parcdir cenedlaethol yn odidog. Dyma gynnig delfrydol i rai sy’n dymuno dianc i gefn gwlad dros y Flwyddyn Newydd. Mae Bwthyn y Cipar (lle i 4) ar gael am dair noson o 30ain Rhagfyr. Mae yno ddwy ystafell wely, cegin / ystafell fwyta yn un, a lolfa glyd, felly mae’n ddelfrydol i deuluoedd neu bara. Bydd yno goeden Nadolig, mins peis, siocledi a siytni ar gyfer tymor yr ŵyl.

Pris: 3 noson ym Mwthyn y Cipar o 30ain Rhagfyr – 2il Ionawr, am £345 – yn cynnwys gostyngiad o 15%. I archebu, ewch i www.coastalwoodholidays.co.uk neu ffoniwch 01994 453214


Snug Stays Ideal for Winter Walking Breaks in Carmarthenshire / Gwyliau i Gadw’n Glyd ac Mynd ar Grwydr yn y Gaeaf yn Sir Gaerfyrddin

Snug Stays Ideal for Winter Walking Breaks in Carmarthenshire
- Cosy hotel and cottage getaways with spectacular walks on the doorstep in south west Wales-

Winter doesn’t stop play in Carmarthenshire, with its miles of unspoilt countryside, lush forests and rugged coastline offering up fantastic opportunities for bracing winter walks in the great outdoors. For those looking to combine a winter walking escape this year with a snug stay in a cosy cottage or boutique hotel, Discover Carmarthenshire has put together a collection of great accommodation with walks available right from the doorstep.

Full details of the walks on offer in Carmarthenshire can be found here: www.discovercarmarthenshire.com/active/walking.html with winter walking hideaways across the county detailed below:

Homely Hotels....

The Dolaucothi Arms, Pumsaint
Owned by The National Trust and a just 15 minute walk from the Dolaucothi Gold Mines, this is pub perfection with the bonus of three cosy rooms. The flagstone bar welcomes walkers (mud and all) and with a cosy woodburner, local beer and hearty home cooked food it’s the perfect ramblers’ retreat. Rooms are simple yet distinctly cool- with classic muted hues, king sized beds and antique touches. From the doorstep, guests can take their pick from a wealth of walks and bridle paths across 2,500 acres of wooded hills and sweeping valleys, as well as the starkly beautiful Cambrian Mountains.

Details: Priced from £75 a night for a room based on two sharing on a B&B basis. To book, visit www.thedolaucothiarms.co.uk or call 01558 650237. Details of walks in the area can be found here: www.discovercarmarthenshire.com/active/active_images/Dolaucothi.pdf

Gwesty’r Emlyn Hotel, Newcastle Emlyn
This 300 year old coaching inn in the heart of the small market town of Newcastle Emlyn boasts 29 cosy rooms for those in search of a snug winter break, combining sleek and stylish interiors with a warm Welsh welcome. From the hotel’s front door there’s a 10km walking loop taking in the River Teifi (famous for the salmon leap and sewin fishing), Cenarth Falls and the Coracle Centre, as well as ancient stone bridges, quiet country lanes and lush forest. After a bracing stroll, guests can return to an indulgent Welsh afternoon tea or a Sunday lunch of Welsh beef and all the trimmings. The emphasis is on local produce and spoiling yourself here and there’s even a spa with a sauna for warming up any aching winter bones.

Details: Priced from £75 a night based on two sharing on a B&B basis. To book, visit
www.gwestyremlynhotel.co.uk or call 01239 710 317. (do we have a link to the walks in the area?)

Browns Hotel, Laugharne
Dylan Thomas’ old drinking den in the pretty coastal town of Laugharne has now been transformed into a hotel with serious cool factor. Homing 15 stylish bedrooms, each room offers a subtle 1950’s twist - think vintage suitcases and heavy Welsh blankets- whilst the bar upholds a traditional charm with hearty homemade dishes alongside welsh real ales. There are several walking trails around Laugharne which combine its literary history with the beautiful coastal surroundings, including the ‘Dylan Thomas Birthday Walk’ inspired by his 1944 poem 'Poem in October'. This 2 mile walk takes you from Laugharne castle up the headland for magnificent views of the estuary, with views stretching out towards the Gower, north Devon and Tenby; as well as taking in Dylan’s home- The Boathouse- and his famous writing shed.

Details: Priced from £95 a night for a room based on two sharing and includes breakfast. To book, visit www.browns-hotel.co.uk or call 01994 427 688. Details on walks in the area can be found here: www.discovercarmarthenshire.com/active/active_images/DT_Laugharne_Trail_English.pdf

Ty Mawr Country Hotel, Brechfa 
This cosy, secluded hotel hideaway is tucked away on the edge of the beautiful Brechfa Forest; ideal for couples in search of a tranquil country getaway this winter. With an excellent on-site restaurant serving up dishes inspired by local Welsh produce, guests can spend days working up an appetite exploring the glorious surrounding countryside and come back to a delicious meal by the roaring fireplace. A walker’s paradise, 6,500 hectares of the Brechfa forest are on your doorstep, with endless walking and mountain biking trails at your disposal. The hotel has details of a selection of walks from the door, which take from half an hour to all day, and the hotel lends its boiler room for wet walkers to dry their clothes should winter weather strike...

Details: Prices from £115 a night for a room based on two sharing on a B&B basis. To book, visit www.wales-country-hotel.co.uk or call 01267 202 332. Details on walks in the area can be found here: www.discovercarmarthenshire.com/active/active_images/Brechfa-forest.pdf

Cosy Cottages...

Gwel y Don, Llansteffan 
This beautiful Grade II listed townhouse in the coastal hamlet of Llansteffan sleeps up to 7 in 4 cosy bedrooms, making it a great option for families or groups in search of a winter getaway in the great outdoors. Boasting exposed beams, white washed walls and stripped hardwood flooring, the cottage is both spacious and stylish, with spoiling views of the Taf estuary, log burners and a great pub practically next door to boot. A 3 mile circular walk takes in Llansteffan’s dramatic coastline and rich history- taking walkers of all abilities up to Llansteffan’s iconic castle, down to its beautiful sandy beach and along the Wales Coastal Path to Scott’s Bay; a hidden sandy bay, which you’re more than likely to have all to yourself.

Details: 3 night stays (Fri-Mon) priced from £318.10 based on up to seven sharing on a self-catering basis. To book, visit www.underthethatch.co.uk/don.
Details on walks in the area can be found here: www.discovercarmarthenshire.com/active/active_images/Llansteffan2.pdf

Tir-y-Lan, near Llandeilo
Set in 35 acres of their own slice of the Brecon Beacon’s National Park, these two holiday properties are just 15 minutes from the M4 and two miles from the spectacular hilltop Carreg Cennen Castle. Enjoying fantastic views in a quiet secluded countryside location, these are barn conversions that Kevin McCloud would approve of, with two living areas (good for multigenerational families), swanky kitchens, under floor heating and high speed internet. A stroll within the grounds of the barns is wonderful for wildlife – a timid herd of deer can often be seen at dusk- whilst there is also woodland, streams and open fields to enjoy. For the more intrepid, the owners can suggest a longer walk– an 8-mile ‘round the block’ hike in the Brecon Beacons with a fair few ups and downs.

Details: 2 night stays priced from £278 based on up to 8 sharing Tywi Barn (sleeps 8) on a self-catering basis. To book, visit www.tirylan.com or call 07815 871 430.

For more information on the walks and accommodation on offer across Carmarthenshire, please visit www.discovercarmarthenshire.com.
_________________________________________________________________________________

Gwyliau i Gadw’n Glyd ac Mynd ar Grwydr yn y Gaeaf yn Sir Gaerfyrddin
- Gwyliau clyd mewn gwestai a bythynnod, a chyfleoedd godidog i fynd am dro ar stepen y drws yn ne-orllewin Cymru  -


Nid yw’r gaeaf yn atal y chwarae yn Sir Gaerfyrddin, gyda’i milltiroedd o gefn gwlad godidog, coedwigoedd trwchus ac arfordir garw yn cynnig cyfleoedd gwych i fynd am dro gaeafol yn yr awyr agored. Os ydych yn chwilio i gyfuno cyfleoedd cerdded â gwyliau bach mewn bwthyn clyd neu westy bwtîc, mae Darganfod Sir Gâr wedi llunio casgliad o lety gwych sydd â chyfleoedd cerdded hyfryd ar stepen y drws.

Mae manylion llawn y cyfleoedd cerdded sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin i’w gweld fan hyn: http://www.discovercarmarthenshire.com/cymraeg/actif/cerdded.html.  A dyma fanylion y cynigion arbennig am lety addas i gerdded y gaeaf hwn:

Gwestai Cartrefol....

The Dolaucothi Arms, Pumsaint
Mae’r dafarn hon yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae rhyw chwarter awr o gerdded o Fwyngloddiau Aur Dolaucothi. Dyma’r dafarn berffaith, ac mae’n cynnwys tair ystafell wely glyd. Caiff cerddwyr (yn fwd i gyd) eu croesawu i’r bar llawr cerrig gan dân coed, cwrw lleol a bwyd cartref blasus – yr encil perffaith i grwydrwyr. Mae’r ystafelloedd yn syml ond eto’n unigryw a’u lliwiau’n glasurol; mae ynddynt welyau maint brenin ac ambell grair o addurn. O stepen y drws, gall gwesteion ddewis o blith cyfoeth o lwybrau cerdded a llwybrau marchogaeth ar draws 2,500 o erwau o fryniau coediog a dyffrynnoedd eang, yn ogystal â harddwch mynyddoedd Cambria.

Manylion: Prisiau o £75 y nos, gwely a brecwast, am ystafell ar sail dau yn rhannu. I archebu, ewch i www.thedolaucothiarms.co.uk neu ffoniwch 01558 650237. Mae manylion llwybrau cerdded yr ardal i’w gweld fan hyn: www.discovercarmarthenshire.com/active/active_images/Dolaucothi.pdf

Gwesty’r Emlyn, Castellnewydd Emlyn
Dyma dafarn 300 oed yng nghanol tref farchnad Castellnewydd Emlyn. Mae’n cynnig 29 o ystafelloedd clyd i’r rhai sy’n chwilio am wyliau bach ganol gaeaf, gan gyfuno arddull steilus a chroeso cynnes Cymreig. O ddrws ffrynt y gwesty, cewch ddilyn llwybr cerdded 10km gan weld Afon Teifi (sy’n enwog am eogiaid yn neidio, a physgota sewin), Rhaeadr Cenarth a’r Ganolfan Gwrwgl, yn ogystal â phontydd cerrig hynafol, lonydd tawel cefn gwlad a choedwigoedd eang. Ar ôl diwrnod o grwydro, gall gwesteion ddychwelyd i gael te prynhawn Cymreig hyfryd neu ginio Sul o gig eidion Cymreig a’r holl drimins. Mae’r pwyslais fan hyn ar gynnyrch lleol a sbwylio eich hun, ac mae hyd yn oed spa a sawna yma i gynhesu’r cyhyrau gaeafol.

Manylion: Gwely a brecwast o £75 y nos ar sail dau yn rhannu. I archebu, ewch i
www.gwestyremlynhotel.co.uk neu ffoniwch 01239 710 317. (do we have a link to the walks in the area?)


Gwesty Browns, Talacharn
Mae hoff lecyn yfed Dylan Thomas yn nhref arfordirol hardd Talacharn bellach wedi’i drawsnewid yn westy arbennig o ddeniadol. Mae yma 15 o ystafelloedd gwely steilus, a phob un yn cynnig arlliw o’r 1950au – dychmygwch gesys hen ffasiwn a blancedi Cymreig trwm – tra bo’r bar yn cynnig cyfaredd draddodiadol a phrydau cartref blasus ynghyd â chwrw Cymreig go iawn. Mae nifer o lwybrau cerdded o amgylch Talacharn sy’n cyfuno ei hanes llenyddol â’r amgylchedd arfordirol hardd, gan gynnwys Llwybr Pen-blwydd Dylan Thomas a ysbrydolwyd gan gerdd a luniodd ym 1944, 'Poem in October'. Mae’r 2 filltir o lwybr yn mynd â chi o gastell Talacharn ar hyd y pentir, gan gynnig golygfeydd godidog o’r aber a draw i Benrhyn Gŵyr, gogledd Dyfnaint a Dinbych y Pysgod, a chewch weld cartref Dylan Thomas, a’i sied ysgrifennu enwog.

Manylion: Prisiau o £95 y nos ar sail dau yn rhannu, gan gynnwys brecwast. I archebu, ewch i www.browns-hotel.co.uk neu ffoniwch 01994 427 688. Mae manylion llwybrau cerdded yr ardal i’w gweld fan hyn: www.discovercarmarthenshire.com/active/active_images/DT_Laugharne_Trail_English.pdf

Gwesty Gwledig Tŷ Mawr, Brechfa
Mae’r gwesty clyd diarffordd hwn ynghudd ar ymyl harddwch coedwig Brechfa. Mae’n ddelfrydol i gyplau sy’n chwilio am gyfle i ddianc i dawelwch cefn gwlad y gaeaf hwn. Mae yno fwyty rhagorol yn y gwesty, sy’n cynnig prydau wedi’u hysbrydoli gan gynnyrch lleol Cymreig, a gall gwesteion dreulio’r dyddiau yn magu chwant bwyd wrth grwydro drwy’r ardal wledig o amgylch a dychwelyd wedyn i gael pryd blasus wrth ymyl tanllwyth o dân. Paradwys i gerddwyr yw coedwig Brechfa, sy’n 6,500 hectar, ac mae yno ar stepen drws y gwesty, gan gynnig dewis di-ben-draw o lwybrau cerdded a beicio mynydd. Mae gan y gwesty fanylion detholiad o lwybrau cerdded o’r drws, sy’n cymryd rhwng hanner awr i ddiwrnod cyfan, a chaiff cerddwyr gwlyb sychu eu dillad yn ystafell y bwyler petai’n troi’n aeafol...

Manylion: Gwely a brecwast o £115 y nos am ystafell ar sail dau yn rhannu. I archebu, ewch i www.wales-country-hotel.co.uk neu ffoniwch 01267 202 332. Cewch fanylion ar lwybrau cerdded yr ardal fan hyn: www.discovercarmarthenshire.com/active/active_images/Brechfa-forest.pdf

Bythynnod Clyd...

Gwêl y Don, Llansteffan 
Tŷ tref rhestredig Gradd II hardd ym mhentref arfordirol Llansteffan yw hwn. Mae lle i hyd at 7 gysgu yno, mewn 4 ystafell wely glyd, gan olygu ei fod yn ddewis gwych i deuluoedd neu grwpiau sydd eisiau dianc ar wyliau i’r awyr agored. Mae yno drawstiau agored, waliau gwyngalch a lloriau pren, ac mae digon o le yn y bwthyn steilus. Ger y tân coed, cewch fwynhau golygfeydd godidog dros aber afon Taf, ac mae tafarn wych dafliad carreg o’r tŷ. Beth am fynd i grwydro ar 3 milltir o lwybr cerdded? Cewch weld arfordir trawiadol Llansteffan a’i hanes cyfoethog wrth ddilyn y llwybr sy’n hebrwng cerddwr o bob gallu lan i gastell eiconig Llansteffan, i lawr i’r traethau tywod ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i Fae Scott – bae tywodlyd cudd na ŵyr llawer amdano.

Manylion: 3 noson o arhosiad hunanarlwyo (Gwener - Llun) o £318.10 ar sail hyd at saith yn rhannu. I archebu, ewch i www.underthethatch.co.uk/don.
Cewch fanylion ar lwybrau cerdded yn yr ardal fan hyn: www.discovercarmarthenshire.com/active/active_images/Llansteffan2.pdf


Tir-y-Lan, ger Llandeilo
Wedi’u lleoli mewn 35 erw o’u darn bach eu hunain o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r ddau lety gwyliau hyn ryw chwarter awr o’r M4, a dwy filltir o Gastell Carreg Cennen. Mae yma olygfeydd godidog mewn lleoliad gwledig diarffordd,  a byddai Kevin McCloud yn siŵr o gymeradwyo’r gwaith a wnaed i adnewyddu’r sguboriau hyn. Mae yma ddwy ardal fyw (addas i deuluoedd sawl cenhedlaeth), ceginau moethus, gwres dan y lloriau a chyswllt cyflym â’r we. Cewch grwydro drwy dir y sguboriau gan fwynhau’r bywyd gwyllt – mae gyr o geirw swil yn aml i’w gweld wrth iddi nosi, a chewch fwynhau’r goedwig, y nentydd a’r caeau agored. I’r rhai dewr, gall y perchnogion awgrymu llwybr cerdded pellach – cylch o 8 milltir ym Mannau Brycheiniog sydd ag ambell fryn i’w ddringo.

Manylion: Arhosiad hunanarlwyo am 2 noson yn Sgubor Tywi (lle i 8 gysgu) o £278 ar sail 8 yn rhannu. I archebu, ewch i www.tirylan.com neu ffoniwch 07815 871 430.

I gael mwy o wybodaeth am y llwybrau cerdded a’r  llety sydd ar gael ledled Sir Gaerfyrddin, ewch i www.darganfodsirgar.com.